Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Tâl mamolaeth

Os ydych chi'n gweithio ac yn cael babi, does dim ots p'un a ydych yn gweithio'n llawn amser ynteu'n rhan-amser, bydd gennych yr hawl i gael Tâl Mamolaeth Statudol cyn belled â'ch bod yn bodloni rhai amodau. Dewch i wybod am yr amodau hyn ac am eich hawliau.

Tâl mamolaeth - y ffeithiau syml

Bydd y tâl mamolaeth a gewch chi o bosib yn amrywio'n dibynnu ar eich amgylchiadau. Fel arfer, byddwch chi'n hawlio naill ai tâl mamolaeth statudol neu gontractaidd gan eich cyflogwr, neu Lwfans Mamolaeth drwy'r Ganolfan Byd Gwaith. Hefyd, mae nifer o fudd-daliadau eraill y gallech fod â'r hawl iddynt.

Gallwch gael cymorth personol i gael gwybod beth yr ydych yn gymwys ar ei gyfer drwy ddefnyddio'r gwasanaeth Canllawiau Rhyngweithiol Personol i'ch Hawliau Cyflogaeth (TIGER).

Bydd y gwasanaeth yn cynhyrchu datganiad personol o'r absenoldeb a'r tâl mamolaeth y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer, ynghyd â chalendr rhyngweithiol i'ch helpu i gynllunio eich absenoldeb.

Tâl mamolaeth contractaidd (cwmni)

Mae'n bosib bod gan eich cyflogwr ei gynllun tâl mamolaeth ei hun. Edrychwch yn eich contract cyflogaeth neu yn eich llawlyfr staff i weld y manylion, neu holwch yr adran Adnoddau Dynol.

Bydd ambell gynllun cwmni'n gofyn i chi dalu rhywfaint o'r arian yn ôl os na fyddwch chi'n dychwelyd i'r gwaith. Fodd bynnag, rhaid i chi gael yr un faint â'r Tâl Mamolaeth Statudol o leiaf (os ydych chi'n gymwys), a does dim rhaid ad-dalu hwnnw.

Tâl Mamolaeth Statudol

Fe gewch Dâl Mamolaeth Statudol am hyd at 39 wythnos, cyn belled â'ch bod yn bodloni'r gofynion.

Er mwyn bod yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol rhaid eich bod:

  • yn cael eich cyflogi gan yr un cyflogwr yn ddi-dor (nid yw ambell doriad yn amharu ar gyflogaeth barhaus) am o leiaf 26 wythnos tan y 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni
  • yn ennill o leiaf £95 yr wythnos ar gyfartaledd (cyn treth)

I hawlio'ch Tâl Mamolaeth Statudol rhaid i chi roi gwybod i'ch cyflogwr o leiaf 28 diwrnod cyn y dyddiad yr ydych am i'ch Tâl Mamolaeth Statudol ddechrau cael ei dalu. Mae'n bosib y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi ei hysbysu drwy lythyr.

Os oes gennych yr hawl i gael Tâl Mamolaeth Statudol, fe'i cewch hyd yn oed os penderfynwch chi adael eich swydd (neu os cewch eich diswyddo) cyn dechrau ei gael. Hefyd, pan fyddwch yn dechrau ei gael, rhaid i'ch cyflogwr barhau i dalu Tâl Mamolaeth Statudol i chi hyd yn oed os byddwch yn gadael eich swydd neu'n cael eich diswyddo. Does dim rhaid i chi ei dalu'n ôl os penderfynwch beidio â dychwelyd i'r gwaith neu os byddwch chi'n gadael eich swydd tra byddwch yn cael y Tâl Mamolaeth Statudol.

Os ydych yn gyflogedig cewch ddewis pryd yr ydych am i'ch Tâl Mamolaeth Statudol ddechrau. Bydd hyn fel arfer yn cyd-daro â'ch Absenoldeb Mamolaeth Cyffredin. Oni bai fod eich plentyn yn cael ei eni'n gynt, y cynharaf y gall y Tâl Mamolaeth Statudol ddechrau yw 11 wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni.

Faint o Dâl Mamolaeth Statudol gewch chi

Os cewch chi Dâl Mamolaeth Statudol, bydd eich cyflogwr yn talu 90 y cant o gyfartaledd eich enillion wythnosol i chi am y chwe wythnos gyntaf, ac yna hyd at £123.06 am y 33 wythnos sy'n weddill. Byddwch yn talu treth ac Yswiriant Gwladol yn yr un modd ag yr oeddech gyda'ch cyflog arferol.

Bydd eich cyflogwr yn adhawlio'r rhan fwyaf o'r Tâl Mamolaeth Statudol o'u cyfraniadau Yswiriant Gwladol a thaliadau eraill. Er mwyn bod yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol rhaid i chi dalu treth ac Yswiriant Gwladol fel cyflogai (neu y byddech yn eu talu petaech chi'n ennill digon neu’n ddigon hen).

Beth sy’n digwydd os nad ydych chi'n gymwys ar gyfer Tâl Mamolaeth Statudol?

Lwfans Mamolaeth

Os na allwch gael Tâl Mamolaeth Statudol gan eich cyflogwr, mae'n bosib y gallwch chi gael Lwfans Mamolaeth:

  • os ydych chi'n gyflogedig
  • os ydych chi'n hunangyflogedig ac yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2
  • os oes gennych dystysgrif Eithriad Enillion Isel
  • os nad ydych yn gyflogedig ond eich bod wedi gweithio'n agos at gyfnod eich beichiogrwydd neu'n ystod eich beichiogrwydd

Dyma'r amodau:

  • eich bod wedi bod naill ai'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig am o leiaf 26 o'r 66 wythnos cyn yr wythnos y disgwylid i'ch babi gyrraedd (mae rhan o wythnos yn cyfrif fel wythnos gyfan)
  • eich bod wedi ennill £30 ar gyfartaledd yn ystod unrhyw 13 wythnos o'r 66 wythnos hynny

Cyfradd safonol y Lwfans Mamolaeth yw £123.06 neu 90 y cant o’ch enillion wythnosol ar gyfartaledd, pa un bynnag sydd leiaf. Telir y Lwfans Mamolaeth am hyd at 39 wythnos; does dim rhaid talu Treth Incwm na chyfraniadau Yswiriant Gwladol arno.

Budd-daliadau teulu eraill y gallech chi fod â hawl iddynt

Mae nifer o fudd-daliadau ychwanegol ar gael i fenywod beichiog a mamau newydd. Mae'r rhain yn cynnwys Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant, Grantiau Mamolaeth Cychwyn Cadarn, Budd-dal Plant, Credydau Treth a phresgripsiynau a thriniaeth ddeintyddol am ddim. Eich sefyllfa bersonol fydd yn penderfynu a fyddwch chi'n gymwys ar gyfer y budd-daliadau hyn ai peidio.

Os cewch chi drafferthion

Os ydych chi'n bendant yn gymwys i gael tâl mamolaeth a bod eich cyflogwr yn gwrthod ei dalu i chi, ystyrir ei fod yn tynnu'r arian o'ch cyflog yn anghyfreithlon. Fe all hefyd fod yn enghraifft o wahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw.

Os ydych chi'n meddwl y dylech chi fod yn cael Tâl Mamolaeth Statudol ond bod eich cyflogwr yn anghytuno, mynnwch sgwrs â nhw, ac esboniwch eich hawliau. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (ee swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall eich helpu.

Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd arnoch eisiau cwyno gan ddefnyddio trefn gwyno fewnol eich cyflogwr, neu gallech wneud cais i swyddfa agosaf Cyllid a Thollau EM a gofyn iddynt am benderfyniad. Rhaid gwneud cais i Gyllid a Thollau EM o fewn chwe mis ar ôl i'ch cyflogwr wrthod talu i chi yn y lle cyntaf.

Ble mae cael cymorth

Mae Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth.

Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Allweddumynediad llywodraeth y DU