Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Geirda a chynnig swydd

Defnyddir geirdaon gan gyflogwyr i gael gwybod a ydych chi'n addas ar gyfer swydd ac a ydych chi'n weithiwr/wraig dibynadwy. Cyn i chi dderbyn swydd a gynigir i chi, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw eich hawliau a beth y mae darpar gyflogwyr yn ei ddisgwyl gennych.

Geirdaon

Oes rhaid i'ch cyflogwyr roi geirda i chi?

Os byddwch am adael eich swydd, mae'n debyg y byddwch am gael geirda. Mae rhoi geirda'n arfer da, ond does dim rhaid i'ch cyflogwyr wneud hynny oni bai fod eich contract yn dweud fel arall, ac eithrio mewn rhai diwydiannau a reoleiddir, megis gwasanaethau ariannol

Pa wybodaeth fydd yn y geirda?

Rhaid i eirdaon fod yn gywir ac ni ddylent gamarwain y cyflogwyr sy'n gofyn amdanynt. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, os cawsoch chi'ch disgyblu pan oeddech chi'n gweithio i'r cyflogwyr sy'n rhoi'r geirda i chi, y gallai hynny fod yn rhan o'r geirda. Fodd bynnag, oni fyddwch chi'n cytuno i hynny, gan amlaf, ni ddylid cynnwys gwybodaeth megis eich cofnod meddygol nac euogfarnau troseddol sydd wedi dod i ben (gan na fydd y rheiny'n berthnasol).

Os cawsoch chi eirda nad yw'n gywir neu os yw'n camarwain rhywun yn fwriadol, fe all hynny fod yn ddifenwi, ac felly, fe allech chi ddwyn achos enllib. Bydd angen i chi gael sgwrs gyda thwrnai am sut mae gwneud hyn. Os ydych chi'n dal i fod yn gyflogedig, fe all fod yn enghraifft o ddiswyddiad oherwydd ymddygiad cyflogwyr.

Gall cyflogwr dewis rhoi geirda sydd ond yn cadarnhau dyddiadau eich cyflogaeth. Does dim byd anghyfreithlon yn hyn, heblaw bod eich cyflogwr fel arfer yn rhoi geirda llawn ac yn gwahaniaethu yn eich herbyn.

Os bydd eich cyflogwyr yn gwrthod rhoi geirda i chi

Os ydych chi wedi cwyno am ymddygiad gwahaniaethol eich cyflogwyr, a'u bod hwythau o ganlyniad yn gwrthod rhoi geirda i chi, mae'n bosibl y byddwch chi'n gallu dwyn achos gwahaniaethu parhaus (erlid).

Os oes angen geirda arnoch a chithau'n dal i fod yn gyflogedig

Os teimlwch y byddai'r ffaith fod darpar gyflogwyr yn gofyn i'ch cyflogwyr cyfredol am eirda yn peri problem i chi, dywedwch hynny yn eich cyfweliad. Mae'n bosibl y bydd eich darpar gyflogwyr yn barod i aros nes i chi ddweud wrth eich cyflogwyr cyfredol eich bod yn gadael. Does gennych chi ddim gwarchodaeth arbennig dan y gyfraith, ond os cewch chi'ch diswyddo oherwydd bod rhywun yn gofyn i'ch cyflogwyr am eirda i chi, fe allai hyn fod yn ddiswyddo annheg.

Gofyn am gopi o'ch geirda ar ôl dechrau yn eich swydd newydd

Unwaith y byddwch chi'n dechrau gweithio i gyflogwyr newydd, cewch ofyn am gopi o unrhyw eirda a roddwyd iddyn nhw gan eich cyflogwyr blaenorol. Dylen nhw ei roi i chi yn unol â'r ddeddf diogelu data

Cynnig swydd

Cynnig amodol

Os cynigir swydd i chi, mae'n bosibl yr anfonir llythyr cynnig amodol atoch, ac fe ddylai hwnnw nodi:

  • teitl y swydd a disgrifiad swydd byr
  • y lleoliad
  • unrhyw amodau y mae'n rhaid i chi eu bodloni (er enghraifft, geirdaon ac iechyd yn foddhaol)
  • y telerau (er enghraifft, cyflog, oriau, hawl i wyliau)
  • y dyddiad dechrau ac unrhyw gyfnod cynefino
  • beth mae'n rhaid i chi ei wneud nesaf ac erbyn pryd

Cynnig diamod

Os byddwch chi'n bodloni amodau'r llythyr cynnig, dylech dderbyn cynnig diamod, unwaith y bydd eich darpar gyflogwyr yn deall hynny. Os gallwch, arhoswch nes i chi dderbyn y cynnig diamod cyn ymddiswyddo.

Derbyn cynnig diamod

Unwaith i chi dderbyn cynnig diamod, bydd contract cyflogaeth yn bodoli rhyngoch chi a'ch cyflogwyr newydd.

Os na chewch chi'r swydd

Os na lwyddwch chi yn eich cais am swydd, mae'n syniad da cael gwybod pam. Fodd bynnag, does dim rhaid i'r cyflogwyr roi unrhyw adborth i chi.

Beth sy'n digwydd os bydd cyflogwyr yn tynnu'r cynnig yn ôl?

Os mae eich cynnig yn cael ei dileu cyn i chi gael cyfle i dderbyn, neu oherwydd nid ydych wedi cyrraedd yr amodau (er enghraifft, darparu geirda boddhaol), ni allwch gymryd unrhyw weithred, heblaw mae wedi cael ei dileu am resymau o wahaniaeth anghyfreithlon.

Fodd bynnag, unwaith i chi dderbyn cynnig diamod, fe allwch hawlio iawndal am dor-contract os bydd y darpar gyflogwyr yn tynnu'r cyflog yn ôl.

Newid eich meddwl ar ôl derbyn cynnig

Os byddwch chi'n ail-feddwl am swydd rydych chi newydd ei derbyn, gofynnwch i'r cyflogwyr a fydden nhw'n barod i'ch rhyddhau. Rhowch rybudd cyn gynted ag y gallwch chi - cyn i chi ddechrau os oes modd.

Ni fydd eich cyflogwyr yn hapus os digwydd hyn, ac mae 'na bosibilrwydd y byddan nhw'n ceisio'ch siwio chi am dorri contract os na rowch chi o leiaf gymaint o rybudd ag sydd ar eich contract neu ar eich llythyr cynnig.

Y cam nesaf

Os ydych chi'n anhapus gyda chyflogwyr cyn derbyn cynnig swydd neu wedi hynny, dylech gael sgwrs gyda nhw'n anffurfiol i ddechrau i weld a oes modd i chi ddatrys y broblem.

Os ydych chi am gwyno am wahaniaethu, efallai y gallwch fynd at Dribiwnlys Diwydiannol. Os yw eich contract wedi'i dorri, efallai y cewch hawlio drwy'r llysoedd cyffredin.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU