Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwiriadau o gofnodion troseddol: cyflwyniad

Os byddwch yn gwneud cais am rai swyddi yng Nghymru a Lloegr gellir gofyn i chi gael gwiriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB). Mynnwch wybod pam bod angen cynnal gwiriadau, beth ydynt ac am ba mor hir y maent yn ddilys.

Pam bod angen gwirio cofnodion troseddol

Pan fyddwch yn gwneud cais am fathau penodol o swydd, efallai y gofynnir i chi wneud cais am wiriad o'ch cofnod troseddol. Yn gyffredinol, mae'r rhain yn swyddi sy'n golygu:

  • y byddwch yn gweithio'n rheolaidd gyda phlant neu bobl sy'n agored i niwed
  • y byddwch yn gweithio mewn sefydliad sy'n gyfan gwbl neu'n bennaf i blant
  • y byddwch yn gweithio ym maes gofal iechyd
  • eich bod wedi gwneud cais i fod yn ofalwr maeth, rhiant mabwysiadu neu'n warchodwr plant
  • y byddwch yn gweithio mewn proffesiynau penodol eraill (gallwch gael manylion yr holl broffesiynau hyn drwy ddilyn y ddolen isod)

Os bydd angen i chi gael gwiriad o'ch cofnod troseddol, bydd eich darpar gyflogwr yn rhoi gwybod i chi ac yn dweud wrthych beth i'w wneud nesaf.

Mathau o wiriadau o gofnodion troseddol

Cysylltwch â'r CRB

Ffoniwch linell gymorth y CRB ar 0870 9090 811 neu defnyddiwch y ffurflen ymholiadau ar-lein:

Mae'r CRB yn cynnal dau fath o wiriad:

  • gwiriad safonol y CRB - ar gyfer swyddi penodol, trwyddedau a mynediad i broffesiynau penodol
  • gwiriad manylach y CRB - i'r rheini sy'n gweithio gyda phlant neu oedolion sy'n agored i niwed mewn gweithgarwch rheoledig; pobl sy'n gwneud cais am drwyddedau hapchwarae a loteri; a phenodiadau barnwrol.

Bydd eich cyflogwr yn penderfynu ar lefel y gwiriad sydd ei hangen.

Beth y bydd gwiriad o gofnod troseddol yn ei gynnwys

Bydd gwiriadau safonol y CRB yn cynnwys manylion pob collfarn wedi'i ddisbyddu a heb ei ddisbyddu, rhybuddion, ceryddion a rhybuddion terfynol oddi ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC).

Bydd gwiriad manylach y CRB yn cynnwys unrhyw wybodaeth oddi ar y PNC a gall hefyd chwilio drwy'r canlynol:

  • gwybodaeth a ddalir gan heddluoedd lleol
  • rhestrau o bobl sydd wedi'u gwahardd rhag gweithio gyda phlant ac oedolion sy'n agored i niwed a gedwir gan yr Awdurdod Diogelu Annibynnol (ISA)

Beth yw'r Awdurdod Diogelu Annibynnol?

Mae'r Awdurdod Diogelu Annibynnol (ISA) yn gyfrifol am benderfynu pwy y dylid ei wahardd rhag gweithio gyda phlant neu oedolion sy'n agored i niwed, neu'r ddau. Mae'n cadw dwy restr o bobl wedi'u gwahardd, Rhestr Plant yr ISA a Rhestr Oedolion yr ISA.

Pwy sy'n gweld y gwiriad o'ch cofnod troseddol?

Gall unrhyw unigolyn neu sefydliad sy'n rhan o'r broses recriwtio weld eich gwiriad.

Pan fydd eich cais wedi'i gwblhau, bydd y CRB yn anfon copi o'r dystysgrif atoch. Bydd hefyd yn anfon copi at y person yn y sefydliad a ofynnodd am y gwiriad ac a gyd-lofnododd eich ffurflen.

Rhaid i sefydliadau sy'n defnyddio gwasanaeth y CRB wneud yn siŵr y caiff unrhyw wybodaeth a ddatgelir amdanoch ei defnyddio'n deg a'i chadw'n ddiogel. Bydd ganddynt bolisi data y gallant ei ddangos i chi am y ffordd y byddant yn ymdrin â'ch gwybodaeth.

Pa mor hir y mae gwiriad gan y CRB yn para?

Nid oes cyfnod swyddogol o amser y mae gwiriad gan y CRB yn ddilys ar ei gyfer. Bydd unrhyw wybodaeth a ddatgelir ar dystysgrif y CRB yn cyfateb i'r wybodaeth a ddaliwyd gan yr heddlu, neu'r ISA os yw'n gymwys, ar adeg argraffu'r dystysgrif.

A fydd byth angen i chi gael gwiriad cofnodion troseddol arall?

Efallai y bydd rhai swyddi yn ei gwneud yn ofynnol i chi gael gwiriad arall os byddwch yn aros yn yr un swydd. Cyfrifoldeb eich cyflogwr fydd dweud wrthych am hyn.

Efallai y bydd yn rhaid i chi gael gwiriad arall gan y CRB os byddwch yn symud i swydd arall y mae gwiriad gan y CRB yn ofynnol ar ei chyfer.

Os gofynnwyd i chi wneud cais am wiriad gan y CRB, a bod gennych un eisoes o rôl flaenorol, gallwch ofyn a yw'r sefydliad yn barod i'w dderbyn.

Wrth benderfynu a fydd yn ei dderbyn, bydd y sefydliad yn ystyried y canlynol:

  • y cyfnod o amser sydd wedi mynd heibio ers i'r gwiriad gael ei gyhoeddi
  • lefel y gwiriad sydd ei hangen
  • y rôl y cyhoeddwyd y gwiriad ar ei chyfer
  • y rôl rydych yn gwneud cais amdani

Sut i gysylltu â'r Swyddfa Cofnodion Troseddol

Llinell gymorth y CRB ar gyfer pob ymholiad cyffredinol: 0870 9090 811
rhwng 8.00am a 6.00pm yn ystod yr wythnos rhwng 10.00am a 5.00pm ar ddydd Sadwrn (mae'r llinell ar gau ar ddydd Sul a gwyliau cyhoeddus)

Mae rhif ar wahân ar gyfer ymgeiswyr trawsrywiol yn unig. Ni ellir ymdrîn ag unrhyw ymholiadau cyffredinol a geir ar y rhif hwn na'u trosglwyddo. Mae gan y rhif hwn hefyd wasanaeth peiriant ateb lle gallwch adael eich enw a'ch rhif cyswllt a bydd aelod o'r tîm yn eich ffonio yn ôl.

Dylai ymgeiswyr trawsrywiol ffonio: 0151 676 1452 neu e-bostio: crbsensitive@crb.gsi.gov.uk

Caiff pob galwad i'r CRB ei recordio at ddibenion hyfforddi a diogelwch. Gofynnir cwestiynau diogelwch i gadarnhau pwy ydych.

Allweddumynediad llywodraeth y DU