Darparu dogfennau adnabod ar gyfer gwiriadau cofnodion troseddol
Pan fyddwch yn llenwi ffurflen gais am wiriad o'ch cofnod troseddol, bydd angen i chi ddarparu rhai dogfennau i brofi pwy ydych. Mynnwch wybod pa ddogfennau y bydd y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) yn eu derbyn.
Pam bod angen i chi ddarparu dogfennau adnabod
Cysylltwch â'r CRB
Ffoniwch linell gymorth y CRB ar 0870 9090 811 neu defnyddiwch y ffurflen ymholiadau ar-lein
Bydd angen i chi brofi pwy ydych fel rhan o'ch cais. Bydd yn rhaid i chi ddarparu dogfennau i gadarnhau eich:
- enw
- dyddiad geni
- cyfeiriad presennol
Pwy y mae angen iddo weld eich dogfennau adnabod
Bydd y person a ofynnodd i chi lenwi'r ffurflen yn gwirio eich prawf adnabod, neu'n eich cyfeirio at rywun a all wneud hynny.
Pa ddogfennau i'w darparu
Dylech ddarparu o leiaf un o'r dogfennau canlynol:
- pasbort
- trwydded yrru lawn neu dros dro (yn y DU, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel) - naill ai'r cerdyn llun neu'r papur (dim ond os caiff ei gyflwyno gyda rhan bapur y drwydded y mae cerdyn llun yn ddilys, ac eithrio yn Jersey)
- tystysgrif geni (yn y DU neu Ynysoedd y Sianel) - a gyhoeddwyd o fewn 12 mis i'r dyddiad geni; ar ei ffurf lawn neu ei ffurf fer, gan gynnwys y rheini a gyhoeddir gan awdurdodau'r DU dramor, fel llysgenadaethau, uchel gomisiynau a Lluoedd EM
- cerdyn adnabod i wladolon tramor
- cerdyn adnabod cenedlaethol yr UE
- cerdyn adnabod Lluoedd EM (yn y DU)
- trwydded drylliau (yn y DU)
- tystysgrif fabwysiadu (yn y DU neu Ynysoedd y Sianel)
Os na allwch ddarparu unrhyw un o'r dogfennau uchod, rhaid i chi ddarparu pum dogfen o'r rhestr isod.
Dylech hefyd ddarparu dwy o'r dogfennau canlynol:
- tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil
- cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu*
- cyfriflen cerdyn credyd*
- datganiad P45 neu P60**
- cerdyn/llythyr Yswiriant Gwladol (yn y DU neu Ynysoedd y Sianel)
- cerdyn/llythyr y GIG (yn y DU neu Ynysoedd y Sianel)
- tystysgrif yswiriant**
- tystysgrif arholiad, e.e. TGAU, NVQ, lefel O, gradd
- cerdyn Connexions; gan gynnwys y rheini sydd â logo achredu PASS arnynt (yn y DU neu Ynysoedd y Sianel)
- tystysgrif y Cyngor Meddygol Cyffredinol
- datganiad budd-dal* - e.e. lwfans plentyn, pensiwn
- dogfen gan lywodraeth ganolog/leol, un o asiantaethau'r llywodraeth neu awdurdod lleol sy'n rhoi hawl i gael budd-daliadau* - e.e. budd-daliadau'r wladwriaeth, Budd-dal Tai
- tystysgrif geni newydd yn lle hen un, e.e. tystysgrif nas cyhoeddwyd o fewn 12 mis i'r enedigaeth
- dogfen gofrestru cerbyd (yr hen ddogfen V5 a'r ddogfen V5C newydd yn unig)
- dogfennaeth a gyhoeddwyd gan wasanaethau'r llys*
- llythyr gan bennaeth*
- cyfriflen cerdyn siop*
- bil cyfleustod* - trydan, nwy, dŵr, ffôn, gan gynnwys contract/bil ffôn symudol
- slip cyflog â chyfeiriad arno*
- cyfriflen catalog archebu drwy'r post
- datganiad ariannol** - e.e. pensiwn, gwaddol, ISA
- bil y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn gyfredol (yn y DU neu Ynysoedd y Sianel)**
- ffurflen hawlio llys (yn y DU)
- trwydded deledu**
- cyfriflen morgais**
- trwydded waith neu fisa (yn y DU)**
- Tystysgrif gan y CRB, Disclosure Scotland a'r ISA (yn y DU)**
- un o'r dogfennau canlynol gan Asiantaeth Ffiniau'r Deyrnas Unedig (UKBA) (yr Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo (BIA) gynt) neu'r Gyfarwyddiaeth Mewnfudo a Chenedligrwydd (IND): Dogfen Deithio Confensiwn (CTD) - Glas; Dogfen Person heb Ddinasyddiaeth (SPD) - Coch; Tystysgrif Teithio (CIT) - Brown; Cerdyn Cofrestru Lloches/Cais (ARC)
Dylai dogfennau a nodir â * fod wedi'u hanfon o fewn tri mis i ddyddiad eich cais.
Dylai dogfennau a nodir â ** fod wedi'u hanfon o fewn 12 mis i ddyddiad eich cais.
Gall dogfennau heb * neu ** fod wedi'u cyhoeddi ers mwy na 12 mis ond rhaid iddynt fod yn ddilys o hyd.
Sut i gysylltu â'r Swyddfa Cofnodion Troseddol
Llinell gymorth y CRB ar gyfer pob ymholiad cyffredinol: 0870 9090 811
rhwng 8.00am a 6.00pm yn ystod yr wythnos
rhwng 10.00am a 5.00pm ar ddydd Sadwrn (mae'r llinell ar gau ar ddydd Sul a gwyliau cyhoeddus)
Neu defnyddiwch y ddolen i'r ffurflen ymholiadau isod.
Mae rhif ar wahân ar gyfer ymgeiswyr trawsrywiol yn unig. Ni ellir delio ag unrhyw ymholiadau cyffredinol a geir ar y rhif hwn na'u trosglwyddo Mae gwasanaeth peiriant ateb ar gael ar gyfer y rhif hwn lle gallwch adael eich enw a'ch rhif cyswllt a bydd aelod o'r tîm yn eich ffonio yn ôl.
Dylai ymgeiswyr trawsrywiol ffonio: 0151 676 1452 neu e-bostio:
crbsensitive@crb.gsi.gov.uk
Os bydd rhywbeth yn mynd o'i le, mynnwch wybod sut mae'r CRB yn delio â chwynion a beth y gall ei wneud i'ch helpu drwy ddilyn y ddolen isod.
Caiff pob galwad i'r CRB ei recordio at ddibenion hyfforddi a diogelwch. Gofynnir cwestiynau diogelwch i gadarnhau pwy ydych.