Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawlio Lwfans Mamolaeth (ffurflen MA1)

Budd-dal yw'r Lwfans Mamolaeth ar gyfer merched beichiog sy'n gweithio ac sy'n methu cael Tâl Mamolaeth Statudol.

Golwg gyffredinol

Telir Lwfans Mamolaeth am hyd at 26 wythnos ac nid oes rhaid talu treth nac Yswiriant Gwladol arno. Ni chaiff ei dalu tra byddwch yn gweithio.

Sut i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Defnyddiwch y ddolen isod i gael gwybod mwy ac i lwytho ffurflen hawlio Lwfans Mamolaeth ar fformat PDF oddi ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith.

Er mwyn darllen ffeiliau PDF bydd angen copi o Adobe Reader arnoch. Ceir gwybodaeth am sut i lwytho hwn am ddim ar banel de'r dudalen hon.

Gallwch hefyd gael ffurflen hawlio a chyngor drwy gysylltu â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith.

Dim ond yng Nghymru, Lloegr a'r Alban y mae’r gwasanaeth ar-lein hwn ar gael.

Additional links

Cyngor budd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes

Allweddumynediad llywodraeth y DU