Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfrifoldebau iechyd a diogelwch gweithwyr

Mae dyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr i ddarparu gweithle iach a diogel. Fel gweithiwr/wraig, mae gennych chi hawliau ond hefyd mae gennych chi gyfrifoldeb am eich lles chi'ch hun a lles eich cydweithwyr. Cael gwybod beth yw'r cyfrifoldebau hyn, a sut mae cyflawni'r gofynion.

Eich hawliau

Fel gweithiwr/wraig, mae gennych hawliau dan y gyfraith i weithio mewn amgylchedd diogel ac iach, ac yn gyffredinol, ni all eich cyflogwyr newid na dileu'r hawliau hynny. Dyma'r hawliau pwysicaf:

  • cyn belled ag y bo modd, sicrhau bod unrhyw risg i'ch iechyd a'ch diogelwch yn cael ei rheoli'n iawn
  • bod unrhyw gyfarpar gwarchod a diogelwch personol sydd ei angen yn cael ei ddarparu ar eich cyfer am ddim
  • os ydych chi'n poeni'n rhesymol am eich diogelwch, rhoi'r gorau i weithio a gadael y llecyn gweithio, heb gael eich disgyblu
  • dweud wrth eich cyflogwyr am unrhyw bryderon sydd gennych am iechyd a diogelwch
  • cysylltu â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu eich awdurdod lleol os nad yw eich cyflogwyr yn barod i wrando ar eich pryderon, heb gael eich disgyblu
  • cael egwyliau yn ystod eich diwrnod gwaith, cael amser o'r gwaith yn ystod yr wythnos waith, a chael gwyliau blynyddol gyda thâl

Eich cyfrifoldebau chi

Eich cyfrifoldebau pwysicaf fel gweithiwr/wraig yw:

  • cymryd gofal rhesymol dros eich iechyd a'ch diogelwch eich hun
  • os oes modd, osgoi gwisgo gemwaith neu ddillad llac os ydych chi'n gweithio peiriannau
  • os oes gennych wallt hir neu os ydych chi'n gwisgo sgarff ar eich pen, cofiwch ei gadw'n dwt o'r ffordd (mae'n bosib y gallai fachu yn y peiriannau)
  • cymryd gofal rhesymol i beidio â pheri risg i bobl eraill - cydweithwyr ac aelodau o'r cyhoedd - drwy'r hyn y byddwch yn ei wneud neu'n peidio â'i wneud wrth i chi weithio
  • cydweithredu gyda'ch cyflogwyr gan sicrhau eich bod yn cael yr hyfforddiant priodol a'ch bod yn deall ac yn dilyn polisïau iechyd a diogelwch eich cwmni
  • peidio â tharfu ar unrhyw beth a ddarperir ar gyfer eich iechyd, eich diogelwch neu'ch lles na'u camddefnyddio
  • riportio anafiadau, straen neu afiechyd sy'n codi yn sgîl eich gwaith (mae'n bosib y bydd angen i'ch cyflogwyr newid eich ffordd o weithio)
  • sôn wrth eich cyflogwyr os digwydd rhywbeth a all effeithio ar eich gallu i weithio (ee mynd yn feichiog neu ddioddef anaf) – mae gan eich cyflogwyr gyfrifoldeb cyfreithiol dros eich iechyd a'ch diogelwch, mae'n bosib y bydd rhaid iddyn nhw eich atal o'r gwaith tra'u bod nhw'n cael ateb i'r broblem, ond fel arfer, os bydd hyn yn digwydd, byddwch chi'n cael eich talu.
  • os byddwch chi'n gyrru neu'n gweithio peiriannau, dweud wrth eich cyflogwyr os ydych chi dan feddyginiaeth sy'n eich gwneud yn gysglyd - dylent eich symud i swydd arall dros dro os oes un ar gael i chi

Offer gwarchod personol

Rhaid i'ch cyflogwyr ddarparu offer gwarchod personol ar eich cyfer am ddim. Rhaid i chi ddefnyddio'r offer yn gywir a dilyn yr hyfforddiant a'r cyfarwyddyd a gawsoch.

Mewn rhai swyddi, gall peidio â defnyddio Offer Gwarchod Personol yn iawn fod yn sail dros gamau disgyblu neu hyd yn oed ddiswyddo. Fodd bynnag, cewch wrthod gwisgo Offer Gwarchod Personol os yw hynny'n peryglu'ch diogelwch (ee gallai offer o'r maint anghywir beryglu'ch diogelwch). Gofynnwch i'ch cyflogwyr neu i gynrychiolydd diogelwch y cwmni am y maint iawn (a rhaid ei ddarparu am ddim).

Os ydych chi’n Sikh sy’n gweithio ar safleoedd adeiladu ac yn gwisgo tyrban gallwch wrthod gwisgo offer gwarchod y pen ar sail grefyddol. Nid yw hwn yn gymwys os ydych chi’n gweithio ar safleoedd ar wahân i safleoedd adeiladu, lle er enghraifft y byddai’r defnydd o offer gwarchod y pen dal yn angenrheidiol.

Os ydych chi’n Sikh sydd ddim yn gwisgo tyrban mae’n rhaid i chi wisgo’r offer gwarchod y pen addas.

Os ydych chi'n poeni am iechyd a diogelwch yn y gwaith

Yn y lle cyntaf, dylech drafod eich pryderon gyda'ch cyflogwyr neu gyda'r bos sydd uwch eich pen. Mae'n bosib bod gan eich cwmni gynrychiolydd diogelwch, a'r person hwnnw fydd eich man cyswllt cyntaf. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith e.e. swyddog undeb llafur, mae'n bosib y gall eich helpu.

Os bydd pethau'n mynd i'r pen, gallwch gysylltu â'r awdurdod sy'n gyfrifol am orfodi iechyd a diogelwch yn eich gweithle (naill ai'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu'ch awdurdod lleol).

Mae gan arolygwyr iechyd a diogelwch bwerau i orfodi'r gyfraith. Os dilynwch chi'r drefn hon, ni chaiff eich cyflogwyr eich disgyblu na'ch rhoi dan anfantais yn eich swydd – er enghraifft trwy wrthod talu i chi am yr amser pan wrthodoch chi weithio oherwydd y perygl, eich anwybyddu wrth ddyrchafu pobl, ayb.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU