Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfrifo'r arian gewch chi os daw eich swydd i ben

Mae'r gwasanaeth hwn gan yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (BIS) yn eich galluogi i gyfrifo faint o dâl dileu swydd statudol y mae gennych hawl iddo yn seiliedig ar eich amgylchiadau.

Sut i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

I ddefnyddio'r gwasanaeth, teipiwch eich oedran a'r nifer o flynyddoedd llawn yr ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr presennol. Yna, bydd y gyfrifiannell yn dangos faint o dâl dileu swydd statudol y mae gennych hawl iddo.

Ceir hefyd canllaw sy'n egluro sut caiff y ffigwr ei gyfrifo.

Cofiwch, na allwch wneud cyfrifiadau ar hyn o bryd ar gyfer rhywun sydd dros 80 oed. Os ydych yn ceisio gwneud cyfrifiad dros yr oedran hwnnw, awgrymwn eich bod yn teipio oedran rhwng 61 ac 80, yn ogystal â’r hyd gwasanaeth a thâl wythnosol cywir. Bydd hyn yn rhoi’r swm cywir o dâl dileu swydd statudol y mae gennych hawl iddo.

Additional links

Cyngor budd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes

Allweddumynediad llywodraeth y DU