Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Absenoldeb mamolaeth: dychwelyd i'r gwaith

Cael gwybod am eich hawliau pan fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith, a beth i'w wneud os byddwch yn cael problemau gyda’ch cyflogwr.

Dychwelyd i’r gwaith

Pan fyddwch chi'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb mamolaeth arferol, bydd gennych yr hawl i fynd yn ôl i'r un swydd dan yr un telerau ac amodau â phetaech heb fod yn absennol.

Bydd hyn yn berthnasol hefyd pan fyddwch yn dychwelyd ar ôl cyfnod ychwanegol o absenoldeb mamolaeth, oni bai bod eich cyflogwr yn dangos nad yw'n rhesymol ymarferol iddo'ch derbyn yn ôl i'ch swydd wreiddiol (er enghraifft oherwydd nad yw'r swydd yn bodoli rhagor). Os felly, rhaid i chi gael cynnig gwaith arall sy’n addas i chi gyda'r un telerau ac amodau â phetaech chi heb fod yn absennol.

Rhoi rhybudd eich bod yn dychwelyd i weithio

Os byddwch chi'n absennol am y cyfnod llawn, does dim rhaid i chi roi rhybudd eich bod yn dychwelyd, ond mae'n syniad da gwneud hynny.

Os penderfynwch beidio â dychwelyd i'r gwaith o gwbl, rhaid i chi roi rhybudd i'ch cyflogwr yn y ffordd arferol.

Os nad ydych chi am fod yn absennol am y cyfnod llawn

Rhaid i'ch cyflogwr dybio y byddwch yn absennol am y cyfnod absenoldeb mamolaeth llawn, gan gynnwys unrhyw absenoldeb mamolaeth ychwanegol. Os nad ydych chi'n awyddus i fod yn absennol am y cyfnod i gyd, rhaid i chi roi o leiaf wyth wythnos o rybudd eich bod yn dymuno dychwelyd i'r gwaith yn fuan neu os ydych chi’n dymuno newid y dyddiad pan fyddwch yn dychwelyd. Gall eich cyflogwr fynnu nad ydych chi'n dychwelyd nes bod yr wyth wythnos wedi mynd heibio.

Beth fydd yn digwydd os byddwch chi'n sâl ar ddiwedd eich cyfnod o absenoldeb

Os na allwch ddychwelyd i'r gwaith ar ddiwedd y cyfnod pan ddaw eich absenoldeb mamolaeth i ben, rhowch wybod i'ch cyflogwr yn y ffordd arferol.

Gwaith hyblyg

Fel rhiant plentyn sy’n 16 oed neu’n iau (neu blentyn anabl dan 18 oed), mae gennych hawl i ofyn am batrwm gweithio hyblyg. Gall hyn eich helpu i gael cydbwysedd rhwng gweithio a gofalu am eich plentyn. Rhaid i’ch cyflogwr ystyried eich cais ac ymateb i chi’n ysgrifenedig.

Bwydo o’r fron

Os ydych chi’n bwriadu bwydo o’r fron pan fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith, dylech roi gwybod i’ch cyflogwr yn ysgrifenedig. Yn ddelfrydol, dylech wneud hyn cyn i chi ddychwelyd fel bod gan eich cyflogwr amser i gynllunio.

Rhaid i'ch cyflogwr gynnal asesiad risg o'ch swydd i ganfod unrhyw risgiau posib i chi fel mam sy’n bwydo o’r fron neu i’ch babi. Os oes unrhyw risg rhaid iddynt wneud popeth o fewn rheswm i gael gwared â’r risg neu wneud trefniadau eraill ar eich cyfer. Rhaid i’ch cyflogwr ddarparu cyfleusterau gorffwyso addas hefyd.

Er nad yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith, anogir cyflogwyr i ddarparu amgylchedd iach, diogel a phreifat i famau sy’n bwydo er mwyn gallu paratoi a chadw llaeth.

Cymryd absenoldeb rhiant yn dilyn absenoldeb mamolaeth

Os byddwch chi angen mwy o amser o’r gwaith i gymryd gofal o’ch plentyn, efallai y gallwch gymryd absenoldeb rhiant. Gallwch gymryd hyd at bedair wythnos o absenoldeb rhiant ar ddiwedd eich absenoldeb mamolaeth heb effeithio ar eich hawl i ddychwelyd.

Os byddwch chi’n cymryd mwy na phedair wythnos, gallwch ddychwelyd i'r un swydd oni bai nad yw hynny yn rhesymol ac ymarferol bosib. Os felly, rhaid i chi gael cynnig gwaith arall sy’n addas i chi gyda'r un telerau ac amodau â phetaech chi heb fod yn absennol.

Beth i’w wneud os byddwch chi’n wynebu problemau

Os cewch chi drafferth i gael yr hyn y mae gennych hawl iddo, mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwr yn gyntaf. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (e.e. swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall eich helpu.

Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr.

Os ydych chi'n dal yn anhapus, bydd gennych yr hawl i gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth.

Ble i gael cymorth

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am faterion sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.

Gall y Gwasanaeth Cyngor Ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU