Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Trosglwyddo a meddiannu busnes: etholiadau a chynrychiolwyr cyflogeion

Fel arfer, cynhelir ymgynghoriadau'r gweithle ynghylch trosglwyddo neu feddiannu busnes drwy gyfrwng cynrychiolwyr cyflogeion a enwebwyd. Os nad oes gan eich gweithle undeb llafur cydnabyddedig, mae'n bosib y bydd angen i chi ethol cynrychiolwyr cyflogeion. Os cewch eich ethol yn gynrychiolydd cyflogeion, bydd eich hawliau cyflogaeth yn cael eu diogelu.

Trefniadau ar gyfer etholiadau

Os bydd angen ethol cynrychiolwyr cyflogeion yn arbennig ar gyfer hyn, dylai'ch cyflogwr wneud y canlynol:

  • sicrhau, cyn belled ag y bo modd, bod yr etholiad yn deg
  • penderfynu faint o gynrychiolwyr y mae angen eu hethol er mwyn sicrhau y cynrychiolir buddiannau'r holl gyflogeion perthnasol (gan ystyried lefel a nifer y cyflogeion hynny)
  • penderfynu a ddylid cynrychioli'r holl gyflogeion yr effeithir arnynt fel un gweithlu ynteu fel grwpiau gan ddibynnu ar lefel y cyflogeion (e.e. rheolwr, gweithwyr ar lawr y siop ac ati)
  • penderfynu am faint o amser y bydd angen i'r cynrychiolwyr cyflogeion ymgymryd â'u dyletswyddau

Dylid bodloni'r amodau canlynol hefyd:

  • credir bod yr ymgeiswyr ar gyfer cynrychiolwyr cyflogeion, ar ddyddiad yr etholiad, yn gyflogeion y bydd y broses o drosglwyddo neu feddiannu busnes yn effeithio arnynt
  • ni chaiff dim un cyflogai yr effeithir arno gan y broses o drosglwyddo neu feddiannu busnes ei atal yn afresymol rhag sefyll yn yr etholiad
  • mae gan bob cyflogai yr effeithir arno gan y broses o drosglwyddo neu feddiannu busnes hawl i bleidleisio ar gyfer cynrychiolwyr cyflogeion
  • cyn belled ag y bydd yn bosib, dylid gallu bwrw pleidlais yn gyfrinachol
  • rhaid cyfrifo'r pleidleisiau'n gywir

Dylech allu pleidleisio dros gynifer o ymgeiswyr ag y mae'ch cyflogwr wedi penderfynu y bydd eu hangen i'ch cynrychioli. Er enghraifft, os yw'ch cyflogwr wedi datgan bod angen tri chynrychiolydd cyflogeion, dylech allu pleidleisio dros dri ymgeisydd.

Os bydd cynrychiolydd cyflogeion yn gadael neu'n penderfynu peidio parhau â'r rôl, dylid cynnal etholiad arall er mwyn ethol cynrychiolydd newydd.

Hawliau cynrychiolwyr cyflogeion

Mae gan gynrychiolwyr cyflogeion ac ymgeiswyr ar gyfer etholiadau warchodaeth a hawliau penodol sy'n eu helpu i gyflawni eu rolau. I bob pwrpas, mae'r rhain yr un fath â gwarchodaeth a hawliau aelodau undebau llafur.

Dylai ymgeiswyr a chynrychiolwyr cyflogeion fod â chysylltiad agos â chyflogeion yr effeithir arnynt gan y broses o drosglwyddo neu feddiannu busnes. Dylent hefyd allu cael gafael yn hawdd ar gyfleusterau (e.e. ffôn).

Bydd beth sy'n 'briodol' yn amrywio yn ôl yr amgylchiadau. Er enghraifft, os oes un llungopïwr yn y swyddfa, efallai y byddai rhoi'r hawl iddynt ei ddefnyddio am awr bob dydd yn rhesymol. Fodd bynnag, os ceir pum llungopïwr nad oes neb yn eu defnyddio, efallai na fyddai hynny'n rhesymol.

Os caiff cynrychiolydd etholedig ei ddiswyddo ac mai'r prif reswm dros hynny yw ei statws neu ei weithgarwch fel cynrychiolydd cyflogeion, caiff hynny ei ystyried yn ddiswyddo annheg. Hefyd, ni ddylai ymgeisydd na chynrychiolydd cyflogeion etholedig gael eu trin yn annheg oherwydd eu statws neu eu gweithgarwch (e.e. lleihau eu horiau).

Os bydd Tribiwnlys yn penderfynu y cafodd cyflogai ei ddiswyddo'n annheg, mae'n bosib y bydd yn rhoi gorchymyn i'r cyflogwr ailbenodi neu ailgyflogi'r cyflogai neu wneud dyfarniad priodol. Os bydd y Tribiwnlys Cyflogaeth yn penderfynu bod cynrychiolydd neu ymgeisydd ar gyfer etholiad wedi cael ei drin yn wael heb iddo gael ei ddiswyddo, mae'n bosib y bydd yn gorchymyn y telir iawndal iddo.

Mae gan gynrychiolydd etholedig hawl hefyd i gael amser rhesymol o'r gwaith gyda thâl yn ystod oriau gwaith arferol er mwyn cyflawni dyletswyddau cynrychioli. Dylid parhau i dalu eu cyflog arferol i gynrychiolwyr pan na fyddant yn y gwaith.

Beth i'w wneud os byddwch chi'n wynebu problemau

Mae Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) yn cynnig cyngor a chymorth cyfrinachol ar faterion sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Neu, gallech gysylltu â'ch Canolfan Cyngor Ar Bopeth leol i ofyn am help.

Os na allwch ddatrys y broblem gyda'r cyflogwr yn anffurfiol, efallai y bydd modd i chi wneud cwyn i Dribiwnlys Cyflogaeth. Dylech fod yn gynrychiolydd etholedig neu'n gynrychiolydd undeb llafur a naill ai'n teimlo:

  • nad yw'r cyflogwr wedi dilyn y gofynion o ran gwybodaeth neu ymgynghori
  • eich bod wedi cael eich diswyddo neu eich trin yn annheg (y gwahaniaethwyd yn eich erbyn) oherwydd eich rôl
  • neu fod eich cyflogwr wedi bod yn afresymol wrth wrthod rhoi amser o'r gwaith i chi neu fod eich cyflogwr wedi gwrthod eich talu am eich amser o'r gwaith

Allweddumynediad llywodraeth y DU