Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Amser o'r gwaith ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus

Os ydych yn gyflogai, mae gennych hawl i amser o'r gwaith ar gyfer rhai gwasanaethau a dyletswyddau cyhoeddus. Bydd eich hawliau'n amrywio, gan ddibynnu ar eich gwaith a beth yw'r ddyletswydd neu'r gwasanaeth.

Ydych chi'n gymwys?

Mae gennych hawl i amser o'r gwaith os ydych yn 'gyflogai' ac yn un o'r canlynol:

  • ynad, a elwir weithiau'n ynad heddwch
  • cynghorydd lleol
  • llywodraethwr ysgol
  • aelod o awdurdod yr heddlu
  • aelod o unrhyw dribiwnlys statudol (ee Tribiwnlys Cyflogaeth)
  • aelod o gorff llywodraethu neu gorff rheoli sefydliad addysgol
  • aelod o fwrdd neu gyngor ysgol yn yr Alban
  • aelod o Gynghorau Addysgu Cyffredinol Cymru a Lloegr
  • aelod o Asiantaeth yr Amgylchedd neu asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban
  • yng Nghymru a Lloegr, yn aelod o fyrddau monitro annibynnol y carchardai, neu yn yr Alban, yn aelod o'r pwyllgorau ymweld â charchardai
  • aelod o Scottish Water neu Banel Ymgynghori Cwsmeriaid Dŵr

Nid oes gennych hawl i amser o'r gwaith ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus os ydych:

  • yn weithiwr/wraig asiantaeth
  • yn aelod o wasanaeth yr heddlu neu'n aelod o'r lluoedd arfog
  • wedi'ch cyflogi ar lwyfan nwy neu olew ar y môr
  • yn forwr masnachol
  • yn gyflogedig ar gwch pysgota
  • yn was sifil a'ch dyletswyddau cyhoeddus yn gysylltiedig â gweithgareddau gwleidyddol sy'n gyfyngedig dan delerau eich cyflogaeth

Amser rhesymol o'r gwaith

Os ydych chi'n gymwys, fe gewch amser rhesymol o'r gwaith i fynd i gyfarfodydd neu i gyflawni eich dyletswyddau. Rhaid i chi a'ch cyflogwr gytuno ar yr amser ymlaen llaw a gall eich cyflogwr wrthod eich cais os yw'n afresymol. Nid yw'r gyfraith yn pennu maint penodol o amser o'r gwaith.

Penderfynir a yw eich cais am amser o'r gwaith yn 'rhesymol' ar sail:

  • beth yw'r dyletswyddau
  • faint o amser y mae ei angen i'w cyflawni
  • yr effaith ar fusnes eich cyflogwyr
  • faint o amser rydych chi eisoes wedi'i gael ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus neu ddyletswyddau undeb llafur

Tâl am amser i ffwrdd

Does dim rhaid i'ch cyflogwyr dalu i chi am amser o'r gwaith ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus, er bod llawer yn gwneud hynny. Fel arfer, bydd eich contract cyflogaeth yn dweud a gewch chi'ch talu am yr amser hwn ai peidio.

Mathau eraill o ddyletswyddau

Mae llawer o gyflogwyr yn awyddus i ddangos ymrwymiad i'w cyfrifoldeb cymdeithasol ac yn rhoi amser o'r gwaith i'w cyflogeion sy'n aelodau o gyrff megis yr heddlu arbennig neu'r Fyddin Diriogaethol. Fodd bynnag, does dim rhaid i'ch cyflogwyr roi'r amser hwn i chi. Os gelwir ar aelodau'r Fyddin Diriogaethol i wasanaethu, bydd eu swyddi wedi'u gwarchod.

Dyletswyddau undeb llafur

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur mae gennych hawl i amser rhesymol o'r gwaith ar gyfer gweithgareddau a dyletswyddau'r undeb llafur.

Gwasanaeth rheithgor

Rhaid i'ch cyflogwyr roi amser o'r gwaith i chi wasanaethu ar reithgor.

Beth i'w wneud nesaf

Os oes gennych ddyletswyddau cyhoeddus, dylech roi gwybod i'ch cyflogwyr am faint y byddwch chi'n absennol o'r gwaith a pha drefniadau y mae angen eu gwneud yn ystod eich absenoldeb.

Os bydd eich cyflogwyr yn eich atal rhag cael amser o'r gwaith ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus, dylech yn y lle cyntaf ddilyn y drefn gwyno a nodir yn eich contract cyflogaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU