Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch yn anghytuno â’r canlyniadau ar ôl i’ch archwiliad cofnodion troseddol gyrraedd, dylech roi gwybod i’r Swyddfa Cofnodion Troseddol. Ni waeth a yw’n broblem yn ymwneud â chywirdeb eich manylion personol, neu ffeithiau eich euogfarn, bydd yr erthygl hon yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud nesaf.
Bydd yr holl wybodaeth am euogfarnau a gofnodir ar eich tystysgrif gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn dod o Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu. Bydd manylion unrhyw euogfarnau yn aros ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu tan y diwrnod y cewch eich pen-blwydd yn 100 oed.
Bydd tystysgrifau gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn cynnwys manylion yr holl euogfarnau sydd ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu, yn ogystal â manylion unrhyw rybuddion, ceryddon neu rybuddion terfynol. Bydd y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn datgelu unrhyw wybodaeth berthnasol sydd wedi’i chofnodi gan yr heddlu ar y Cyfrifiadur Cenedlaethol.
Os ydych chi’n poeni am y data sydd amdanoch ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu, gofynnwch am gael siarad â swyddog diogelu data eich heddlu lleol.
Mae gwybodaeth nad yw’n gysylltiedig ag euogfarnau y mae’r heddlu yn credu sy’n berthnasol i’r swydd yn gwnaed cais amdano yn cael ei ddarparu gan yr heddlu o’u cofnodion lleol.
Ffoniwch linell gymorth y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar 0870 9090 811 neu defnyddiwch y ffurflen ymholiadau ar-lein.
Os bydd rhywbeth yn mynd o’i le, cael gwybod sut y mae’r Swyddfa Cofnodion Troseddol yn delio â chwynion.
Os oes camgymeriad ar eich tystysgrif, gallwch ddefnyddio proses anghydfodau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol i roi gwybod iddynt. Dylech geisio cysylltu â’r Swyddfa Cofnodion Troseddol o fewn tri mis ar ôl y dyddiad ar eich tystysgrif.
Ceir dau fath o anghydfod:
Bydd angen i chi wneud y canlynol:
Os ydych chi’n credu bod rhai o’ch manylion personol wedi’u rhestru’n anghywir ar y dystysgrif, dylech roi gwybod i’r Swyddfa Cofnodion Troseddol cyn gynted â phosib drwy ddefnyddio’r ddolen isod.
Bydd y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn ymchwilio i’r anghydfod, ac os mai’r Swyddfa Cofnodion Troseddol wnaeth y camgymeriad, byddwch yn derbyn tystysgrif newydd am ddim. Ond os bydd y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn gweld mai chi, neu bwy bynnag a anfonodd eich cais, wnaeth y camgymeriad, bydd rhaid i chi wneud cais arall am dystysgrif newydd. Bydd rhaid i chi dalu’r ffi briodol i newid y dystysgrif hefyd.
Os ydych chi’n credu bod eich tystysgrif yn cynnwys gwybodaeth anghywir am gofnod troseddol, neu wybodaeth nad yw’n perthyn i chi, bydd angen i chi gysylltu â’r Swyddfa Cofnodion Troseddol. Bydd angen i chi lenwi ffurflen anghydfod yn ymwneud â ffynhonnell, y data, argraffu a llofnodi’r ddogfen, a’i hanfon drwy’r post i:
Rhadbost NWW5699A / Freepost NWW5699A
Tîm anghydfodau / Disputes team
PO Box 165
Lerpwl L69 3JD
Gallwch ffonio llinell anghydfodau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol ar 0870 90 90 811 i gael rhagor o wybodaeth.
Mae’n bosib y bydd angen cymryd olion eich bysedd er mwyn datrys yr anghydfod. Os bydd hyn yn digwydd, bydd y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn rhoi gwybod i chi beth yw’r camau nesaf.
Os caiff eich anghydfod ei dderbyn, bydd y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn cywiro’r camgymeriadau ac yn rhoi tystysgrif newydd i chi am ddim.
Os na chaiff eich anghydfod ei dderbyn, ni fydd y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn gallu gwneud dim byd arall, ond bydd yn rhoi’r manylion cyswllt perthnasol i chi ac yn dweud wrthych â phwy i siarad nesaf.
Os yw’ch tystysgrif yn cael ei cholli neu’i difetha, ni all y Swyddfa Cofnodion Troseddol ddarparu tystysgrif newydd.
Llinell gymorth y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer pob ymholiad cyffredinol: 0870 9090 811
8.00 am hyd at 6.00 pm yn ystod yr wythnos
10.00 am hyd at 5.00 pm ar ddydd Sadwrn (ar gau ar ddydd Sul ac ar wyliau cyhoeddus)
Neu ddefnyddiwch y ddolen isod am y ffurflen ymholiad ar-lein. Mae rhif gwahanol ar gyfer ymgeiswyr trawsrywiol yn unig. Ni chaiff unrhyw ymholiadau cyffredinol a dderbynnir ar y rhif hwn eu delio gydag neu eu trosglwyddo.
Mae gwasanaeth peiriant ateb ar gael ar gyfer y rhif hwn ble y gallwch adael eich enw a rhif gyswllt a gall aelod o’r tîm eich ffonio yn ôl.
Ffôn i ymgeiswyr trawsrywiol yn unig: 0151 676 1452 neu e-bost:
crbsensitive@crb.gsi.gov.ukYmholiadau Welsh 0870 90 90 223
Os bydd rhywbeth yn mynd o’i le, cael gwybod sut y mae’r Swyddfa Cofnodion Troseddol yn delio â chwynion a beth y gallant ei wneud i’ch helpu chi drwy ddefnyddio’r ddolen isod.
Caiff pob galwad i’r Swyddfa Cofnodion Troseddol ei recordio at ddibenion diogelwch a hyfforddi. Gofynnir cwestiynau diogelwch er mwyn sicrhau mai chi ydych chi.