Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Absenoldeb Mamolaeth Statudol

Os oes gennych hawl i Absenoldeb Mamolaeth Statudol, ceir camau y mae angen i chi eu dilyn wrth ddweud wrth eich cyflogwr bod arnoch eisiau cymryd eich absenoldeb mamolaeth. Yma, cewch wybod am y rheolau ar gyfer dechrau cyfnod o Absenoldeb Mamolaeth Statudol a faint o absenoldeb mamolaeth y mae'n rhaid i chi ei gymryd.

Cymorth personol gyda'ch hawliau o ran Absenoldeb Mamolaeth Statudol

Gallwch gael cymorth personol ynghylch beth y gallech chi fod yn gymwys ar ei gyfer drwy ddefnyddio'r adnodd hawliau mamolaeth ar-lein. Bydd yr adnodd hwn yn cynhyrchu datganiad personol o'r Absenoldeb a'r Tâl Mamolaeth Statudol y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer, ynghyd â chalendr rhyngweithiol i'ch helpu i gynllunio.

Cynlluniau tâl ac absenoldeb mamolaeth cwmnïau

Mae'n bosib bod gan eich cyflogwr ei gynllun absenoldeb mamolaeth ei hun ac fe allai hwnnw fod yn fwy hael na'r cynllun statudol. Edrychwch yn eich contract cyflogaeth neu'ch llawlyfr staff i weld y manylion neu holwch eich cyflogwr. Chaiff eich cyflogwr ddim cynnig llai i chi na'ch hawliau statudol.

Hawl i Absenoldeb Mamolaeth Statudol

Fel cyflogai, bydd gennych hawl i 26 wythnos o Absenoldeb Mamolaeth Arferol a 26 wythnos o Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol – gan wneud cyfanswm o flwyddyn. Cyfeirir at y 52 wythnos gyda'i gilydd yn Absenoldeb Mamolaeth Statudol.

I fod yn gymwys ar gyfer Absenoldeb Mamolaeth Statudol, rhaid i chi fod yn gyflogai. Os ydych chi'n gyflogai a'ch bod yn rhoi'r rhybudd cywir i'ch cyflogwr, gallwch gymryd Absenoldeb Mamolaeth Statudol ni waeth:

  • ers faint rydych chi wedi bod gyda’ch cyflogwr
  • faint o oriau rydych chi’n eu gweithio
  • beth yw eich cyflog

Rhieni drwy fenthyg croth (surrogate parents)

Os ydych chi a’ch gŵr, eich gwraig neu’ch partner yn cael plentyn drwy fenthyg croth, fel arfer fyddwch chi ddim yn gymwys ar gyfer Absenoldeb Mamolaeth neu Absenoldeb Mabwysiadu Statudol. Fodd bynnag, os ydych chi’n bwriadu gwneud cais am orchymyn rhiant, gallech fod yn gymwys i gael absenoldeb rhiant heb dâl ar yr amod eich bod yn bodloni'r meini prawf.

Ddim yn gymwys ar gyfer Absenoldeb Mamolaeth Statudol

Os nad ydych chi'n gymwys i gael Absenoldeb Mamolaeth Statudol, ewch i siarad â’ch cyflogwr. Mae’n bosib y bydd yn cynnig hawliau mamolaeth estynedig y mae gennych chi’r hawl i’w cael.

Os ydych chi’n weithiwr, mae’n bosib y bydd eich cyflogwr yn caniatáu i chi gymryd absenoldeb di-dâl. Neu, fel arall, gallech ystyried cymryd gwyliau â thâl, absenoldeb di-dâl neu absenoldeb rhiant. Efallai y bydd gennych chi'r hawl i gael Tâl Mamolaeth Statudol o hyd.

Dweud wrth eich cyflogwr eich bod yn bwriadu cymryd Absenoldeb Mamolaeth Statudol

Rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn dymuno cymryd Absenoldeb Mamolaeth Statudol o leiaf 15 wythnos cyn dechrau'r wythnos y disgwylir i'ch babi gyrraedd. Os nad oes modd gwneud hyn (er enghraifft, am nad oeddech chi'n sylweddoli eich bod yn feichiog), dywedwch wrthyn nhw cyn gynted ag y bo modd. Bydd angen i chi ddweud:

  • eich bod yn feichiog
  • pryd mae'r babi i fod i gyrraedd
  • pryd rydych yn dymuno dechrau'ch cyfnod o absenoldeb mamolaeth (fe gewch newid y dyddiad yn ddiweddarach, os byddwch yn rhoi o leiaf 28 diwrnod o rybudd)

Mae'n bosib y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi roi rhybudd ysgrifenedig. Mae'n bosib y bydd hefyd yn gofyn am gopi o ffurflen MAT B1, y dystysgrif mamolaeth, sy'n dweud pryd y disgwylir i'ch babi gael ei eni. Bydd eich meddyg neu'ch bydwraig yn rhoi copi o ffurflen MAT B1 i chi pan fyddwch yn feichiog ers 21 wythnos. Allan nhw ddim rhoi hon i chi ynghynt.

Ar ôl rhoi gwybod i'ch cyflogwr eich bod yn dymuno cymryd Absenoldeb Mamolaeth Statudol, dylai ysgrifennu atoch o fewn 28 diwrnod. Dylai gadarnhau eich Absenoldeb Mamolaeth Statudol a rhoi i chi'r dyddiad y daw eich Absenoldeb Mamolaeth Statudol i ben.

Dechrau eich Absenoldeb Mamolaeth Statudol

Cewch ddechrau'ch cyfnod o Absenoldeb Mamolaeth Statudol unrhyw bryd o'r 11 wythnos cyn dechrau'r wythnos y disgwylir i'ch babi gyrraedd.

Os byddwch chi'n absennol o'r gwaith oherwydd eich beichiogrwydd o fewn y pedair wythnos cyn y dyddiad pan ddisgwylir i'r babi gael ei eni, fe all eich cyflogwr eich gorfodi i ddechrau'ch cyfnod o Absenoldeb Mamolaeth Statudol bryd hynny.

Absenoldeb mamolaeth gorfodol

Does dim rhaid i chi gymryd eich Absenoldeb Mamolaeth Statudol i gyd. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi gymryd pythefnos o absenoldeb mamolaeth 'gorfodol' (pedair wythnos os ydych chi'n gweithio mewn ffatri) ar ôl i'ch babi gael ei eni.

Os byddwch chi’n colli’ch babi

Gallwch dal gymryd Absenoldeb Mamolaeth Statudol os yw eich plentyn yn cael ei eni’n farwanedig ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd neu os yw’n cael ei eni’n fyw ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd.

Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol

Gallai tad eich plentyn neu'ch partner fod â'r hawl i hyd at 26 wythnos o Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol. Mae hyn yn ychwanegol i’r pythefnos o Absenoldeb Tadolaeth Statudol y gallai fod â’r hawl i’w gael.

Gellir cymryd Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol 20 wythnos ar ôl i’r plentyn gael ei eni. Mae’n rhaid iddo ddod i ben cyn pen-blwydd cyntaf y plentyn.

Beth i’w wneud os ydych chi’n wynebu problemau wrth gymryd Absenoldeb Mamolaeth Statudol

Os byddwch chi’n wynebu problem yn ystod eich Absenoldeb Mamolaeth Statudol, siaradwch â’ch cyflogwr yn gyntaf – efallai mai dim ond camddealltwriaeth syml ydyw. Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi wneud cwyn gan ddilyn trefn gwyno eich cyflogwr.

Allweddumynediad llywodraeth y DU