Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cofnodion troseddol - beth ydynt

Os oes gennych gofnod troseddol gallai bara ychydig fisoedd neu sawl blwyddyn yn dibynnu ar eich dedfryd. Mynnwch wybod y wybodaeth sylfaenol am gofnod troseddol a sut, ar ôl cyfnod penodol o amser, na fydd yn rhaid i chi ei ddatgan o bosibl.

Beth yw cofnod troseddol?

Hanes o unrhyw droseddau blaenorol y cawsoch eich dyfarnu'n euog ohonynt yw cofnod troseddol - neu rai rydych wedi cyfaddef eich bod wedi'u cyflawni i'r heddlu. Fe'i cedwir ar gronfa ddata'r heddlu a chyfeirir ato weithiau fel 'cofnod yr heddlu'.

Ni all aelodau o'r cyhoedd weld cofnodion troseddol pobl eraill.

Pryd y gallwch gael cofnod troseddol

Os byddwch yn mynd i'r llys ac yn cael eich collfarnu o drosedd byddwch yn cael cofnod troseddol. Mae hyn yn berthnasol i bob dedfryd y gall y llys ei rhoi - gan gynnwys:

  • rhyddhad
  • dirwyon
  • dedfrydau o garchar

Rhybuddion a hysbysiadau cosb

Weithiau, yn hytrach na'ch cyhuddo, gallai'r heddlu roi rhybudd i chi (neu roi 'cerydd' i chi os ydych yn 10-17 oed). Nid collfarnau troseddol yw'r rhain, ond fe'i cofnodir ar gronfa ddata'r heddlu.

Mae rhai sefyllfaoedd lle na fyddwch yn cael cofnod troseddol - er enghraifft, os byddwch yn cael hysbysiad cosb benodedig.

Mynnwch wybod mwy am rybuddion a hysbysiadau cosb drwy ddilyn y ddolen isod.

Faint o amser mae cofnod troseddol yn para

Mae deddfwriaeth o'r enw Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 yn nodi, yn achos y rhan fwyaf o bobl, na ddylai'r ddedfryd orfod aros gyda nhw ar hyd eu hoes.

Yn dibynnu ar eich dedfryd, mae'r rhan fwyaf o rybuddion a chollfarnau yn 'darfod' yn y pen draw. Mae hyn yn golygu, ar ôl cyfnod penodol o amser (a elwir yn gyfnod adsefydlu), nad oes rhaid i chi ddatgan collfarn flaenorol, er enghraifft os byddwch:

  • yn gwneud cais am yswiriant
  • yn trefnu tenantiaeth ar gyfer eiddo
  • yn gwneud cais am swydd (yn y rhan fwyaf o achosion)

Unwaith y bydd eich collfarn wedi 'darfod', bydd fel pe na baech wedi cyflawni unrhyw drosedd yn y lle cyntaf.

Cyflogaeth a chofnodion troseddol

Os byddwch yn gwneud cais am swyddi penodol - er enghraifft, gweithio gyda phlant - bydd rhai cyflogwyr am gadarnhau a oes gennych gofnod troseddol. Gweler 'Archwiliadau cofnodion troseddol - cyflwyniad' am fwy o wybodaeth.

Dedfrydau na allant byth ddarfod

Ni all rai dedfrydau byth ddarfod. Mae'r tabl isod yn dangos enghreifftiau o pryd y bydd dedfrydau'n darfod. Mae'r cyfnod adsefydlu'n dechrau pan fyddwch yn cael eich collfarnu.

Math o ddedfryd

Cyfnod adsefydlu i bobl o dan 18 oed

Cyfnod adsefydlu
i bobl dros 18 oed

Rhybudd neu gerydd syml

Dim

Dim

Rhybudd amodol

Tri mis

Tri mis

Rhyddhad diamod

Chwe mis

Chwe mis

Rhyddhad amodol

Cyfnod y gorchymyn, neu flwyddyn (pa un bynnag sydd hiraf)

Cyfnod y gorchymyn, neu flwyddyn (pa un bynnag sydd hiraf)

Dirwy llys/Dedfryd gymunedol

Dwy flynedd a hanner

Pum mlynedd

Dedfryd o chwe mis o garchar neu lai (gan gynnwys dedfrydau ataliedig)

Tair blynedd a hanner

Saith mlynedd

Dedfryd o fwy na chwe mis o garchar ond dim mwy na 2 flynedd a 1/2 (gan gynnwys dedfrydau ataliedig)

Pum mlynedd

10 mlynedd

Dedfryd o garchar o fwy na 2 flynedd a 1/2

Byth

Byth

Os ydych yn ansicr pryd bydd eich collfarn yn darfod, gofynnwch am gyngor cyfreithiol.

Os cewch fwy nag un ddedfryd

Os cewch eich collfarnu am gyflawni mwy nag un drosedd, fel arfer byddwch yn cael dedfryd am bob un. Er enghraifft, os byddwch yn cyflawni trosedd yrru a bod yr heddlu hefyd yn dod o hyd i gyffuriau anghyfreithlon yn eich meddiant, byddwch yn cael dedfryd am y ddwy drosedd.

Bydd y cyfnod adsefydlu llawn yn dibynnu ar p'un a yw'r dedfrydau'n cydredeg (ar yr un pryd) neu'n olynol (un ar ôl y llall).

Dedfryd gydredol - enghraifft

Os byddwch yn cael dedfrydau o bedwar mis a chwe mis o garchar y gorchmynnir iddynt gydredeg, bydd yn cyfrif fel un cyfnod o chwe mis. Mae hyn yn golygu mai saith mlynedd yw'r cyfnod adsefydlu.

Dedfryd olynol - enghraifft

Os byddwch yn cael dedfrydau o bedwar mis a chwe mis o garchar y gorchmynnir iddynt redeg yn olynol, caiff y dedfrydau eu hadio at ei gilydd i roi cyfanswm o ddeg mis. Mae hyn yn golygu mai deng mlynedd yw'r cyfnod adsefydlu.

Cofnodion troseddol a'r llys

Fel arfer, ni ellir sôn am gollfarn sydd wedi darfod yn y llys - er enghraifft, ei defnyddio fel tystiolaeth yn eich erbyn.

Os byddwch yn cael eich cyhuddo o drosedd a'ch bod yn mynd i'r llys, ni all unrhyw un sôn am gollfarn sydd wedi darfod oni fydd y barnwr (neu ynad) yn caniatáu hynny.

Os na fydd eich cofnod troseddol wedi darfod, bydd swyddogion y llys yn rhoi gwybod i'r barnwr (neu ynad) amdano cyn iddo eich dedfrydu.

Os byddwch yn mynd dramor i weithio, yn mynd ar ymweliad neu'n ymfudo

Nid yw 'Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974' yn berthnasol mewn gwledydd eraill.

Er enghraifft, os byddwch yn gwneud cais am fisa i deithio i'r UDA, rhaid i chi ddatgan unrhyw gofnod troseddol sydd gennych - gan gynnwys collfarnau sydd wedi darfod.

Additional links

Chi yw’r barnwr

Penderfynwch pa ddedfryd y byddech yn rhoi am drosedd – a gweld beth ddigwyddodd ym mywyd go iawn

Allweddumynediad llywodraeth y DU