Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Cewch yma'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch am eich hawl i wyliau blynyddol â thâl, sut mae cyfrifo eich hawl i hwyliau yn ôl eich patrwm gweithio, cronni eich gwyliau a'i drosglwyddo i'r flwyddyn nesaf, a chymryd eich gwyliau.
Mae gan bob gweithiwr hawl i isafswm o 5.6 wythnos o wyliau blynyddol â thâl, ond fe allai eich cyflogwr gynnig mwy. Cewch yma wybod sut mae mynd ati i gyfrifo'ch hawl i wyliau, gan gynnwys eich hawliau yng nghyswllt gwyliau banc.
Bydd eich hawl i wyliau yn dibynnu ar eich cyflogwr, ond bydd faint yn union o ddiwrnodau hefyd fod yn dibynnu ar eich oriau gwaith neu ar eich patrwm gweithio. Dilynwch y ddolen isod i gyfrifo beth yw'ch lwfans gwyliau.
Efallai y bydd gan gyflogwyr 'system groniadau' ar gyfer hawl gwyliau. Fel arall, bydd ganddo flwyddyn wyliau sy'n nodi'r cyfnod pryd ddylech chi gymryd eich gwyliau. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy am sut mae'r cynlluniau hyn yn gweithio.
Pan fyddwch wedi cyfrifo eich hawl i wyliau, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn rhoi'r rhybudd cywir i'ch cyflogwr. Mae'n bosib y bydd rhai contractau'n nodi pryd y dylech gymryd rhywfaint o'ch gwyliau. Dylai eich cyflogwr sicrhau ei fod yn eich talu'n gywir am eich gwyliau.