Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall gweithio rhan-amser fod yn ffordd dda o gydbwyso'ch gwaith a'ch ymrwymiadau personol. Os ydych chi’n gweithio’n rhan-amser, mae gennych yr hawl i gael eich trin yr un mor deg â'ch cyd-weithwyr amser llawn.
Rhywun sy’n gweithio llai o oriau na gweithiwr amser llawn yw gweithiwr rhan-amser. Nid oes yn rhaid i chi neilltuo nifer penodol o oriau i fod yn weithiwr amser llawn neu ran-amser, ond bydd gweithiwr amser llawn fel arfer yn gweithio 35 awr neu ragor mewn wythnos.
Mae'r rhesymau dros weithio’n rhan-amser yn wahanol ar gyfer pob unigolyn. Fe all olygu'n syml eich bod yn awyddus i gael gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, neu fod gennych gyfrifoldebau gofalu. Os oes gennych ddiddordeb mewn newid eich patrymau gwaith, fe allai fod yn werth i chi ddarllen am weithio hyblyg.
Mae trefniadau rhannu swydd yn fath arbennig o waith rhan-amser, lle caiff swydd amser llawn ei rhannu rhwng dau weithiwr rhan-amser. Gellir rhannu’r swydd mewn nifer o ffyrdd, er mwyn gweddu orau i amgylchiadau pawb. Er enghraifft, gallech chi ddewis gweithio yn y boreau, a chyd-weithiwr i chi weithio bob prynhawn. Neu, gallech rannu’r wythnos rhyngoch, fel bod y ddau ohonoch yn gweithio tri diwrnod penodol gyda chyfnod trosglwyddo un diwrnod bob wythnos.
Mae rhannu swydd yn rhoi’r fantais o oriau penodol i chi a'ch cyflogwr. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i chi drefnu pethau megis gofal plant, a bydd eich cyflogwr yn gwybod y bydd rhywun yno i wneud y gwaith bob amser.
Mae gweithio yn ystod y tymor yn fath o weithio rhan-amser lle gallwch weithio llai o oriau neu gymryd amser o'r gwaith yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae hyn yn galluogi rhieni i ddelio â gofal plant mewn ffordd strwythurol, ac mae’n rhoi amser i gyflogwyr drefnu rhywun i wneud y gwaith yn eich lle pan fyddwch i ffwrdd.
Mae gan weithwyr rhan-amser yr un hawliau cyflogaeth statudol â gweithwyr eraill. Nid oes rhaid i chi weithio isafswm o oriau i fod yn gymwys i gael hawliau cyflogaeth.
Fel gweithiwr rhan-amser mae gennych chi’r hawl:
Gall newid nifer yr oriau y byddwch yn gweithio gael effaith fawr ar y cydbwysedd rhwng eich bywyd a'ch gwaith. Weithiau, bydd anghenion gweithredu'r cwmni lle rydych chi'n gweithio yn ei gwneud yn angenrheidiol i chi newid nifer yr oriau y byddwch yn gweithio. Fodd bynnag, ni waeth p’un ai ydych chi’n gweithio ar sail amser llawn ynteu’n rhan-amser, mae’n rhaid i chi gytuno i unrhyw newidiadau y mae eich cyflogwr am eu gwneud i’ch contract cyflogaeth.
Os ydych chi'n weithiwr rhan-amser a bod eich cyflogwr yn mynnu eich bod yn gweithio amser llawn, gallai hyn fod yn wahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â lle i gael cymorth gyda materion cyflogaeth, ewch i'r dudalen cysylltiadau cyflogaeth neu i gael gwybodaeth ynglŷn ag undebau llafur.