Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Yn gyffredinol, bydd goramser yn golygu unrhyw waith dros yr oriau gweithio sylfaenol sydd yn eich contract. Mae'r rheoliadau'n dweud na ellir gwneud i weithwyr weithio mwy na 48 awr yr wythnos ar gyfartaledd, ond gallant gytuno i weithio mwy. Rhaid i'r cytundeb hwn fod yn ysgrifenedig ac wedi'i lofnodi gennych chi.
Nid oes hawl gyfreithiol i dalu am weithio oriau ychwanegol, ac nid oes isafswm statudol o dâl goramser, ond ni chaiff eich cyfradd tâl gyfartalog ddisgyn islaw'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Dylai eich contract cyflogaeth gynnwys manylion y cyfraddau tâl goramser, a sut y cânt eu cyfrifo.
Bydd cyfraddau goramser yn amrywio o gyflogwr i gyflogwr; bydd rhai'n talu mwy am weithio ar benwythnos neu Ŵyl Banc, ond mae'n bosibl na fydd pawb.
Yn lle rhoi tâl am oramser, bydd rhai cyflogwyr yn cynnig amser i ffwrdd o'r gwaith. Bydd angen i chi a'ch cyflogwr gytuno ar hyn, a bydd unrhyw amser y byddwch yn ei gymryd o'r gwaith ar amser sy'n gyfleus i'r cyflogwr, fel rheol. Mae gan rai cwmnïau reolau ynghylch pryd y caniateir amser o'r gwaith, ond bydd eraill yn trefnu amser i ffwrdd ar sail pob achos yn unigol.
Fela rfer, ni chaiff goramser ei ystyried wrth bennu tâl gwyliau neu absenoldeb mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu â thâl. Fodd bynnag, caiff ei ystyried pan fydd goramser yn warantedig a'i bod yn rhaid i chi weithio goramser fel rhan o'ch contract cyflogaeth.
Dylai eich contract cyflogaeth gynnwys yr amodau ar gyfer gweithio goramser. Dim ond os bydd eich contract yn dweud hynny y bydd yn rhaid i chi weithio goramser. Hyd yn oed os bydd yn dweud hynny, ni ellir eich gorfodi i weithio mwy na 48 awr yr wythnos ar gyfartaledd fel arfer. Os gofynnir i chi weithio mwy na hyn ond nad oes arnoch eisiau, dylech godi'r mater gyda'ch cyflogwr.
Oni fydd eich contract yn gwarantu goramser, gall eich cyflogwr eich atal rhag gweithio goramser. Ond ni chaiff eich cyflogwr wahaniaethu yn eich erbyn, na'ch bwlio, drwy adael i eraill weithio goramser ond eich atal chi rhag gwneud hynny.
Dylai eich contract cyflogaeth ddweud beth yw eich oriau a'ch diwrnodau gweithio cyffredin, a gall hyn gynnwys gweithio ar ddydd Sul neu beidio. Eich contract cyflogaeth fydd yn pennu a fydd hyn yn cyfrif fel gweithio goramser. Gall gweithwyr mewn adeiladau betio a siopau adwerthu ddewis peidio â gweithio ar ddydd Sul.
Oni fydd yn dweud yn wahanol yn eu contract cyflogaeth, ni fydd cyflogwyr yn talu goramser i weithwyr rhan-amser fel arfer, oni bai eu bod yn gweithio:
Mae'n ofyniad cyfreithiol na ddylid trin gweithwyr rhan-amser yn llai ffafriol na'r staff amser llawn.
Mae'n bosibl y bydd angen i'ch cyflogwr newid amodau neu batrymau gwaith ar sail ffactorau busnes neu economaidd. Fodd bynnag, dim ond os byddwch chi a'ch cyflogwr yn cytuno ar hyn y gellir newid eich contract cyflogaeth. Mae newid eich amodau gwaith heb eich caniatâd yn dor-contract.
Yn gyntaf, dylech edrych ar eich contract cyflogaeth am fanylion y ffordd y caiff goramser ei gyfrifo, a beth y dylai'r cyfraddau tâl fod. Os nad oes gennych gontract ysgrifenedig, efallai y bydd yr erthygl am gontractau cyflogaeth o ddefnydd i chi. Cofiwch, yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i'ch cyflogwr roi telerau ac amodau ysgrifenedig i chi o fewn dau fis i chi ddechrau gweithio.
Os oes unrhyw beth yn aneglur, dylech godi'r broblem gyda'ch cyflogwr. Efallai y byddai'n ddefnyddiol gofyn i gynrychiolydd yn y gwaith, megis swyddog undeb llafur, eich helpu. Dylech hefyd edrych ar y papurau a roddwyd i chi wrth i chi ddechrau gweithio, megis datganiad ysgrifenedig o'r telerau, a llawlyfr i weithwyr os darparwyd un.
Os oes angen mwy o gymorth arnoch mae'r llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim i chi ar oriau gweithio.