Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Caniatâd i weithio yn y DU

Os oes arnoch eisiau dod i’r DU i weithio, mae’n bosib y bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd dan y system bwyntiau. Yma, cewch wybod am y gwahanol haenau, a beth fydd arnoch ei angen ar gyfer eich cais.

Gwneud cais am fisa

Bydd eich hawl i weithio yn y DU yn dibynnu ar o ble rydych chi’n dod. Oni bai eich bod yn ddinesydd Prydeinig neu'n ddinesydd un o wledydd Ardal Economaidd Ewrop (AEE), mae'n bosib y bydd angen fisa arnoch cyn i chi deithio yma.

Os ydych chi, neu’n meddwl eich bod, yn ddinesydd un o wledydd AEE, dylech ddarllen yr erthygl ‘Gweithwyr Ewropeaidd yn y DU’. Bydd yr erthygl hon yn esbonio pwy yw gweithwyr AEE a’r hyn y mae angen iddynt ei wybod cyn gweithio yn y DU.

Os oes rhaid i chi gael fisa, bydd angen i chi gael eich cymeradwyo gan swyddogion Cenhadaeth Dramor Brydeinig yn y wlad rydych chi’n hanu ohoni. Ar ôl i chi gael eich cymeradwyo, bydd y dystysgrif cymeradwyo mynediad, neu'r fisa, yn cael ei rhoi yn eich pasbort neu yn eich dogfen deithio.

Dinasyddion nad ydynt yn dod o un o wledydd AEE na'r Swistir

Os ydych yn dymuno gweithio neu astudio yn y DU ond nad ydych chi'n dod o un o wledydd AEE nac o’r Swistir, mae’n debygol y bydd angen i chi wneud cais dan y system bwyntiau.

Y system bwyntiau

Ceir pum haen yn y system bwyntiau:

  • Haen 1 – mewnfudwyr gwerth uchel/gweithwyr sgilgar iawn, megis gwyddonwyr neu fentrwyr
  • Haen 2 – gweithwyr sgilgar sydd wedi cael cynnig swydd, megis nyrsys
  • Haen 3 – wedi’i gohirio ar hyn o bryd
  • Haen 4 – myfyrwyr
  • Haen 5 – gweithwyr dros dro megis cerddorion sy’n dod i chwarae mewn cyngerdd a phobl sy’n rhan o'r cynllun youth mobility

I gael rhagor o wybodaeth, gweler gwefan Asiantaeth Ffiniau'r DU.

Aelodau’r teulu

Nid oes gan berthnasau gweithwyr yn y DU nad ydynt o’r Undeb Ewropeaidd yr hawl awtomatig i weithio yn y Deyrnas Unedig. Os ydych chi yn y categori hwn, mae’n bosib y bydd angen i chi wneud cais am gerdyn preswylio cyn i chi gael yr hawl i weithio yma o dan gyfraith Ewrop.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU