Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae eich hawliau dynol yn cael eu diogelu gan y lywodraeth. Os mai awdurdod cyhoeddus yw eich cyflogwr, rhaid iddo ddilyn egwyddorion y Ddeddf Hawliau Dynol. Darllenwch am eich hawliau dynol yn y gweithle a chael gwybod beth i'w wneud os maent yn cael eu torri.
Cyflwynwyd y Ddeddf Hawliau Dynol ym mis Hydref 2000. Fe seilir y Ddeddf Hawliau Dynol ar y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ac mae'n rhoi mwy o warchodaeth i hawliau a rhyddid gweithwyr. Mae darpariaethau yn y Ddeddf sy'n delio â materion cysylltiedig-â-gwaith.
Os ydych chi'n gweithio yn y sector cyhoeddus, mae'n anghyfreithlon i'ch cyflogwr dorri'ch hawliau dynol dan y Confensiwn, oni bai bod Deddf Seneddol yn golygu nad oes ganddo ddim dewis.
Os nad awdurdod cyhoeddus yw eich cyflogwr, chewch chi ddim hawlio'i fod yn torri'ch hawliau dynol. Fodd bynnag, mae cyfraith hawliau dynol wedi'i hymgorffori yn y gyfraith gyflogaeth gyffredinol (er enghraifft, peidio â gwahaniaethu ar sail rhywioldeb) ac mae hyn yn berthnasol i bawb sy'n cyflogi pobl.
Rhaid i unrhyw benderfyniad gan Dribiwnlys Cyflogaeth ddilyn yr egwyddorion a bennir yn y Confensiwn.
Bwriad llawer o egwyddorion y Ddeddf Hawliau Dynol yw eich amddiffyn chi fel rhywun sy'n gweithio yn y gweithle.
Er enghraifft, mae gennych yr hawl i fywyd preifat a bywyd teulu. Felly byddai cyflogwyr sy'n gwahaniaethu yn erbyn gweithiwyr hoyw, er enghraifft, o bosib yn tarfu ar hawl y gweithwyr hynny i fywyd preifat.
Mae gan gyflogwyr yr hawl i fonitro'r cyfathrebu o fewn y gweithle ar yr amod eich bod yn ymwybodol o'r monitro hwnnw cyn iddo ddigwydd. Gall y monitro gynnwys:
Mae gennych hawl i weld unrhyw wybodaeth a gedwir amdanoch. (ee negeseuon ebost neu luniau CCTV)
Mae eich hawl i fywyd preifat yn golygu bod gennych yr hawl i rywfaint o breifatrwydd yn y gweithle. Does dim modd eich monitro ym mhobman. Os nad yw cyflogwyr yn parchu hyn, byddan nhw'n torri cyfraith hawliau dynol (yn ogystal â chyfraith y DU).
Os nad yw hynny'n gweithio, mae'n bosib y byddwch am gymryd camau cyfreithiol. Gall cyfraith hawliau dynol fod yn gymhleth ac felly cyn gwneud hyn, bydd rhaid i chi gymryd cyngor cyfreithiol.
Os nad yw hynny’n gweithio, efallai byddwch am gymryd camau cyfreithiol. Gall y gyfraith hawliau dynol fod yn gymhleth ac felly cyn gwneud hyn, bydd rhaid i chi gymryd cyngor cyfreithiol.
Am ragor o wybodaeth ar ble i gael cymorth gyda materion cyflogaeth gallwch â’r dudalen cysylltiadau cyflogaeth neu gael gwybod mwy ynghylch undebau llafur.