Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael eich talu a slipiau cyflog

Mae gan gyflogeion yr hawl i gael gwybod faint o gyflog a gânt a pha mor aml. Mae ganddynt hefyd yr hawl i gael datganiad cyflog unigol, manwl ac ysgrifenedig gan eu cyflogwyr, naill ai pan gânt eu talu neu'n fuan cyn hynny.

Pa bryd a sut y dylech gael eich talu

Pan fyddwch chi'n dechrau gweithio, dylai eich cyflogwyr ddweud wrthych:

  • ar ba ddiwrnod neu ddyddiad y cewch eich talu - er enghraifft, bob dydd Gwener, neu ar ddiwrnod gwaith ola'r mis
  • sut y cewch eich talu, er enghraifft mewn arian parod, drwy siec neu'n uniongyrchol i'ch banc

Os ydych yn gyflogai, rhaid i chi gael dogfen sy'n nodi faint o gyflog a delir i chi, a pha mor aml, o fewn dau fis i chi ddechrau gweithio. Caiff hyn ei gynnwys yn eich contract cyflogaeth fel arfer.

A ddylech chi gael slip cyflog?

Nid oes gennych yr hawl i gael slip cyflog os:

  • nad ydych yn gyflogai; er enghraifft contractwyr, yn gweithio ar eich liwt eich hun neu'n 'weithwyr'
  • yn aelod o wasanaeth yr heddlu
  • yn fasnachlongwr, yn feistr neu'n aelod o griw sy'n gweithio ar gwch pysgota a rennir sy'n cael cyflog dim ond am gyfran o elw neu enillion gros cwch pysgota

Beth y mae'n rhaid i'ch slip cyflog ei gynnwys

Rhaid i bob datganiad cyflog gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • swm eich cyflog cyn unrhyw ddidyniadau (cyflog gros)
  • swm unigol unrhyw ddidyniadau sefydlog (megis tâl aelodaeth undeb llafur) neu gyfanswm y didyniadau hyn os ydych yn cael 'datganiad annibynnol o ddidyniadau sefydlog' fel y manylir isod
  • swm unigol unrhyw ddidyniadau amrywiol (treth er enghraifft)
  • swm net eich cyflog (sef y cyfanswm ar ôl didyniadau)
  • swm a dull talu unrhyw ran-daliad o gyflog (megis ffigurau arian parod ar wahân a'r balans a gaiff ei roi mewn cyfrif banc)

Mae'n bosib y bydd eich cyflogwr yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol ar eich slip cyflog nad oes yn rhaid iddo ei darparu, er enghraifft:

  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • codau treth
  • gradd cyflog (naill ai'n flynyddol neu fesul awr)
  • hwyrach y caiff taliadau ychwanegol megis rhai goramser, tipiau neu daliadau bonws eu dangos ar wahân

Datganiad annibynnol o ddidyniadau sefydlog

Os na fydd eich cyflogwr yn nodi unrhyw ddidyniadau sefydlog ar eich slip cyflog, mae'n rhaid iddo roi datganiad annibynnol o ddidyniadau sefydlog i chi.

Rhaid i'r datganiad hwn:

  • fod yn ysgrifenedig
  • nodi'r swm a'r cyfnodau y caiff y didyniad ei wneud
  • cynnwys diben neu ddisgrifiad o'r didyniad
  • cael ei roi i chi cyn eich slip cyflog cyntaf gyda'r didyniadau sefydlog
  • cael ei ddiweddaru bob 12 mis o leiaf

Os bydd unrhyw newidiadau a fydd yn effeithio ar eich didyniadau sefydlog, mae'n rhaid i'ch cyflogwr roi hysbysiad ysgrifenedig o'r newid neu roi datganiad diwygiedig i chi.

Beth i'w wneud os bydd gennych broblem gyda'ch slip cyflog

Mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwyr i ddechrau i weld a allwch ddatrys y broblem gyda nhw yn anffurfiol. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith, neu os ydych yn aelod o undeb llafur, fe allwch ofyn iddyn nhw am help. Cewch hefyd fwy o wybodaeth am fudiadau cynghori ar dudalen cysylltiadau Cyflogaeth.

Oni wnaiff hyn weithio, mae'n bosib y gallwch wneud cais i'r Tribiwnlys Cyflogaeth.

Oni chawsoch eich talu'n llawn, dylech ddarllen eich slip cyflog a'ch contract cyflogaeth er mwyn gweld a ydynt yn egluro pam na chawsoch eich talu'n llawn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU