Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwahaniaethu ar sail oedran

Mae deddfau gwahaniaethu ar sail oedran yn helpu i sicrhau na fyddwch chi’n cael eich amddifadu o swydd, cyfle cyfartal i gael hyfforddiant na dyrchafiad oherwydd eich oedran. Maent hefyd yn helpu i’ch amddiffyn rhag cael eich harasio neu’ch trin yn annheg oherwydd eich oedran.

Gwahaniaethu ar sail oedran yn y gwaith

Mae gwahaniaethu ar sail oedran yn y gwaith yn anghyfreithlon mewn pob math o swydd bron. Mae pob cyflogai a gweithiwr o unrhyw oedran yn cael eu gwarchod rhag gwahaniaethu ar sail oedran, gan gynnwys partneriaid mewn cwmnïau, gweithwyr contract ac unrhyw un sy’n dilyn hyfforddiant galwedigaethol.

Mae pob elfen o’ch swydd (neu swydd arfaethedig) wedi’i diogelu rhag gwahaniaethu ar sail oedran, gan gynnwys yr elfennau canlynol:

  • recriwtio
  • telerau ac amodau cyflogaeth
  • dyrchafu a throsglwyddo
  • hyfforddiant
  • diswyddo

Mewn rhai achosion, gellir cyfiawnhau trin gweithiwr neu gyflogai yn wahanol oherwydd ei oedran. Er enghraifft, gwneud darpariaethau arbennig ar gyfer gweithwyr iau neu hŷn er mwyn gwarchod eu diogelwch a’u lles. Darllenwch yr adran isod ynghylch cyfiawnhad gwrthrychol.

Gwarchod rhag gwahaniaethu ar sail oedran

Trefn dileu swydd

Rhaid i’ch cyflogwr sicrhau nad yw unrhyw bolisïau dileu swydd yn gwahaniaethu'n uniongyrchol, nac yn anuniongyrchol, yn erbyn gweithwyr hŷn.

Gallai gwahaniaethu'n anuniongyrchol gynnwys eich cyflogwr yn dewis dileu swyddi gweithwyr rhan-amser yn unig, a bod nifer fawr o'r rhain yn weithwyr hŷn o bosib. Yr unig eithriadau fydd pan geir cyfiawnhad gwrthrychol dros gyflwyno gofyniad oedran.

Nid oes cyfyngiad oedran uwch nac is ar yr hawl i gael tâl dileu swydd statudol. Bydd rhaid i'ch cyflogwr dalu'r lleiafswm tâl dileu swydd statudol i chi hyd yn oed os ydych chi’n iau na 18 oed neu’n hŷn na 65 oed (neu ar ôl eich oedran ymddeol arferol os yw hwnnw'n is).

Mae’r gyfraith sy’n ymwneud ag ymddeol yn newid

Mae’r oedran ymddeol diofyn, a oedd yn caniatáu eich cyflogwr i’ch gorfodi chi i ymddeol pan fyddwch yn cyrraedd 65, yn cael ei ddileu.

Mae hyn yn golygu y gallech mewn llawer o achosion ymddeol pan fydd yr amser yn iawn i chi.

Os na wnaethoch dderbyn rhybudd o’ch cyflogwr cyn 6 Ebrill 2011, ni allwch gael eich gorfodi i ymddeol gan ddefnyddio’r oedran ymddeol diofyn. Gall eich cyflogwr dim ond eich gorfodi i ymddeol os gall hwn gael ei gyfiawnhau’n wrthrychol yn yr amgylchiadau penodol. Mae hwn yn agored i’w herio mewn Tribiwnlys Cyflogaeth.

Gweler isod i gael gwybod mwy ynghylch cyfiawnhad gwrthrychol.

Beth sydd wedi newid?

Gall eich cyflogwr dim ond eich gorfodi chi i ymddeol drwy ddefnyddio’r oedran ymddeol diofyn os yw’r canlynol yn gymwys:

  • cawsoch eich hysbysu cyn 6 Ebrill 2011
  • rydych yn 65 oed neu’n hŷn cyn 1 Hydref 2011

Mae’n rhaid bod eich cyflogwr wedi rhoi rhwng chwech a 12 mis o rybudd i chi. Mae hefyd y posibilrwydd o ymestyniad i fyny at chwe mis drwy’r ‘hawl i wneud cais’. Mae hyn yn golygu mai’r dyddiad ymddeol olaf posib a ellir cael ei osod drwy ddefnyddio’r oedran ymddeol diofyn yw 5 Hydref 2012.

Nid yw’r newid hwn yn y gyfraith yn effeithio ar oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Honiadau o ddiswyddo annheg

Does dim terfyn oedran uchaf ar gyfer dwyn achos o ddiswyddo annheg.

Hyfforddiant

Ni all darparwyr hyfforddiant (gan gynnwys cyflogwyr, sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch, cyrff hyfforddi yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol, a rhaglenni addysg oedolion) osod terfyniadau oedran ar gyfer hyfforddiant, oni bai fod cyfiawnhad gwrthrychol dros yr angen i wneud hynny.

Buddion sy'n gysylltiedig â gwasanaeth

Mae llawer o gyflogwyr yn defnyddio buddion a thâl sy'n gysylltiedig â gwasanaeth i ysgogi staff, i wobrwyo teyrngarwch ac i gydnabod profiad. Os yw eich cyflogwr yn defnyddio meini prawf ‘hyd gwasanaeth’ i gynyddu tâl neu fuddion staff, caiff barhau i wneud hynny ar yr amod nad yw'r cyfnod gwasanaeth yn hwy na phum mlynedd.

Os bydd eich cyflogwr yn defnyddio cyfnod hwy na phum mlynedd, bydd rhaid iddo allu cyfiawnhau ei benderfyniad gydag angen busnes, er enghraifft, drwy ddarparu gwybodaeth am recriwtio a chadw staff.

A all rhywun wrthod swydd i chi am eich bod yn rhy ifanc?

Nid yw’n anghyfreithlon i gyflogwr ofyn am ddyddiad geni ymgeisydd, ond ni ellir defnyddio hyn i wahaniaethu yn erbyn y person hwnnw. Pobl hŷn sy'n wynebu'r gwahaniaethu mwyaf ar sail oedran. Fodd bynnag, mae'n digwydd i bobl ifanc hefyd.

Mae’n anghyfreithlon i gyflogwr osod terfyniad oedran isaf wrth recriwtio, oni cheir cyfiawnhad gwrthrychol dros y cyfyngiad oedran hwn neu os yw'n cael ei bennu gan y gyfraith.

Cyfiawnhad gwrthrychol

Os byddwch yn herio’ch cyflogwr, bydd rhaid iddo allu cyfiawnhau bod unrhyw wahaniaethu – boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol – yn ffordd gymesur o gyflawni nod ddilys.

Beth mae ffordd gymesur yn ei olygu

Ni ddylai fod gan eich cyflogwr unrhyw opsiwn rhesymol ar wahân i gyflwyno arfer sy’n seiliedig ar oedran.

Er enghraifft, pe bai cwmni adeiladu yn chwilio am weithwyr i wneud gwaith anodd sy’n gofyn am lawer o ffitrwydd corfforol, efallai y byddai gan y cyflogwr achos dros osod uchafswm oedran ar gyfer ei weithwyr ar y safle am resymau iechyd a diogelwch.

Beth yw nod ddilys?

Gallai amrywiaeth eang o nodau gael eu hystyried yn nodau dilys, ond mae gofyn eu bod yn cyd-fynd ag angen rhesymol i’ch cyflogwr. Gall ffactorau economaidd, megis anghenion busnes ac effeithlonrwydd, fod yn nodau dilys, ond ni fyddai’r ddadl y byddai peidio â gwahaniaethu yn costio mwy yn gyfiawnhad dilys.

Er enghraifft, mae’n annhebygol y byddai siop ffasiwn ar y stryd fawr sy’n dymuno cyflogi staff iau i gyd-fynd â delwedd eu brand yn gallu cyfiawnhau hyn yn wrthrychol gan nad yw hon yn nod ddilys.

Beth i'w wneud nesaf

Siaradwch â’ch cyflogwr yn gyntaf i geisio datrys y mater yn anffurfiol. Mae gennych hawl i ysgrifennu at eich cyflogwr os ydych chi'n meddwl bod rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn neu'n eich harasio oherwydd eich oedran.

Gwneud cwyn am wahaniaethu ar sail oedran

Os ydych chi’n teimlo bod rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn yn y gwaith, ceir ffurflenni i’ch helpu i gael gwybodaeth gan y person neu’r sefydliad rydych chi’n teimlo sy’n gyfrifol. O wneud hynny, gallwch wneud penderfyniad mwy cytbwys a gwell ynghylch a ydych am ddechrau achos cyfreithiol ac, os ydych, beth yw'r ffordd orau o gyflwyno'ch cwyn.

I gael gwybod hyn ac i lwytho’r ffurflenni, darllenwch yr wybodaeth ar wefan Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth.

Dylech ddefnyddio’r ffurflenni hyn os ydych chi’n teimlo bod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn:

  • ar 1 Hydref 2010 neu ar ôl hynny
  • cyn 1 Hydref 2010 ond ei fod wedi parhau i wahaniaethu yn eich erbyn ar ôl y dyddiad hwnnw

Os ydych chi’n teimlo bod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn cyn 1 Hydref 2010, ni allwch ddefnyddio'r ffurflenni hyn. Ceir llythyr templed ar-lein i wneud cwyn am wahaniaethu ar sail:

  • oed
  • tueddfryd rhywiol
  • crefydd neu gred

Efallai y gallwch gyflwyno cwyn i’r Tribiwnlys Cyflogaeth os ydych chi’n teimlo eich bod dan anfantais:

  • oherwydd meini prawf recriwtio sy’n gysylltiedig ag oedran neu bolisïau hyrwyddo
  • oherwydd eich bod yn dioddef gwahaniaethu ar sail oedran

Allweddumynediad llywodraeth y DU