Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os yw'ch cyflogwr wedi mynd yn fethdalwr a bod ei fusnes yn cael ei drosglwyddo neu ei feddiannu gan gwmni arall, mae'n bosib y bydd eich hawliau cyflogaeth wedi'u diogelu, gan ddibynnu ar ba fath o achos ansolfedd ydyw. Mae'r warchodaeth a gynigir yn y sefyllfa hon ychydig yn wahanol i'r warchodaeth a gynigir mewn proses drosglwyddo arferol.
Os yw'ch cyflogwr wedi mynd yn fethdalwr a'i fod yn cau'r busnes, yn gwerthu'r asedau ac yn dosbarthu'r elw i gredydwyr, mae'n debygol na chaiff eich hawliau cyflogaeth eu diogelu os caiff y busnes ei drosglwyddo neu ei feddiannu. Fel arfer, mae'r math hwn o ansolfedd yn cynnwys methdaliad neu ddiddymu'r cwmni.
Os yw'ch cyflogwr wedi mynd yn fethdalwr a'i fod yn ceisio achub y busnes, mae'n bosib y caiff eich hawliau cyflogaeth eu diogelu os caiff y busnes ei drosglwyddo neu ei feddiannu. Mae'r math hwn o ansolfedd yn cynnwys rhoi'r busnes yn nwylo'r gweinyddwyr neu drefniant gwirfoddol gyda chredydwr.
Os yw'ch 'cyflogwr trosglwyddo' (eich cyflogwr gwreiddiol) yng nghanol achos o ansolfedd, mae'n bosib y bydd arian yn ddyledus i chi gan eich cyflogwr trosglwyddo. Nid yw'r cyfrifoldeb i dalu'r holl arian sy'n ddyledus i chi yn trosglwyddo gyda'ch contract cyflogaeth i'ch cyflogwr newydd.
Dim ond yr arian sy'n weddill ar ôl i chi gael arian gan y Gronfa Yswiriant Gwladol y mae'ch cyflogwr newydd yn gyfrifol amdano. Dylech allu wneud hawliad am gyfran o'r swm hwnnw drwy'r Gronfa Yswiriant Gwladol ar gyfer:
Ni allwch hawlio tâl dileu swydd na thâl rhybudd gan nad yw'ch swydd wedi dod i ben.
Mewn proses arferol o drosglwyddo neu feddiannu busnes, ni all eich cyflogwr newydd newid telerau ac amodau eich cyflogaeth am unrhyw reswm yn ymwneud â'r trosglwyddo. Fodd bynnag, caiff y gwaharddiad hwn ei godi mewn achos o ansolfedd. Gallai eich cyflogwr trosglwyddo, eich cyflogwr newydd neu'r ymarferydd ansolfedd leihau eich cyflog neu newid telerau ac amodau eraill eich cyflogaeth ar ôl y trosglwyddo.
Rhaid gwneud pob newid gyda'r bwriad o wneud yn siŵr y gall y cyflogwr newydd ymdopi â'r gweithlu a drosglwyddir, gyda'r swyddi yn cael eu hachub o ganlyniad. Mae hyn yn golygu, yn wahanol i broses drosglwyddo arferol, ei bod yn rhaid i'r trosglwyddo ei hun neu reswm sy'n gysylltiedig â'r trosglwyddo fod yn brif reswm, neu'r unig reswm, dros y newid.
Rhaid cytuno ar y newidiadau gyda chynrychiolwyr cyflogeion. Caiff y cynrychiolwyr eu dewis mewn ffordd debyg i'r cynrychiolwyr y dylid ymgynghori â nhw cyn trosglwyddiadau perthnasol, a gallent fod yr un cynrychiolwyr.
Gweithleoedd lle caiff undeb llafur annibynnol ei chydnabod
Os caiff undeb llafur annibynnol ei chydnabod yn eich gweithle, mae'n rhaid i'r cynrychiolwyr hyn fod yn gynrychiolwyr undeb llafur a gydnabyddir at ddibenion cydfargeinio gan y cyflogwr.
Yn dilyn hynny, dylai cynrychiolwyr yr undeb llafur a naill ai eich cyflogwr trosglwyddo, eich cyflogwr newydd neu'r ymarferydd ansolfedd gytuno ar y newidiadau yn nhelerau ac amodau eich cyflogaeth. Mae'n bosib y byddant yn ymdrin â'r achos yn gynt nag arfer oherwydd yr amgylchiadau anodd sy'n gysylltiedig ag ansolfedd.
Gweithleoedd lle na chaiff undeb llafur ei chydnabod
Os na chaiff undeb llafur ei chydnabod yn eich gweithle, gall cynrychiolwyr nad ydynt yn cynrychioli undebau llafur gytuno ar delerau ac amodau cyflogaeth gyda naill ai'r cyflogwr trosglwyddo, y cyflogwr newydd neu'r ymarferydd ansolfedd.
Lle bydd cynrychiolwyr nad ydynt yn cynrychioli undebau llafur yn dod i gytundeb:
Bydd yn rhaid i'r cyflogwr roi copi i bob cyflogai perthnasol cyn y gellir llofnodi'r cytundeb. Os nad yw'n ymarferol i'r holl gynrychiolwyr ei lofnodi, gall un person awdurdodedig lofnodi'r cytundeb ar ran y cynrychiolwyr.
Ni chaiff y cytundeb dorri dim un o'ch hawliau cyflogaeth statudol eraill. Er enghraifft, ni chaiff unrhyw gyfraddau cyflog y cytunwyd arnynt fod yn is na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Bydd y math o achos ansolfedd y mae'ch cyflogwr yn ei wynebu yn effeithio ar y warchodaeth a gynigir i chi yn ystod proses o drosglwyddo neu feddiannu busnes.
Methdaliad
Os yw'ch cyflogwr yn unigolyn neu'n bartner mewn busnes ac wedi mynd yn fethdalwr ac yn gwerthu'r busnes, ni fydd eich cyflogaeth yn trosglwyddo i'r cwmni sy'n prynu'ch cwmni. Mae'n bosib y bydd gennych hawl i daliadau ansolfedd a dileu swydd gan y Gronfa Yswiriant Gwladol.
Diddymiad gorfodol
Pan fydd gorchymyn llys yn dirwyn cwmni i ben ar sail y ffaith na all dalu ei ddyledion, ni fydd eich cyflogaeth yn trosglwyddo i gyflogwr newydd. Bydd pob contract cyflogaeth yn dod i ben ar y diwrnod y gwneir y gorchymyn llys. Mae'n bosib y bydd gennych hawl i daliadau ansolfedd a dileu swydd gan y Gronfa Yswiriant Gwladol.
Diddymiad gwirfoddol gan y credydwyr
Os yw'ch cyflogwr wedi gofyn i ddiddymwr werthu'r busnes am ei fod yn wynebu diddymiad gwirfoddol gan y credydwyr, ni fydd eich cyflogaeth yn trosglwyddo i gyflogwr newydd.
Mae'n bosib y bydd gennych hawl i daliadau ansolfedd a dileu swydd gan y Gronfa Yswiriant Gwladol.
Diddymiad gwirfoddol gan yr aelodau
Nid yw diddymiad gwirfoddol gan yr aelodau yn achos o ansolfedd – mae'n ffordd solfent o ddirwyn cwmni i ben. Mae hyn yn golygu os bydd eich cyflogwr yn wynebu diddymiad gwirfoddol gan yr aelodau y caiff eich contract cyflogaeth ei ddiogelu os caiff y busnes ei drosglwyddo neu ei feddiannu. Mae'n bosib y bydd rhai o'ch hawliau yn wahanol i'r warchodaeth a geir yn ystod proses arferol o drosglwyddo neu feddiannu busnes.
Yn nwylo Gweinyddwyr
Prif bwrpas rhoi cwmni yn nwylo gweinyddwyr yw achub y cwmni. Os nad yw hyn yn bosib, bydd gweinyddwr yn ceisio sicrhau gwell canlyniad i'r credydwyr na fyddai'n bosib petai'r cwmni'n cael ei ddirwyn i ben. Credydwyr yw'r bobl neu'r cwmnïau sydd ag arian yn ddyledus iddynt gan y busnes ansolfent.
Os nad oes dim un o'r rhain yn bosib, bydd gweinyddwr yn gwerthu eiddo'r cwmni er mwyn gwneud taliad rhannol o leiaf i un neu ragor o'r prif gredydwyr neu'r credydwyr mwyaf sicredig, megis y cyflogeion neu'r banc.
Os mai prif bwrpas gweithredoedd y gweinyddwr yw achub y busnes neu sicrhau gwell canlyniad i gredydwyr heb ddirwyn y cwmni i ben, caiff eich contract cyflogaeth ei ddiogelu os caiff y busnes ei drosglwyddo neu ei feddiannu. Mae'n bosib y bydd rhai o'ch hawliau yn wahanol i'r warchodaeth a geir yn ystod proses arferol o drosglwyddo neu feddiannu busnes.
Trefniadau gwirfoddol gyda chredydwyr
Mae'n bosib y bydd modd i gyflogwr a fydd yn mynd i drafferthion ariannol osgoi methdaliad neu ddirwyn y cwmni i ben drwy ddod i drefniant gyda'i gredydwyr. Defnyddir trefniadau gwirfoddol ffurfiol pan fydd credydwyr yn cael cyfarfod ac yn cynnal pleidlais ar drefniant arfaethedig a gynigiwyd gan eich cyflogwr gyda chymorth ymarferydd ansolfedd trwyddedig.
Os bydd eich cyflogwr yn gwneud trefniant gwirfoddol caiff eich contract cyflogaeth ei ddiogelu os caiff y busnes ei drosglwyddo neu ei feddiannu.
Mynd i ddwylo'r gweinyddwyr a mathau eraill o dderbyniaeth
Os bydd cwmni'ch cyflogwr yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr neu unrhyw fath arall o dderbyniaeth caiff eich contract cyflogaeth ei ddiogelu os caiff y busnes ei drosglwyddo neu ei feddiannu. Er, mae'n bosib y bydd rhai o'ch hawliau yn wahanol i'r warchodaeth a geir yn ystod proses arferol o drosglwyddo neu feddiannu busnes.
Cwmnïau amlwladol
Os bydd eich cyflogwr yn wynebu achosion tramor yr un pryd â'r achos o fethdaliad, gallai hyn effeithio ar eich hawliau. Dylech gysylltu â llinell gymorth Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) neu geisio cyngor gwahanol.