Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Trosglwyddo contractau cyflogaeth

Os bydd y busnes yr ydych chi'n gweithio iddo yn cael ei drosglwyddo neu ei feddiannu, mae'n bosib y caiff eich hawliau cyflogaeth eu diogelu. Gallech hefyd fod â hawliau os yw'ch cyflogwr presennol neu'ch darpar gyflogwr yn dymuno newid eich contract cyflogaeth oherwydd y trosglwyddo.

Sut y diogelir eich hawliau cyflogaeth

Os bydd y busnes yr ydych chi'n gweithio iddo yn cael ei drosglwyddo neu ei feddiannu dan y Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth), a elwir yn 'TUPE', bydd eich hawliau cyflogaeth wedi'u diogelu.

Pan wneir trosglwyddiadau a ddiogelir dan TUPE, bydd y cyflogwr newydd yn derbyn bron holl hawliau a rhwymedigaethau eich contract cyflogaeth, gan gynnwys:

  • holl delerau ac amodau blaenorol eich cyflogaeth
  • methiant y cyflogwr blaenorol i gydymffurfio â thelerau eich contract cyflogaeth neu'ch hawliau (sy'n golygu, er enghraifft, y gallech wneud hawliad o wahaniaethu ar sail rhyw yn erbyn eich cyflogwr newydd, er i hynny ddigwydd cyn y trosglwyddo)
  • gwyliau yr ydych wedi'u cronni
  • bydd dyddiad cychwyn eich cyfnod o gyflogaeth ddi-dor yn aros yr un fath, ac ni thorrir eich cyflogaeth ddi-dor
  • unrhyw gytundebau ar y cyd a wnaed

Os bydd eich cyflogwr newydd yn gwrthod bodloni telerau'ch contract, bydd hyn yn golygu ei fod yn torri'ch contract cyflogaeth.

Os nad ydych chi’n awyddus i weithio i'r cyflogwr newydd

Gallwch wrthod gweithio i'r cyflogwr newydd. Rhaid i chi roi gwybod i'ch cyflogwr presennol neu'r darpar gyflogwr eich bod yn gwrthwynebu'r trosglwyddo. Bydd hyn yn cael ei ystyried yn ymddiswyddo ar eich rhan chi ac ni allwch hawlio i chi gael eich diswyddo'n annheg na chael tâl dileu swydd.

Os byddwch yn canfod bod y trosglwyddo wedi arwain at 'newid sylweddol' er gwaeth yn eich amodau gwaith, neu y bydd yn arwain at hynny, bydd gennych hawl i ymddiswyddo a hawlio diswyddo annheg.

Newid eich contract cyflogaeth

Mae rheoliadau TUPE ar waith er mwyn helpu i wneud yn siŵr na roddir telerau ac amodau cyflogaeth gwaeth i chi pan gewch eich trosglwyddo. Mae hyn yn golygu nid yn unig y caiff eich telerau ac amodau blaenorol eu trosglwyddo ar ddiwrnod cyntaf eich cyflogaeth gyda'r cyflogwr newydd, ond hefyd na ddylech golli eich hawliau cyflogaeth.

Cyn y trosglwyddo

Bydd yr un cyfyngiadau yn berthnasol i'ch cyflogwr cyn dechrau'r broses o drosglwyddo neu feddiannu'r busnes. Er enghraifft, os yw'ch cyflogwr yn gwybod y bydd eich cyflogaeth yn cael ei drosglwyddo i gwmni arall, ni chaiff newid telerau ac amodau eich cyflogaeth fel eu bod yn cyd-fynd â thelerau ac amodau cyflogaeth y cwmni arall.

Ar ôl y trosglwyddo

Ni chaiff eich cyflogwr newid telerau ac amodau eich cyflogaeth os bydd arno eisiau gwneud hynny oherwydd:

  • y trosglwyddo ei hun
  • rheswm sy'n gysylltiedig â'r trosglwyddo nad yw'n 'rheswm economaidd, technegol na threfniadaethol'

Mae hyn yn golygu petai'ch cyflogwr yn dymuno newid telerau ac amodau eich cyflogaeth am reswm nad yw'n gysylltiedig â'r trosglwyddo, byddai'n bosib iddo wneud hynny. Er enghraifft, petai'ch cyflogwr newydd yn colli archeb ddisgwyliedig gan gwmni gweithgynhyrchu efallai y bydd angen iddo newid telerau ac amodau cyflogaeth y gweithlu.

Os caiff telerau ac amodau eich cyflogaeth eu newid am un o'r rhesymau hyn, bydd y newidiadau yn annilys ac yn amherthnasol. Dylech ofyn am gyngor gan Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu).

Newidiadau cadarnhaol yn eich contract cyflogaeth

Os bydd eich cyflogwr yn dymuno newid telerau ac amodau eich cyflogaeth er gwell, caniateir iddo wneud hyn ar yr amod eich bod chi'n cytuno â'r newidiadau. Er enghraifft, efallai y bydd eich cyflogwr am gynyddu eich gwyliau fel bod holl gyflogeion y cwmni yn cael yr un faint o wyliau.

Ni all eich cyflogwr bennu telerau ac amodau newydd dilys heb gytundeb y cyflogeion. Mae'n rhaid i'r cyflogeion neu gynrychiolwyr eu hundeb llafur gytuno ar unrhyw newidiadau ar eu rhan.

Hawliau pensiwn

Caiff eich hawliau pensiwn cwmni (a elwir hefyd yn bensiwn galwedigaethol) yr ydych wedi'u cronni hyd at unrhyw drosglwyddo eu diogelu pan gaiff y busnes ei drosglwyddo neu ei feddiannu.

Ond, os cynigiodd eich cyflogwr blaenorol gynllun pensiwn cwmni i chi, nid oes rhaid i'ch cyflogwr newydd barhau â phensiwn cwmni sy'n union yr un fath. Dylai'ch cyflogwr newydd gynnig isafswm pensiwn galwedigaethol i chi i gyfateb â'ch cyfraniadau o hyd at chwech y cant o'ch cyflog at bensiwn cyfranddeiliaid neu gynllun pensiwn cyfatebol.

Hawliau i daliadau dileu swydd

Ar ôl y trosglwyddo, mae'n bosib y bydd eich cyflogwr newydd am leihau nifer y cyflogeion. Os caiff eich swydd ei dileu neu os cewch eich diswyddo am reswm economaidd neu dechnegol, efallai y bydd gennych hawl i dâl dileu swydd.

Ni chaiff eich cyflogwr ddewis dileu eich swydd chi dim ond oherwydd eich bod wedi cael eich trosglwyddo i'r cwmni. Os yw'ch cyflogwr wedi defnyddio meini prawf dethol teg a gwrthrychol ar gyfer dileu swyddi ac y dewisir dileu eich swydd chi, byddai hyn yn cael ei ystyried yn deg. Er enghraifft, os bydd yn rhaid i'ch cyflogwr newydd gau rhan o'r cwmni am nad yw'n perfformio felly nid oes angen cyflogeion â'ch sgìl arbenigol chi arno, byddech yn gymwys i gael yr un hawliau dileu swydd ag unrhyw gyflogai arall.

Beth i'w wneud nesaf

Ar ôl y trosglwyddo, sicrhewch eich bod yn cael datganiad ysgrifenedig o fanylion cyflogaeth cyfredol. Dylai hwn roi enw'ch cyflogwr newydd a dweud nad yw eich telerau nac amodau wedi newid.

Peidiwch â dychryn os cewch P45 - yn aml y cyfan y mae hyn yn ei olygu yw bod eich cofnodion treth yn cael eu diweddaru, nid eich bod allan o waith.

Allweddumynediad llywodraeth y DU