Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gweithio ar ddydd Sul

Mae pob math o fusnesau'n gweithredu ar ddydd Sul. Mae siopau a busnesau hamdden yn enghreifftiau amlwg, ond pa le bynnag rydych yn gweithio, efallai y gofynnir i chi weithio ar ddydd Sul. Mae'n bwysig i chi wybod eich hawliau mewn perthynas â gweithio ar ddydd Sul.

A ellir eich gorfodi i weithio ar ddydd Sul?

Dylech ddarllen eich contract cyflogaeth neu ddatganiad ysgrifenedig o delerau ac amodau i weld a oes rhaid i chi weithio ar ddydd Sul neu a fyddai'n rhaid i chi wneud hynny pe bai rhywun yn gofyn i chi. Os yw'n dweud bod yn rhaid i chi weithio ar ddydd Sul, bydd yn rhaid i chi wneud hynny. Os nad yw'n dweud hynny, yna yr unig ffordd o'ch gorfodi i weithio ar y diwrnod hwnnw yw drwy newid eich contract. Fel arfer, mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i chi a'ch cyflogwr gytuno arno, fel arall byddai eich gorfodi i weithio ar ddydd Sul yn gyfystyr ag achos o dorri contract.

Mae rheolau arbennig ar gyfer gweithwyr siop a gweithwyr betio - gweler 'Rheolau arbennig os ydych yn weithiwr siop neu'n gweithio ym maes betio' isod.

Gweithio ar ddydd Sul os ydych yn Gristion

Os ydych yn Gristion gweithredol, efallai y bydd gennych deimladau cryf am weithio ar ddydd Sul. Ni ddylid gwahaniaethu yn erbyn neb oherwydd ei grefydd neu gred (neu am nad oes ganddo unrhyw grefydd neu gred).

Siaradwch â'ch cyflogwr ac eglurwch pa mor bwysig ydyw i chi gael dydd Sul i ffwrdd i grefydda. Bydd cyflogwyr fel arfer yn ceisio bodloni ceisiadau o'r fath (er enghraifft, drwy newid patrwm sifftiau).

Ddylech chi gael mwy o arian am weithio ar ddydd Sul?

Mae p'un a gewch fwy o dâl am weithio ar ddydd Sul yn fater i chi a'ch cyflogwr. Nid oes unrhyw hawliau statudol yn y maes hwn, felly mae'n dibynnu ar eich contract.

Mae llawer o fusnesau'n dewis gwobrwyo cyflogeion sy'n gweithio y tu allan i oriau gwaith arferol. Mae rhai'n talu amser a hanner neu amser dwbl, tra bod eraill yn rhoi amser ychwanegol i ffwrdd.

Rheolau arbennig os ydych yn weithiwr siop neu'n gweithio ym maes betio

Os ydych yn gweithio mewn siop neu yn y diwydiant betio (naill ai mewn siop fetio sydd ar agor i'r cyhoedd neu fwci mewn lleoliad chwaraeon), mae gennych hawliau arbennig. Gallwch eithrio o weithio ar ddydd Sul hyd yn oed os yw eich contract yn dweud bod yn rhaid i chi wneud hynny. Mae'n rhaid i'ch cyflogwr ddweud wrthych am yr hawl hon o fewn deufis i chi ddod yn weithiwr siop neu fetio.

Efallai na fydd yn rhaid i chi eithrio o gwbl, os oes gennych eisoes yr hawl i beidio â gweithio ar ddydd Sul.

Nid yw'r hawliau hyn yn gymwys os mai dim ond ar ddydd Sul rydych wedi'ch cyflogi i weithio.

Sut i eithrio o weithio ar ddydd Sul

Gallwch eithrio drwy ysgrifennu at eich cyflogwr a rhoi tri mis o rybudd iddo eich bod am roi'r gorau i weithio ar ddydd Sul. Rhaid i chi lofnodi'r rhybudd a'i ddyddio.

Os byddwch yn rhoi'r rhybudd yn ystod y cyfnod rhwng 1 Mai 2012 a 9 Gorffennaf 2012, efallai y caiff y cyfnod o dri mis o rybudd ei leihau. Am ragor o wybodaeth gweler y ddolen isod.

Dim ond mis o rybudd y mae'n rhaid i chi ei roi os na roddodd eich cyflogwr wybod i chi am eich hawl i eithrio o fewn deufis i ddod yn weithiwr siop neu weithiwr betio.

Yn y ddau achos, cyn diwedd y cyfnod rhybudd, rhaid i chi wneud yr holl waith ar ddydd Sul a nodir yn eich contract. Fodd bynnag, mae rheolau eraill ar oriau gwaith a allai gyfyngu ar nifer yr oriau y gallwch eu gwneud.

Os byddwch yn penderfynu eithrio, efallai na fydd yn rhaid i'ch cyflogwr gynnig gwaith ychwanegol i chi ar ddiwrnodau eraill yn lle gweithio ar ddydd Sul. Bydd yn dibynnu ar delerau eich contract. Gallech golli'r cyflog roeddech yn arfer ei ennill drwy weithio ar ddydd Sul.

Peidiwch â phoeni am sut y bydd eithrio o weithio ar ddydd Sul yn effeithio ar eich sicrwydd swydd. Nid oes hawl gan eich cyflogwr i'ch trin yn anffafriol (er enghraifft, eich atal rhag gweithio goramser neu beidio â'ch dyrchafu) ac ni ellir eich diswyddo'n deg am wrthod gweithio ar ddydd Sul o dan yr hawl hon. Gall Tribiwnlys Cyflogaeth ddyfarnu iawndal os bydd eich cyflogwr yn torri'r rheolau.

Gweithwyr sydd â hawl awtomatig i beidio â gweithio ar ddydd Sul

Gweithwyr siop a betio hirsefydledig

Os ydych yn weithiwr siop neu fetio hirsefydledig, rydych eisoes wedi eich diogelu. Os ydych yn weithiwr siop, mae hyn yn berthnasol os ydych wedi bod yn gweithio fel gweithiwr siop i'r un cyflogwr ers 25 Awst 1994. Os ydych yn weithiwr betio, y dyddiad yw 2 Ionawr 1995. Os ydych yn perthyn i'r naill gategori neu'r llall, dim ond dweud wrth eich cyflogwr nad ydych yn gweithio ar ddydd Sul y mae'n rhaid i chi ei wneud. Nid yw'r diogelwch ychwanegol hwn yn berthnasol yn yr Alban.

Gweithwyr siop a gweithwyr betio na ellir eu gorfodi i weithio ar ddydd Sul

Os ydych yn weithiwr siop neu'n weithiwr betio ac ni ellir ei gwneud yn ofynnol i chi weithio ar ddydd Sul o dan eich contract cyflogaeth, rydych eisoes wedi eich diogelu rhag gweithio ar ddydd Sul.

Dim ond dweud wrth eich cyflogwr nad ydych yn gweithio ar ddydd Sul y mae'n rhaid i chi ei wneud ac ni all eich cyflogwr eich gorfodi i wneud hynny.

Dewis gweithio ar ddydd Sul

Os oes gennych eisoes yr hawl i beidio â gweithio ar ddydd Sul, ond eich bod yn barod i wneud hynny, rhowch hysbysiad ysgrifenedig i'ch cyflogwr yn dweud eich bod yn barod i weithio ar ddydd Sul. Rhaid i chi lofnodi'r hysbysiad a'i ddyddio. Rhaid i chi wedyn gytuno pa waith ar ddydd Sul, neu ar ddydd Sul penodol, rydych yn barod i'w wneud.

Mae gan unrhyw weithiwr siop neu fetio sy'n dewis gweithio ar ddydd Sul yr hawl i eithrio o wneud hynny eto yn ddiweddarach (ar yr amod ei fod yn rhoi'r rhybudd gofynnol).

Beth i'w wneud os oes gennych broblemau

Os ydych yn poeni y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi weithio ar ddydd Sul, dylech siarad ag ef yn anffurfiol yn gyntaf. Os ydych yn weithiwr siop neu fetio, ystyriwch p'un a ddylech gyflwyno hysbysiad eithrio.

Os ydych yn weithiwr siop neu fetio a'ch bod yn teimlo eich bod wedi cael eich trin yn wael am eich bod wedi eithrio o weithio ar ddydd Sul, dylech ddilyn y camau a nodir yn 'Sut i ddatrys problem yn y gwaith'.

Ble i gael cymorth

Am ragor o wybodaeth am ble i gael help ar faterion cyflogaeth, ewch i'r dudalen cysylltiadau cyflogaeth neu mynnwch gael gwybod mwy am undebau llafur.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU