Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud cais am wiriad o gofnod troseddol

Os gofynnwyd i chi wneud cais am wiriad o'ch cofnod troseddol yng Nghymru neu Loegr, bydd angen i chi wneud cais drwy'r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB). Mynnwch wybod sut i wneud cais, faint y bydd yn ei gostio a pha mor hir y bydd yn ei gymryd.

Faint mae gwiriad o gofnod troseddol yn ei gostio?

Mae gwiriad yn costio:

  • £26 - gwiriad safonol gan y CRB
  • £44 - gwiriad manylach gan y CRB

Efallai y bydd rhai sefydliadau yn talu am y gwiriad ar eich rhan, neu efallai y bydd yn rhaid i chi dalu tâl prosesu am eich cais. Gofynnwch i'ch cyflogwr.

Os ydych yn wirfoddolwr, ni fydd y CRB yn codi tâl, ond efallai y bydd yn rhaid i chi dalu tâl prosesu am eich cais i'r sefydliad sy'n cyflwyno eich ffurflen.

Gofynnwch i'ch sefydliad recriwtio a ydych yn gymwys fel gwirfoddolwr.

Pa mor hir y mae gwiriad o gofnod troseddol yn ei gymryd?

Mae'r CRB yn ceisio cwblhau:

  • 95 y cant o wiriadau safonol o fewn pythefnos i gael eich ffurflen gais
  • 90 y cant o wiriadau manylach o fewn pedair wythnos i gael eich ffurflen gais
  • 100 y cant o bob gwiriad o fewn wyth wythnos i gael eich ffurflen gais

Efallai y caiff rhai ceisiadau eu hoedi os byddwch yn gwneud camgymeriad ar y ffurflen gais, neu os na fyddwch yn darparu holl fanylion eich enw a'ch cyfeiriad.

Mae gwiriadau manylach hefyd yn dibynnu ar gael gwybodaeth gan yr heddluoedd perthnasol a gall hyn oedi eich cais weithiau.

Pwy all ofyn am wiriad o gofnod troseddol?

Os bydd angen gwiriad o gofnod troseddol ar gyfer swydd, gall unrhyw gyflogwr ofyn am un. Fodd bynnag, dim ond sefydliadau sydd wedi'u cofrestru â'r CRB all gyflwyno ceisiadau am wiriadau o gofnodion troseddol.

Mae dau fath o sefydliadau cofrestredig:

  • corff cofrestredig - y cyflogwr
  • corff mantell - corff cofrestredig sy'n prosesu ceisiadau am wiriadau o gofnodion troseddol ar gyfer sefydliadau nad ydynt wedi'u cofrestru

Sut i wneud cais am wiriad o gofnod troseddol

Cysylltwch â'r CRB

Ffoniwch linell gymorth y CRB ar 0870 9090 811 neu defnyddiwch y ffurflen ymholiadau ar-lein

Bydd y person a ofynnodd i chi wneud cais am wiriad naill ai'n:

  • rhoi ffurflen gais bapur i chi ei chwblhau
  • gofyn i chi ffonio llinell geisiadau'r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) ar 0870 90 90 811

Os byddwch yn ffonio'r CRB, bydd angen i chi roi enw a rhif y sefydliad sy'n gofyn i chi am wiriad gan y CRB, a lefel y gwiriad y bydd ei hangen arnoch. Bydd y sefydliad sy'n gofyn am y gwiriad yn dweud wrthych pa lefel y bydd ei hangen arnoch. Yna anfonir ffurflen gais bapur atoch.

Nid yw'n bosibl lawrlwytho ffurflen gais y CRB na gwneud cais ar-lein drwy'r wefan hon.

Allwch chi wneud cais am wiriad o'ch cofnod troseddol eich hun?

Ni all pobl hunangyflogedig nac unigolion wneud cais am wiriad o'u cofnod troseddol eu hunain yn gyfreithiol. Y rheswm dros hyn yw na allant asesu eu haddasrwydd eu hunain am swydd.

Yn lle hynny, efallai y byddwch yn dymuno:

  • cofrestru gydag asiantaeth a all ofyn am wiriad gan y CRB i asesu eich addasrwydd i weithio iddi
  • gwneud cais am wiriad sylfaenol gan Disclosure Scotland a fydd yn darparu manylion unrhyw gollfarnau heb eu disbyddu
  • gwneud cais gwrthrych am wybodaeth o dan y Ddeddf Diogelu Data i'ch heddlu lleol i gael manylion unrhyw gofnod troseddol

Allwch chi ddechrau gweithio cyn i'r gwiriad o'ch cofnod troseddol gael ei gwblhau?

Bydd p'un a allwch ddechrau gweithio yn dibynnu ar y cyflogwr a'r rôl rydych wedi ymgeisio amdani. Er enghraifft, weithiau ar gyfer swyddi gweithwyr gofal, gellir gwirio'r rhestrau sy'n gwahardd pobl rhag gweithio gyda grwpiau sy'n agored i niwed.

Byddai'n rhaid i chi gael eich goruchwylio o hyd nes y caiff y gwiriad o'ch cofnod troseddol ei brosesu a'i gwblhau.

Gofynnwch i'r person sy'n eich recriwtio.

Beth i'w wneud os yw eich manylion personol wedi newid

Oni bai bod angen gwiriad newydd arnoch, nid oes angen i chi ddweud wrth y CRB bod unrhyw rai o'ch manylion wedi newid.

Os bydd angen gwiriad newydd arnoch, rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn darparu'r holl enwau y buoch yn cael eich adnabod oddi wrthynt a'ch hanes cyfeiriadau llawn ar gyfer y pum mlynedd diwethaf ar y ffurflen gais.

Gwrthod gwneud cais am wiriad o'ch cofnod troseddol

Gallwch wrthod caniatáu i wiriad o'ch cofnod troseddol gael ei gynnal. Os gofynnwyd i chi wneud cais am wiriad gan y CRB, ac nad ydych yn meddwl bod y math hwn o wiriad yn briodol, cysylltwch ag un o'r canlynol cyn gwneud cais:

  • Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (mae'r cyfeiriad e-bost isod)
  • Nacro
  • Apex
  • Unlock

Fodd bynnag, mae rhai swyddi y mae gwiriad gan y CRB yn ofynnol ar eu cyfer o dan y gyfraith. Mewn achosion o'r fath, os byddwch yn gwrthod caniatáu i'r gwiriad gael ei gynnal, ni fydd eich cyflogwr yn gallu mynd â'ch cais am swydd ymhellach.

Os ydych eisoes wedi cwblhau ffurflen gais y CRB, a hynny ar gais eich cyflogwr, ac nad ydych yn meddwl bod y math hwn o wiriad yn briodol, gallwch gysylltu â'r CRB ar 0870 90 90 811 neu drwy ddefnyddio'r ffurflen ymholiadau.

ROA@justice.gsi.gov.uk

Sut i gysylltu â'r Swyddfa Cofnodion Troseddol

Llinell gymorth y CRB ar gyfer pob ymholiad cyffredinol: 0870 9090 811
rhwng 8.00am a 6.00pm yn ystod yr wythnos
rhwng 10.00am a 5.00pm ar ddydd Sadwrn (mae'r llinell ar gau ar ddydd Sul a gwyliau cyhoeddus)

Mae rhif ar wahân ar gyfer ymgeiswyr trawsrywiol yn unig. Ni ellir delio ag unrhyw ymholiadau cyffredinol a geir ar y rhif hwn na'u trosglwyddo Mae gwasanaeth peiriant ateb ar gael ar gyfer y rhif hwn lle gallwch adael eich enw a'ch rhif cyswllt a bydd aelod o'r tîm yn eich ffonio yn ôl.

Dylai ymgeiswyr trawsrywiol ffonio: 0151 676 1452 neu e-bostio:

crbsensitive@crb.gsi.gov.uk


Caiff pob galwad i'r CRB ei recordio at ddibenion hyfforddi a diogelwch. Gofynnir cwestiynau diogelwch i gadarnhau pwy ydych.

Allweddumynediad llywodraeth y DU