Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Atal o'r gwaith ar sail feddygol/iechyd a diogelwch

Dan amgylchiadau penodol, mae'n bosib y bydd rhaid i'ch cyflogwyr eich atal o'ch gwaith oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch. Cael gwybod ynghylch eich hawliau os digwydd hyn, sut y cewch eich talu a beth fydd yn digwydd os ydych chi'n feichiog.

Atal o'r gwaith ar sail feddygol

Mae gan eich cyflogwyr ddyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau eich iechyd a'ch diogelwch. Mae hyn yn golygu eu bod yn cael eich atal o'r gwaith os ydyn nhw'n tybio y gallech fod yn wynebu risg arbennig.

Er enghraifft, mae'n bosib y byddech chi'n cael eich atal o'r gwaith petaech chi'n cael alergedd difrifol i gemegyn yn y gwaith, neu eich bod yn fam feichiog sy'n gweithio mewn lab lle defnyddir pelydredd. Dylai eich cyflogwyr seilio'u penderfyniad ar asesiad risg.

Ni fydd gennych yr hawl i gael eich atal gyda thâl ar sail feddygol os, er enghraifft:

  • nad ydych chi'n gyflogai ee yn gontractwr/wraig annibynnol, yn weithiwr/wraig asiantaeth neu'n weithiwr/wraig llawrydd
  • eich bod yn afresymol yn gwrthod gwaith addas arall a gynigir gan eich cyflogwyr
  • nad ydych yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion rhesymol y gall fod rhaid i'ch cyflogwyr eu darparu er mwyn sicrhau eich bod ar gael i wneud gwaith arall/yn lle'ch gwaith arferol, pan fydd gofyn

Tâl

Os ydych chi wedi bod yn eich swydd am fis neu fwy pan gewch eich atal, bydd gennych yr hawl i gael eich talu am gyfnod atal hyd at 26 wythnos. Dylai'r tâl fod yn gyfwerth â thâl wythnos arferol. Fodd bynnag, os cynigir gwaith addas arall i chi, rhaid i chi ei gymryd fel arall, byddwch chi'n colli'ch hawl i gael eich talu.

Mae'n bosib bod rheolau ar gyfer atal o'r gwaith ar sail feddygol yn eich contract cyflogaeth. Os yw'r rheolau hynny'n dweud y dylech gael tâl pan fyddwch wedi'ch atal o'r gwaith, dylech sicrhau nad yw'r swm gwirioneddol yn llai na thâl wythnos waith arferol. Os felly, eich cyflogwyr fydd yn gorfod talu'r gwahaniaeth.

Os nad ydych am ddychwelyd i'r gwaith tra'ch bod wedi'ch atal, bydd eich hawl i gael tâl yn dod i ben os byddwch yn gwrthod gwaith addas arall. Mae hyn yn cynnwys gwaith nad yw o anghenraid wedi'i gynnwys yn eich contract cyflogaeth.

Os ydych chi'n feichiog

Rhaid i'ch cyflogwyr wneud asesiad arbennig o'r risg i fenywod sy'n feichiog ac i'w babanod. Os oes risgiau, rhaid i'ch cyflogwyr eich gwarchod chi a'ch babi drwy wneud y canlynol:

  • addasu eich amodau gweithio a/neu eich oriau gweithio
  • cynnig gwaith addas arall i chi os oes peth
  • eich atal o'r gwaith cyhyd at sy'n angenrheidiol

Os cewch eich atal, yna, bydd gennych yr hawl i dâl llawn, gan gynnwys unrhyw fonysau y byddech wedi'u cael. Dylai'r cyfnod atal barhau nes bod y risg i chi neu i'ch babi wedi'i dileu.

Gall menywod beichiog sy'n gweithio yn y nos fod yn agored i risgiau ychwanegol. Os oes gennych dystysgrif feddygol sy'n nodi bod risg o'r fath, dylid cynnig gwaith addas i chi yn ystod y dydd. Os nad oes gwaith fel hyn ar gael, gellir eich atal o'r gwaith nes bod y risg i'ch iechyd wedi mynd heibio. Os gwrthodwch chi waith arall sy'n rhesymol, does dim rhaid i'ch cyflogwyr dalu i chi.

Beth i'w wneud nesaf

Os mai eich iechyd chi sydd dan sylw, siaradwch â'ch Meddyg Teulu.

Os byddwch chi'n anghytuno â'ch cyflogwyr, dylech ddilyn y drefn gwyno sydd yn eich contract. Gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn y tâl iawn. Bydd eich contract neu'ch datganiad cyflogaeth yn dweud a all eich cyflogwyr dalu'n wahanol i chi yn ystod cyfnod atal.

Os bydd pethau'n mynd i'r pen, fe allwch gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU