Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sut i lenwi'r ffurflen gais am wiriad o gofnod troseddol

Pan fyddwch yn cwblhau ffurflen gais am wiriad o'ch cofnod troseddol, efallai y bydd angen rhywfaint o help arnoch. Defnyddiwch y canllaw hwn i'ch helpu i lenwi'r ffurflen ac olrhain ei hynt unwaith y byddwch wedi ei chwblhau.

Sut i lenwi'r ffurflen gais am wiriad o gofnod troseddol

Cysylltwch â'r CRB

Ffoniwch linell gymorth y CRB ar 0870 9090 811 neu defnyddiwch y ffurflen ymholiadau ar-lein:

Mae'n bwysig dilyn y cyfarwyddiadau ar y ffurflen gais yn ofalus. Bydd unrhyw gamgymeriadau a wnewch ar y ffurflen yn oedi eich cais.

Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i'ch helpu:

  • peidiwch â chwblhau adran o'ch ffurflen os nad yw'n berthnasol - gadewch hi'n wag
  • er mwyn cywiro camgymeriad ar y ffurflen, rhowch linell drwyddo ac ysgrifennwch y cywiriad yn glir i'r dde neu mor agos â phosibl
  • gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi adrannau A, B ac E o'r ffurflen gais
  • cwblhewch adran C os ydych wedi byw mewn mwy nag un cyfeiriad yn ystod y pum mlynedd diwethaf
  • peidiwch â chwblhau adran D o'r ffurflen gais

Mae adran D yn gofyn i chi a ydych yn gwneud cais i gofrestru â'r ISA (Awdurdod Diogelu Annibynnol). Canslwyd y cofrestriad â'r ISA felly dylid gadael yr adran hon yn wag.

Mae canllawiau ychwanegol ar gael i'w lawrlwytho a fydd yn eich helpu i gwblhau'r ffurflen gais ac yn rhoi mwy o wybodaeth i chi os oes gennych hanes cyfeiriadau anarferol.

Os bydd angen mwy o help arnoch gallwch ffonio llinell gymorth y CRB ar 0870 9090 811, neu ddefnyddio'r ffurflen ymholiadau ar-lein.

Beth i'w wneud os nad oes gennych ddigon o le ar y ffurflen

Lle y bo'n bosibl, dylech gofnodi'r wybodaeth ofynnol yn y blychau perthnasol a ddarperir ar ffurflen gais y CRB.

Os nad yw hyn yn bosibl, gallwch ddefnyddio tudalen ychwanegol o'r enw 'taflen barhad'. Bydd angen i chi gyflwyno'r daflen hon ar yr un pryd â'ch ffurflen gais.

Beth i'w wneud os ydych wedi treulio amser dramor

Os ydych yn gwneud cais am wiriad gan y CRB a'ch bod yn byw dramor ar hyn o bryd, gyda chytundeb y sefydliad, gallwch ddefnyddio cyfeiriad eich cyflogwr neu'r Corff Cofrestredig y gwneir y gwiriad drwyddo.

Nodwch hwn fel eich prif gyfeiriad ar y ffurflen gais. Rhaid i chi hefyd nodi'r cyfeiriad lle rydych yn byw yn yr adran 'other addresses' ar y ffurflen gais.

Os ydych wedi byw y tu allan i'r DU am unrhyw ran o'r pum mlynedd diwethaf, mae angen i chi:

  • ysgrifennu'r geiriau 'Overseas' yn y blwch cyfeiriad
  • nodi enw'r wlad lle roeddech yn byw yn y blwch 'country'
  • darparu'r dyddiadau yr oeddech yn byw yno yn y blwch 'dates from and to'.
  • gadael pob blwch arall ar gyfer y cyfeiriad hwn yn wag

Gwneud yn siŵr nad ydych wedi gadael unrhyw beth allan ar y ffurflen

Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich ffurflen gais, defnyddiwch y rhestr wirio ganlynol i wneud yn siŵr nad ydych wedi gadael unrhyw beth allan. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi:

  • nodi eich enwau i gyd yn llawn
  • nodi eich cyfeiriadau ar gyfer y pum mlynedd diwethaf
  • cadarnhau nad oes unrhyw fylchau yn y dyddiadau a roesoch
  • nodi'r holl fanylion perthnasol os oes gennych basbort a/neu drwydded yrru
  • llofnodi’r ffurflen yn adran E, eitem 56, gan sicrhau bod eich llofnod y tu mewn i'r blwch

Beth i'w wneud gyda'ch ffurflen gais wedi'i chwblhau

Unwaith y byddwch wedi rhoi eich ffurflen gais wedi'i chwblhau i'r person a ofynnodd i chi wneud cais am y gwiriad, dylech hefyd ddarparu:

  • dogfennau i brofi pwy ydych
  • unrhyw daflen barhad/taflenni parhad
  • taliad (os oes angen)

Yna bydd yn gwirio eich dogfennau, ac yn cwblhau adran W, X ac Y o'r ffurflen, a'i hanfon i'r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB).

Gwnewch nodyn o rif cyfeirnod eich ffurflen gais oherwydd bydd ei angen arnoch os byddwch am olrhain hynt eich cais.

Olrhain hynt eich cais

Unwaith y byddwch wedi anfon eich cais, gallwch olrhain ei hynt gan ddefnyddio'r gwasanaeth olrhain ar-lein.

Er mwyn defnyddio'r gwasanaeth olrhain ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:

  • rhif cyfeirnod eich ffurflen gais
  • eich dyddiad geni

Os nad ydych yn gwybod rhif eich cais, gallwch ofyn i'r person a ofynnodd am wiriad o'ch cofnod neu'r CRB.

Bydd y gwasanaeth olrhain yn dweud wrthych naill ai:

  • pa gam o'r broses y mae eich cais wedi'i gyrraedd
  • bod y cais wedi'i ddychwelyd at y cyd-lofnodwr am fod gwallau ar y cais a'r dyddiad y digwyddodd hyn
  • neu fod tystysgrif y CRB eisoes wedi'i hanfon a phryd y digwyddodd hynny

Ni fydd y gwasanaeth yn dweud wrthych a oes unrhyw gollfarnau wedi'u canfod ar eich cofnod. Dim ond ar eich tystysgrif unwaith y bydd eich cais wedi mynd drwy'r broses gyfan y bydd y wybodaeth hon ar gael.

Sut i gysylltu â'r Swyddfa Cofnodion Troseddol

Llinell gymorth y CRB ar gyfer pob ymholiad cyffredinol: 0870 9090 811
rhwng 8.00am a 6.00pm yn ystod yr wythnos
rhwng 10.00am a 5.00pm ar ddydd Sadwrn (mae'r llinell ar gau ar ddydd Sul a gwyliau cyhoeddus)

Mae rhif ar wahân ar gyfer ymgeiswyr trawsrywiol yn unig. Ni ellir delio ag unrhyw ymholiadau cyffredinol a geir ar y rhif hwn na'u trosglwyddo Mae gwasanaeth peiriant ateb ar gael ar gyfer y rhif hwn lle gallwch adael eich enw a'ch rhif cyswllt a bydd aelod o'r tîm yn eich ffonio yn ôl.

Dylai ymgeiswyr trawsrywiol ffonio: 0151 676 1452 neu e-bostio:

crbsensitive@crb.gsi.gov.uk

Caiff pob galwad i'r CRB ei recordio at ddibenion hyfforddi a diogelwch. Gofynnir cwestiynau diogelwch i gadarnhau pwy ydych.

Allweddumynediad llywodraeth y DU