Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi’n feichiog yn y gwaith mae’n rhaid i’ch cyflogwr gwarchod eich iechyd a diogelwch ac efallai y bydd gennych yr hawl i amser o’r gwaith ar gyfer gofal cynedigol. Rydych hefyd yn cael eich gwarchod rhag cael eich trin yn annheg. Cael gwybod pa warchodaeth y mae gennych hawl iddo.
Defnyddiwch yr offeryn ar-lein i gael cymorth personol
Mae gan gyflogeion beichiog bedair prif hawl:
Mae gan gyflogwyr hefyd ddyletswyddau penodol i sicrhau iechyd a diogelwch eu cyflogeion beichiog.
Rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn feichiog o leiaf 15 wythnos cyn dechrau'r wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni. Os nad oes modd gwneud hyn, er enghraifft, am nad oeddech chi'n sylweddoli eich bod yn feichiog, rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr cyn gynted ag y bo modd. Dylech hefyd ddweud wrtho pryd yr hoffech ddechrau eich absenoldeb mamolaeth a chael Tâl Mamolaeth Statudol.
Ond mae'n syniad da dweud wrth eich cyflogwr yn fuan, oherwydd bydd hyn yn gadael iddo gynllunio o gwmpas eich absenoldeb mamolaeth a chyflawni'i ddyletswyddau cyfreithiol tuag atoch. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes unrhyw faterion iechyd a diogelwch yn codi. Allwch chi ddim cymryd amser o'r gwaith gyda thâl ar gyfer apwyntiadau cynenedigol tan i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn feichiog.
Mae gan bob cyflogai beichiog, ni waeth ers pryd y maent wedi bod yn eu swyddi, hawl i amser rhesymol o'r gwaith ar gyfer gofal cynenedigol. Rhaid i chi gael tâl yn ôl eich cyfradd cyflog arferol am unrhyw amser o'r gwaith. Mae'n anghyfreithlon i'ch cyflogwr wrthod rhoi amser rhesymol o'r gwaith i chi ar gyfer gofal cynenedigol neu wrthod talu eich cyfradd cyflog arferol i chi.
Gall eich cyflogwr ofyn i chi am dystiolaeth o apwyntiadau cynenedigol, o’r ail apwyntiad ymlaen. Os yw'ch cyflogwr yn holi, dylech ddangos tystysgrif feddygol iddo sy’n dangos eich bod yn feichiog, a cherdyn apwyntiad neu fath arall o dystiolaeth sy’n dangos bod gennych apwyntiad.
Gall gofal cynenedigol gynnwys dosbarthiadau ymlacio a magu plant yn ogystal ag archwiliadau meddygol, os caiff y rhain eu hargymell gan eich meddyg. Os oes modd, ceisiwch osgoi cymryd amser o'r gwaith pan allwch chi, o fewn rheswm, drefnu dosbarthiadau neu archwiliadau y tu allan i oriau gwaith.
Nid oes gan dadau hawl gyfreithiol i amser o’r gwaith er mwyn mynd gyda’u partner i apwyntiadau cynenedigol, gan nad yw’r hawl i gael amser o’r gwaith gyda thâl ond yn berthnasol i weithwyr beichiog. Fodd bynnag, mae nifer o gwmnïau’n sylweddoli pwysigrwydd y cyfnod hwn ac yn gadael i’w gweithwyr gymryd amser o’r gwaith gyda thâl, neu wneud iawn am yr amser yn nes ymlaen.
Os yw cyflogwyr yn trin menyw mewn modd llai ffafriol oherwydd ei bod yn cael triniaeth IVF neu’n bwriadu beichiogi, yna mae hynny yn wahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw. Dim ond ar ôl i’r embryo gael ei ffrwythloni a'i fewnosod y mae gennych hawl i amser o'r gwaith gyda thâl ar gyfer gofal cynenedigol
Gall rhai peryglon yn y gweithle effeithio ar feichiogrwydd yn fuan iawn yn y cyfnod beichiogrwydd, neu hyd yn oed cyn cenhedlu, felly rhaid i gyflogwyr ystyried iechyd unrhyw fenywod sydd mewn oed lle mae'n debygol y byddant yn cael plant, nid dim ond aros nes dywedwch wrthynt eich bod yn feichiog.
Rhaid i’ch cyflogwr, fel rhan o’u hasesiad risg arferol, ystyried a oes unrhyw fath o waith yn debygol o beri risg benodol i fenywod sydd mewn oed tebygol i gael plant. Dylech ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn feichiog cyn gynted ag y bo modd er mwyn iddynt allu penderfynu a oes angen cymryd unrhyw gamau pellach.
Pan ddywedwch wrth eich cyflogwr eich bod yn feichiog, dylai eich cyflogwr adolygu ei asesiad risg ar gyfer eich gwaith penodol chi, a nodi unrhyw newidiadau sy'n angenrheidiol er mwyn eich diogelu chi ac iechyd eich babi yn y groth. Dylai'ch cyflogwr eich cynnwys chi yn y broses a dal i adolygu'r asesiad wrth i'ch beichiogrwydd fynd rhagddo, rhag ofn bod angen ei addasu mewn unrhyw ffordd.
Gallai'r risgiau hyn gael eu hachosi gan y canlynol:
Rhaid i'ch cyflogwr wedyn naill ai gael gwared ar y risg neu eich symud chi fel nad ydych yn agored i'r risg (er enghraifft, drwy gynnig gwaith arall addas i chi). Os nad yw'r naill na'r llall yn bosib, dylai eich cyflogwr eich atal o'r gwaith gyda chyflog llawn.
Os ydych yn meddwl eich bod mewn perygl ac nad yw'ch cyflogwr yn cytuno, dylech siarad yn gyntaf â'ch cynrychiolydd iechyd a diogelwch neu swyddog undeb llafur. Gallwch hefyd fynd yn syth at eich cyflogwr i esbonio'ch pryderon. Os ydy'ch cyflogwr yn dal i wrthod gweithredu, dylech siarad â'ch meddyg neu ffonio llinell gymorth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar 0845 345 0055 (rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).
Os ydych yn absennol o'r gwaith gyda salwch sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd yn ystod y pedair wythnos cyn dyddiad geni tebygol y babi, bydd eich absenoldeb mamolaeth a'ch Tâl Mamolaeth Statudol (gan eich cyflogwr) neu'ch Lwfans Mamolaeth (gan y Ganolfan Byd Gwaith) yn dechrau'n awtomatig, ni waeth beth a benderfynwyd yn flaenorol gyda'ch cyflogwr.
Hyd yn oed os ydych wedi penderfynu peidio â chymryd Absenoldeb Mamolaeth Statudol, mae'n rhaid i chi gymryd pythefnos ar ôl i'r babi gyrraedd, neu bedair wythnos os ydych yn gweithio mewn ffatri. Gelwir hyn yn 'absenoldeb mamolaeth gorfodol'.
Os yw cyflogwyr yn trin menywod yn llai ffafriol oherwydd eu beichiogrwydd neu oherwydd iddynt gymryd absenoldeb mamolaeth, yna mae hynny yn wahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw. Mae triniaeth o'r fath yn cynnwys pethau fel:
Ni chaiff eich cyflogwr newid telerau ac amodau eich cyflogaeth yn ystod eich beichiogrwydd heb i chi gytuno ar hynny. Os gwna, bydd yn torri'r contract.
Os oes gennych broblem yn derbyn eich hawliau wrth weithio tra’ch bod yn feichiog, mynnwch sgwrs gyda’ch cyflogwr – mae’n bosib mai camddealltwriaeth ydyw. Os na fydd hyn yn gweithio, mae’n bosib y bydd angen i chi ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr er mwyn gwneud cwyn.