Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gan weithwyr anabl yr un hawliau cyflogaeth cyffredinol â gweithwyr eraill, ond mae 'na rai darpariaethau arbennig eraill ar eu cyfer o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Un agwedd bwysig ar hyn yw'r hawl i addasiadau rhesymol yn y gweithle
Dan y Ddeddf, mae'n anghyfreithlon i gyflogwyr wahaniaethu yn erbyn pobl anabl am reswm sy'n gysylltiedig â'u hanabledd, ymhob agwedd ar gyflogaeth, oni ellir cyfiawnhau hynny. Mae’r Ddeddf yn cynnwys pethau megis:
Dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, mae gan eich cyflogwr ddyletswydd i wneud 'addasiadau rhesymol' i sicrhau nad yw'r trefniadau cyflogaeth nac unrhyw nodwedd ffisegol yn y gweithle yn eich rhoi dan anfantais sylweddol.
Dyma enghreifftiau o'r mathau o addasiadau y dylai eich cyflogwr eu hystyried, mewn ymgynghoriad â chi:
Gallwch chwarae rhan ragweithiol wrth drafod y trefniadau hyn gyda'ch cyflogwr. Hefyd, efallai yr hoffech annog eich cyflogwr i siarad â rhywun sy'n arbenigo mewn darparu cymorth cysylltiedig-â-gwaith i bobl anabl, megis cynghorydd iechyd galwedigaethol.
Ymhlith y materion y mae angen i'r ddau ohonoch eu hystyried y mae:
Efallai y byddwch am sicrhau bod eich cyflogwr yn gwybod am y rhaglen Mynediad at Waith gan y Ganolfan Byd Gwaith. Trwy'r rhaglen hon, gall cyflogwyr gael cyngor am addasiadau priodol yn ogystal â rhywfaint o gymorth ariannol o bosib tuag at gost yr addasiadau.
Ni chaiff eich cyflogwr ddewis dileu eich swydd chi gan eich bod yn anabl nac am unrhyw reswm yn ymwneud â'ch anabledd. Os yw'ch cyflogwr wrthi'n ymgynghori ar unrhyw achosion dileu swyddi at y dyfodol, dylai gymryd camau rhesymol i sicrhau eich bod wedi eich cynnwys yn yr ymgynghoriadau.
Rhaid i'ch cyflogwr hefyd wneud addasiadau rhesymol i unrhyw feini prawf dethol y maent yn ei greu ar gyfer dethol cyflogeion mewn achosion dileu swyddi, i sicrhau nad yw'r meini prawf yn gwahaniaethu yn erbyn cyflogeion anabl. Er enghraifft, un addasiad rhesymol i'ch cyflogwr ei wneud fyddai peidio ag ystyried absenoldeb oherwydd salwch (sy'n gysylltiedig ag anabledd) os yw presenoldeb yn rhan o'r cynllun dethol mewn achos dileu swyddi.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ffynhonnell dda o gyngor os teimlwch i chi ddioddef gwahaniaethu yn eich erbyn yn y gwaith neu fan arall. Gall helpu hefyd os teimlwch i chi ddioddef gwahaniaethu yn eich erbyn a'ch bod am gyflwyno hawliad mewn Tribiwnlys Cyflogaeth.