Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Diogelu cyflogaeth yn ystod proses o drosglwyddo a meddiannu busnes

Os yw'r busnes, rhan o fusnes neu ddarparwr gwasanaeth yr ydych chi'n gweithio iddo yn newid dwylo, gall y Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth), a elwir yn 'TUPE', ddiogelu eich contract cyflogaeth presennol.

Trosglwyddo busnes a newidiadau o ran darparu gwasanaeth

Caiff dau fath o drosglwyddiad eu diogelu dan TUPE:

  • trosglwyddiadau busnes
  • newidiadau o ran darparu gwasanaeth

Trosglwyddiadau busnes

Pan fydd busnes, menter neu ran o fusnes neu fenter yn cael ei drosglwyddo o un cyflogwr i'r llall, gelwir hyn yn drosglwyddiad busnes. Gall hyn gynnwys uno cwmnïau pan fydd dau gwmni yn dod i ben ac yn cyfuno i ffurfio cwmni newydd.

I gael eich diogelu gan TUPE yn ystod trosglwyddiad busnes, mae'n rhaid bod gennych gyflogwr newydd. Er enghraifft, nid yw achos o drosglwyddo cyfranddaliadau cwmni yn gymwys dan TUPE, oherwydd byddai'r un cwmni yn dal yn gyflogwr i chi.

Newidiadau o ran darparu gwasanaeth

Mae newidiadau o ran darparu gwasanaeth yn fwy cyffredin mewn contractau gwaith ar gyfer glanhau swyddfeydd, arlwyo yn y gweithle neu ddiogelwch. Fel arfer, mae'n digwydd yn un o'r tair sefyllfa hyn:

  • pan fydd gwasanaeth yr oedd eich cyflogwr yn arfer ymgymryd ag ef yn cael ei roi i gontractiwr (gelwir hyn yn 'gontractio allan' neu'n 'rhoi ar gontract allanol')
  • pan roddir contract i gontractwr newydd yn ystod proses aildendro
  • pan fydd contract yn dod i ben, gyda'r cyn-gleient yn darparu'r gwasanaeth 'yn fewnol' (gelwir hyn yn 'gontractio i mewn' neu'n 'rhoi ar gontract mewnol')

Ceir dwy eithriad pan gaiff newid o ran darparu gwasanaeth ei ddiogelu gan TUPE, sef os bydd y contract:

  • yn cyflenwi nwyddau at ddefnydd y cwmni (e.e. bwyty sy'n newid eu cyflenwyr bwyd)
  • ar gyfer un digwyddiad penodol neu dasg tymor byr (e.e. cwmni arlwyo a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth arlwyo mewn digwyddiad corfforaethol mawr)

I gael eich diogelu dan newid o ran darparu gwasanaeth, mae'n rhaid i chi allu dangos yn glir eich bod yn cyflawni'r gwasanaeth a drosglwyddir.

Er enghraifft, os ydych yn gweithio i wasanaeth cludo, ac y gallai amryw o negeseuwyr gwahanol fod yn danfon ac yn casglu nwyddau ar gyfer y busnes ar sail ad hoc, ni fyddech yn rhan o dîm amlwg o gyflogeion.

Fodd bynnag, petaech yn cael eich cyflogi'n uniongyrchol fel glanhawr gan gwmni swyddfa mawr a bod y cwmni'n penderfynu defnyddio cwmni glanhau allanol, byddai eich swydd a thelerau ac amodau eich cyflogaeth yn cael eu diogelu dan TUPE.

Diogelu dan TUPE

I gael eich diogelu dan TUPE, mae'n rhaid bod y cwmni sy'n rhan o'r trosglwyddiad busnes neu'n gwneud newidiadau o ran darparu gwasanaeth yn gwmni o'r DU. Mae'n bosib y bydd rhai trosglwyddiadau yn cynnwys newidiadau o ran darparu gwasanaeth yn ogystal â'r trosglwyddiad busnes, er enghraifft, os bydd eich cyflogwr yn rhoi gwasanaeth ar gontract allanol. Ni fydd hyn yn gwneud gwahaniaeth i'ch swydd chi.

Byddwch wedi'ch diogelu dan TUPE, waeth beth yw maint y busnes yr ydych yn gweithio iddo. Nid yw'n gwneud dim gwahaniaeth p'un ai a yw'n fusnes mawr a chanddo filoedd o gyflogeion ynteu'n fusnes bach iawn, fel siop, tafarn neu garej.

Os ydych yn rhan o drosglwyddiad sy'n gymwys i gael ei ddiogelu dan TUPE:

  • dylai'ch swydd gael ei throsglwyddo i'r cwmni newydd
  • dylai telerau ac amodau eich cyflogaeth gael eu trosglwyddo
  • dylai'ch cyflogaeth ddi-dor barhau

Os ydych yn ansicr a ydych wedi'ch diogelu gan TUPE, dylech geisio cyngor pellach. Mae gan Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) linell gymorth sy'n cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar bob maes cyflogaeth. Neu gallech gysylltu â Chyngor Ar Bopeth, neu os ydych yn aelod o undeb llafur dylech gysylltu â chynrychiolydd eich undeb llafur.

Contractwyr

Os ydych yn cael eich cyflogi gan gontractwr (e.e. ym maes arlwyo neu lanhau) sy'n colli contract i gontractwr arall, dylech fynd i'r gwaith yn ôl eich arfer oni ddywedir fel arall wrthych. Fel arfer byddwch chi a'ch contract cyflogaeth yn cael eich trosglwyddo'n awtomatig i'r contractwr llwyddiannus.

Os byddwch yn canfod nad oes swydd ar eich cyfer chi, gallwch ystyried dwyn achos o ddiswyddo annheg yn erbyn y ddau gyflogwr mewn Tribiwnlys Cyflogaeth. Efallai y gallwch hefyd ddwyn achos am beidio ag ymgynghori cyn trosglwyddo o dan TUPE.

Trosglwyddiadau yn y sector cyhoeddus

Yn gyffredinol, nid yw trosglwyddiadau o fewn llywodraeth leol na llywodraeth ganolog yn cael eu diogelu dan TUPE. Fodd bynnag, mae gan Swyddfa'r Cabinet ddatganiad o arfer ar 'Drosglwyddiadau Staff yn y Sector Cyhoeddus', sydd, i bob pwrpas, yn gwarantu y caiff unrhyw gyflogeion a gaiff eu trosglwyddo eu trin fel cyflogeion a ddiogelir dan TUPE.

Os ydych yn gweithio mewn llywodraeth leol neu llywodraeth ganolog a'ch bod yn cael eich trosglwyddo o'r sector cyhoeddus i'r sector preifat, byddwch wedi'ch diogelu gan TUPE. Hefyd, mae Datganiad o Arfer Swyddfa'r Cabinet ar 'Drosglwyddiadau Staff yn y Sector Cyhoeddus' yn cynnwys mathau eraill o warchodaeth.

Trosglwyddiadau lle mae'r cyflogeion yn gweithio y tu allan i'r DU

Os ydych yn cael eich cyflogi gan gyflogwr yn y DU ond eich bod yn gweithio y tu allan i'r DU, mae'n dal yn bosib i chi gael eich diogelu gan TUPE. Yr hyn sy'n bwysig mewn trosglwyddiad busnes yw ei fod yn cynnwys busnes o'r DU a'u 'mentrau' yn y DU.

Mewn trosglwyddiad busnes, os oes gan y cwmni yr ydych yn gweithio iddo 'fenter' yn y DU (e.e. eiddo, asedau, gosodiadau a ffitiadau, cyflogeion) ond eich bod chi'n rhan o dîm sy'n treulio'r rhan fwyaf o'ch wythnos waith y tu allan i'r DU (er enghraifft, fel rhan o dîm gwerthu), dylech gael eich diogelu dan TUPE.

Os yw'r cwmni yr ydych yn gweithio iddo ar fin gwneud newidiadau o ran darparu gwasanaeth, mae'n rhaid bod ganddo grŵp trefnus o gyflogeion yn y DU er mwyn iddo fod yn gymwys i gael ei ddiogelu dan TUPE.

Er enghraifft, os bydd contract i gynnal a chadw gwefan yn dod i ben a rhywun arall yn ymgymryd â'r contract. Os ydych yn rhan o dîm o gyflogeion sydd wedi gweithio ar y contract yn ganolog yn y DU ond bod un o'r Technegwyr Technoleg Gwybodaeth yn gweithio o'i gartref y tu allan i'r DU, dylech ddal i gael eich diogelu dan TUPE. Ond, petai'r tîm cyfan yn gweithio o'u cartref a bod eu cartref y tu allan i'r DU, mae'n anhebygol y byddech yn cael eich diogelu gan TUPE gan na fyddai grŵp trefnus o gyflogeion.

Allweddumynediad llywodraeth y DU