Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ni chaiff eich cyflogwr wneud i chi weithio mwy na 48 awr yr wythnos ar gyfartaledd. Os ydych yn gweithio mwy na hyn, dylech gael trafodaeth gyda'ch cyflogwr ynghylch gweithio llai o oriau neu lofnodi cytundeb eithrio. Yma cewch wybod sut i gyfrifo eich amser gwaith.
I gael gwybod faint yr ydych yn ei weithio, mae angen i chi gyfrifo nifer yr oriau yr ydych yn eu gweithio bob wythnos (gan gynnwys goramser) cyn cyfrifo nifer gyfartalog yr oriau hyn dros gyfnod penodol.
Cyfrifir eich oriau gwaith cyfartalog dros 'gyfnod cyfeirnod', sef cyfnod o 17 wythnos fel arfer. Gallwch weithio mwy na 48 awr mewn wythnos ar yr amod bod yr oriau cyfartalog dros 17 wythnos yn llai na 48 awr yr wythnos.
Gyda chytundeb gweithlu neu gytundeb ar y cyd gallwch chi a'ch cyflogwr gytuno i gyfrifo'r amser gwaith wythnosol cyfartalog dros gyfnod gwahanol, a all fod yn unrhyw beth hyd at 52 wythnos. Cytundebau y mae'r cyflogwr a'r undeb llafur wedi cytuno arnynt yw'r rhain. Mae'n debyg y bydd eich contract cyflogaeth yn nodi pa gytundebau ar y cyd sy'n berthnasol i chi.
Gydag ambell yrfa, ceir gwahanol gyfnod cyfeirnod fel mater o drefn:
I gyfrifo eich amser gwaith wythnosol cyfartalog, dylech adio nifer yr oriau yr ydych wedi'u gweithio yn y cyfnod cyfeirnod. Yna rhannwch y ffigur hwnnw gyda nifer yr wythnosau yn y cyfnod cyfeirnod (17 wythnos fel arfer).
Er enghraifft:
Mae gennych wythnos waith safonol sy'n 40 awr (wyth awr y dydd). Rydych hefyd yn gweithio 12 awr goramser bob wythnos am ddeg wythnos gyntaf eich cyfnod cyfeirnod 17 wythnos.
Cam 1: lluoswch eich oriau gwaith safonol gyda nifer yr wythnosau yn y cyfnod cyfeirnod cyflog (17 wythnos x 40 awr = 680 awr)
Cam 2: ychwanegwch eich goramser i'r swm hwnnw (12 awr x 10 wythnos = 120 awr goramser + 680 awr = 800 awr)
Cam 3: dylid rhannu cyfanswm yr oriau gyda nifer yr wythnosau yn y cyfnod cyfeirnod cyflog (800 awr ÷ 17 wythnos = 47.1 awr)
Felly byddech wedi gweithio 47.1 awr yr wythnos ar gyfartaledd, sydd o fewn y terfynau amser gweithio.
Bydd angen i chi ychwanegu dyddiau at eich cyfrifiad os nad ydych yn y gwaith am gyfnod yn ystod y cyfnod cyfeirnod oherwydd eich bod yn cymryd:
Gwneir hyn drwy ychwanegu nifer y dyddiau nad oeddech yn y gwaith at y cyfnod cyfeirnod. Rhaid edrych hefyd ar yr oriau y gwnaethoch eu gweithio ar y dyddiau'n union cyn y cyfnod 17 wythnos.
Er enghraifft:
Mae gennych wythnos waith safonol sy'n 40 awr (wyth awr y dydd). Rydych yn gweithio wyth awr goramser yr wythnos am 12 wythnos gyntaf eich cyfnod cyfeirnod 17 wythnos. Rydych hefyd yn cymryd pedwar diwrnod o wyliau blynyddol ac yn gweithio un diwrnod arferol (wyth awr) yr wythnos honno. Pan rydych yn dychwelyd i'r gwaith, dim ond eich oriau arferol, heb ddim goramser, yr ydych yn eu gweithio am un wythnos.
Cam 1: adiwch yr 16 wythnos o oriau arferol a'r un diwrnod gwaith arferol arall (40 awr x 16 wythnos = 640 awr + 8 awr = 648 awr)
Cam 2: cyfrifwch eich oriau goramser (8 awr x 12 wythnos = 96 awr)
Cam 3: adiwch gyfanswm eich oriau arferol a'ch oriau goramser yn y cyfnod cyfeirnod cyflog (648 awr + 96 awr = 744 awr yn ystod eich cyfnod cyfeirnod cyflog)
Cam 4: cofiwch gynnwys y pedwar diwrnod y gwnaethoch eu gweithio yn union ar ôl y cyfnod cyfeirnod cyflog 17 wythnos (4 diwrnod x 8 awr = 32 awr + 744 awr = 776 awr)
Cam 5: dylid rhannu cyfanswm yr oriau gyda nifer yr wythnosau yn y cyfnod cyfeirnod (776 awr / 17 wythnos = 45.6 awr)
Felly byddech wedi gweithio 45.6 awr yr wythnos ar gyfartaledd, sydd o fewn y terfynau amser gwaith
Os byddwch yn gweithio patrwm sifft bydd angen i chi ddefnyddio'r fformiwla ganlynol i gyfrifo eich amser gwaith cyfartalog.
Er enghraifft:
Rydych yn weithiwr nos ac yn gweithio pedair sifft 12 awr bob wythnos fel arfer. Dyma gyfanswm yr oriau gwaith arferol ar gyfer cyfnod cyfeirnod 17 wythnos:
Cam 1: cyfrifwch nifer yr oriau yr ydych wedi'u gweithio (pedair sifft 12 awr am 17 wythnos: 4 x 12 = 48 awr x 17 = 816 awr)
Cam 2: cyfrifwch sawl diwrnod y byddai wedi bod yn bosib gofyn i chi weithio (17 wythnos x 7 diwrnod = 119 diwrnod yn y cyfnod cyfeirnod)
Cam 3: tynnwch yr un diwrnod gorffwys y mae'n rhaid i chi ei gael yn ôl y gyfraith (119 – 17 = 102 diwrnod gwaith yn y cyfnod cyfeirnod)
Cam 4: cyfrifwch eich cyfartaledd wythnosol drwy rannu'r oriau yr ydych wedi'u gweithio gyda nifer y dyddiau (816 awr ÷ 102 diwrnod = 8 awr y dydd)
Mae hyn yn golygu y byddech yn gweithio 48 awr yr wythnos ar gyfartaledd, sydd o fewn y terfynau amser gwaith.
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch mae’r llinell gyswllt Hawliau Tâl a Gwaith yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim ar oriau gwaith.