Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Gwybodaeth i gyflogeion yn ystod proses trosglwyddo neu feddiannu busnes

Os yw busnes eich cyflogwr yn cael ei drosglwyddo neu ei feddiannu, bydd yn rhaid iddo ddarparu gwybodaeth benodol am y gweithlu i'ch cyflogwr newydd. Bydd eich hawliau cyflogaeth yn cael eu diogelu ac ni all eich darpar gyflogwr 'ddewis a dethol' pa gyflogeion y bydd yn eu derbyn.

Gwybodaeth a ddarperir i'r cyflogwr newydd

Bydd yn rhaid i'r cyflogwr sy'n eich trosglwyddo i gyflogwr newydd (a elwir 'y cyflogwr trosglwyddo') ddarparu gwybodaeth i'ch cyflogwr newydd am y cyflogeion a drosglwyddir, gan gynnwys:

  • eu manylion
  • oedran
  • y manylion a geir yn eu 'datganiad o fanylion cyflogaeth'
  • unrhyw gytundebau ar y cyd sy'n berthnasol iddynt
  • camau disgyblu a gymerwyd yn erbyn y cyflogeion yn y ddwy flynedd diwethaf dan y gweithdrefnau statudol ar gyfer datrys anghydfodau – cyn 6 Ebrill 2009
  • camau disgyblu a gymerwyd yn erbyn y cyflogeion dan y Cod Ymarfer ar drefniadau cwyno a disgyblu – ar ôl 6 Ebrill 2009
  • cwynion a godwyd gan y cyflogeion yn y ddwy flynedd diwethaf dan y gweithdrefnau statudol ar gyfer datrys anghydfodau
  • cwynion a godwyd gan y cyflogeion dan y Cod Ymarfer ar drefniadau cwyno a disgyblu – ar ôl 6 Ebrill 2009
  • unrhyw gamau cyfreithiol a gymerwyd gan y cyflogeion a drosglwyddir yn erbyn y cyflogwr trosglwyddo yn y ddwy flynedd diwethaf
  • unrhyw achosion cyfreithiol posib y mae'r cyflogwr trosglwyddo yn rhesymol gredu y bydd y cyflogeion a drosglwyddir yn eu codi o bosib

Dylid darparu'r wybodaeth hon o leiaf bythefnos cyn cwblhau'r trosglwyddo. Dylai hyn helpu'ch cyflogwr newydd i ddeall eich hawliau chi a'i ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau ef wrth baratoi ar eich cyfer.

Diswyddo o ganlyniad i drosglwyddo neu feddiannu busnes

Ni chaiff eich darpar gyflogwr ddewis a dethol pa gyflogeion y bydd yn eu cyflogi, ac ni chaiff ychwaith eich diswyddo dim ond oherwydd eich bod wedi cael eich trosglwyddo.

Os yw'ch diswyddiad yn gysylltiedig â'r trosglwyddo caiff hyn ei ystyried yn annheg, oni bai y ceir rheswm 'economaidd, technegol neu drefniadaethol' dros newid y gweithlu.

Gallai'r angen i ddileu swyddi oherwydd bod y cwmni wedi colli contract yn annisgwyl fod yn enghraifft o newid economaidd, technegol neu drefniadaethol yn y gweithlu.

Ni ddylai eich cyflogwr, er enghraifft, dderbyn staff fel rhan o'r gweithlu ac yna penderfynu bod y gweithlu yn rhy fawr a mynd ati i ddileu swyddi. Byddai hyn yn rheswm sy'n gysylltiedig â'r trosglwyddo.

Beth i'w wneud os byddwch chi'n wynebu problemau

Mae Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) yn cynnig cyngor a chymorth cyfrinachol ar faterion sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Neu gallech gysylltu â'ch Canolfan Cyngor Ar Bopeth leol i ofyn am help.

Os na allwch ddatrys y broblem gyda'r cyflogwr yn anffurfiol, efallai y bydd modd i chi wneud cwyn i Dribiwnlys Cyflogaeth. Mae'n rhaid eich bod yn gyflogai, wedi cyflawni 12 mis o gyflogaeth ddi-dor a naill ai:

  • wedi cael eich diswyddo am reswm sy'n gysylltiedig â throsglwyddo neu feddiannu'r busnes
  • neu'n teimlo bod gennych hawl i ymddiswyddo neu'ch bod yn cael eich gorfodi i wneud hynny an reswm sy'n gysylltiedig â throsglwyddo neu feddiannu busnes

Os ydych am wneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth am unrhyw un o'r rhesymau hyn, bydd yn rhaid i chi gyflwyno'ch cwyn cyn pen tri mis. Os ydych am wneud hawliad am daliad dileu swydd, dylech gyflwyno hawliad cyn pen chwe mis.

Allweddumynediad llywodraeth y DU