Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fyddwch yn cychwyn ar swydd newydd, mae'n bosib y bydd eich cyflogwr yn dymuno cynnal nifer o archwiliadau. Mae'n bosib y bydd y math o archwiliadau a gynhelir yn dibynnu ar y swydd ac a ydych yn weithiwr ynteu'n gyflogai.
Efallai y bydd angen i gyflogwr cynnal archwiliadau penodol cyn i ddechrau gwaith.
Cyn i chi ddechrau gweithio i gyflogwyr newydd, mae'n debyg y byddan nhw am gael prawf bod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Bydd angen i chi ddangos naill ai un ddogfen neu gyfuniad o ddogfennau i gadarnhau eich bod yn gymwys, ee pasbort, fisa neu drwydded gwaith os nad ydych chi'n frodor. Dylai'ch cyflogwyr ddweud wrthych pa ddogfennau y mae angen i chi eu dangos iddyn nhw.
Fe all cynnig swydd ddibynnu ar fod cyflogwyr yn cael geirda gan eich cyflogwyr cyfredol, ac o bosibl gan gyflogwyr blaenorol hefyd.
Os yw swydd yn gysylltiedig â diogelwch, mae'n bosib y bydd cyflogwyr am gynnal archwiliad i gefndir yr ymgeisydd. Ar gyfer rhai swyddi yn y maes ariannol, mae'n bosib y byddan nhw'n edrych ar eich hanes credyd hefyd. Dylai cyflogwyr drin pob ymgeisydd yn gyfartal yn ystod y broses recriwtio.
Does dim cyfraith yn erbyn casglu gwybodaeth ynghylch hil ac ethnigrwydd wrth recriwtio. Bydd llawer o sefydliadau'n dewis gwneud hyn er mwyn monitro effeithiolrwydd eu polisi cyfle cyfartal. Fodd bynnag, does dim rhaid i chi roi'r wybodaeth hon os nad ydych chi'n dymuno.
Ni chaiff cyflogwyr eich trin yn wahanol oherwydd eich rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol na'ch crefydd.
Mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi gael archwiliad iechyd os yw hynny'n un o ofynion cyfreithiol y swydd (er enghraifft, cael prawf llygaid ar gyfer swydd gyrru). Dylid dweud wrthych am unrhyw archwiliad iechyd pan gynigir y swydd i chi drwy lythyr.
Mae'n bosib y bydd eich cyflogwyr yn gofyn i chi am adroddiad meddygol, ond os felly, rhaid bod ganddynt bolisïau i sicrhau y caiff ei gadw'n ddiogel.
Os ydych chi'n anabl, ni ddylid defnyddio'ch anabledd fel rheswm dros eich dewis chi'n benodol ar gyfer prawf iechyd, heb reswm da. Os gwneir hynny, ac na chewch chi'r swydd o ganlyniad i hynny, gallwch gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth. Mae’n anghyfreithlon trin pobl anabl yn llai ffafriol am eu bod yn anabl. Nid yw hynny'n golygu y bydd wastad yn anghyfreithlon i gyflogwyr ofyn i berson anabl gael archwiliad iechyd, hyd yn oed os na ofynnir i ymgeiswyr eraill. Bydd hyn yn dibynnu ar natur eich anabledd ac ar anghenion y swydd.
Os bydd angen cymwysterau, hyfforddiant neu drwyddedau penodol arnoch ar gyfer swydd, caiff eich cyflogwyr ofyn i chi brofi eu bod gennych. Dylent roi gwybod i chi a ydyn nhw'n gwneud yr archwiliadau hyn ac a ydyn nhw'n bwriadu cadw copïau o unrhyw ddogfennau perthnasol yn eu ffeiliau.
Bydd rhai cyflogwyr am sicrhau a oes gennych gofnod troseddol ai peidio. Bydd rhaid i chi ddatgelu unrhyw euogfarnau os byddwch chi'n gwneud cais am swydd:
Rhaid i gyflogwyr fod wedi'u cofrestru gyda'r Swyddfa Cofnodion Troseddol er mwyn archwilio cofnodion troseddol. Codir ffi am hyn, a gallai'ch cyflogwr ofyn i chi ysgwyddo'r gost.
Os bydd canlyniadau unrhyw archwiliad a gynhaliwyd arnoch yn anfoddhaol, mae gan gyflogwyr yr hawl i gynnig swydd ac wedyn tynnu'r cynnig swydd yn ôl ar ôl i chi ei derbyn.. Mae hyn cyn belled a'ch bod yn ymwybodol cyn i chi dderbyn y swydd bod amodau ynghlwm wrth y cynnig.
Dim ond yr wybodaeth sy'n angenrheidiol ac yn berthnasol i'r archwiliad dan sylw y dylai cyflogwyr ei cheisio. Rhaid i'ch cyflogwyr hefyd sicrhau y cydymffurfir ag egwyddorion Deddf Diogelu Data 1998 wrth ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol.
Rhaid cadw eich cofnodion cyflogaeth yn ddiogel ac, oni chedwir hwy'n unol â'r gofynion statudol, rhaid cael gwared â hwy'n ddiogel pan fyddwch chi'n gadael eich cyflogwyr. Mae gennych hawl i weld yr wybodaeth a gedwir amdanoch. Rhaid i gyflogwyr adael i chi weld yr wybodaeth o fewn 40 diwrnod i'ch cais ac mae'n bosib y codir ffi.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth, neu gallwch ymweld â'r adran cysylltiadau cyflogaeth i weld mwy o gysylltiadau defnyddiol.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw.