Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwahaniaethu ar sail anabledd yn y gwaith

Os teimlwch fod eich cyflogwr wedi'ch trin yn llai ffafriol nag eraill am reswm sy'n gysylltiedig â'ch anabledd, neu os nad yw eich cyflogwr wedi gwneud addasiadau rhesymol ar eich cyfer yn y gweithle, efallai y byddwch am ystyried cymryd camau gweithredu pellach. Mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd.

Camau i'w cymryd os byddwch yn dioddef gwahaniaethu yn eich erbyn

Fel cam cyntaf, efallai y dylech gael trafodaeth anffurfiol gyda'ch cyflogwr ynghylch eich anghenion a pham eich bod yn teimlo bod y gwaith yn camwahaniaethu yn eich erbyn. Atgoffwch eich cyflogwr am eich hawliau a'u cyfrifoldebau dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.

Os na fydd y drafodaeth hon yn arwain at ganlyniad boddhaol, gallech gwyno am eich triniaeth trwy drefn gwyno fewnol eich cyflogwr.

Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, gallwch gysylltu â'r Comisiwn Hawliau Anabledd neu Acas (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu), neu ddilyn 'Y Drefn Gwestiynau' neu gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth.

Os ydych dal eisiau gwneud cwyn i’r Tribiwnlys Cyflogaeth, mae’n rhaid i chi wneud hynny o fewn tri mis i’r dyddiad o’r digwyddiad o wahaniaethu.

Cymorth a chyngor o’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas)

Nod Acas yw gwella sefydliadau a bywyd gwaith drwy wella cysylltiadau cyflogaeth. Mae’n darparu'r wybodaeth ddiweddaraf, cyngor annibynnol ac hyfforddiant o ansawdd da. Mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda'r cyflogwyr a'r gweithwyr i ddatrys problemau a gwella perfformiad.

Cymorth a chymorth wrth y Comisiwn Hawliau Anabledd

Mae'r Comisiwn Hawliau Anabledd (CHA) yn rhoi cyngor i bobl anabl am eu hawliau cyflogaeth dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Gall helpu hefyd os ydych am gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth.

Fel cam cyntaf, cysylltwch â'r llinell cymorth CHA

Ffôn: 08457 622 633

Ffon testun: 08457 622 644

Ffacs: 08457 778 878

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00am a 8.00pm (dydd Llun i ddydd Gwener).

Y Drefn Gwestiynau

Er mwyn dilyn y Drefn Gwestiynau, rhaid i chi gael copi o holiadur y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Rhaid llenwi'r holiadur o fewn tri mis i'r driniaeth yr ydych yn cwyno amdani.

Rhaid i chi lenwi rhan gyntaf yr holiadur hwn eich hun, gan nodi'r rhesymau pam y teimlwch i chi ddioddef camwahaniaethu yn eich erbyn, a gofyn i'ch cyflogwr roi sylwadau ar eich honiad. Rhaid i chi wedyn ofyn i'ch cyflogwr ymateb i'r holiadur.

Pa un a ydych yn cytuno â hwy neu beidio, dylai atebion eich cyflogwr yn yr holiadur eich helpu i benderfynu a allwch setlo'r anghydfod neu a oes angen cwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth.

Mae holiadur y Ddeddf ar gael gan Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a rhai Canolfannau Cyngor ar Bopeth.

Gall Gwasanaeth y Tribiwnlys Cyflogaeth roi gwybodaeth am gyhoeddiadau'r tribiwnlys, esbonio sut mae'r system tribiwnlys yn gweithio ac ateb ymholiadau cyffredinol am faterion yn ymwneud â'r tribiwnlys. I gael copïau o daflenni rhad ac am ddim Gwasanaeth y Tribiwnlys Cyflogaeth, ffoniwch y llinell gymorth rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ffôn: 08457 959 775

Ffôn testun: 08457 573 722

Allweddumynediad llywodraeth y DU