Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi’n dad newydd a bod eich partner yn dychwelyd, neu wedi dychwelyd, i’r gwaith, gallech chi fod â’r hawl i gael hyd at 26 wythnos o Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol. Yma, cewch wybod a ydych chi'n gymwys.
Gallech chi fod yn gymwys i gael Tâl ac Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol un ai:
Y cyfnod mwyaf o Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol y gallech ei gael yw 26 wythnos. Os yw eich partner wedi dychwelyd i’r gwaith, gallwch gymryd yr absenoldeb rhwng 20 wythnos a blwyddyn ar ôl i’ch plentyn gael ei eni neu ei roi i chi i’w fabwysiadu. Mae’n bosib y bydd gennych chi’r hawl i gael Tâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol yn ystod cyfnod Tâl Mamolaeth Statudol, Lwfans Mamolaeth neu Dâl Mabwysiadu eich partner.
Telir Tâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol un ai:
Y gyfradd ar hyn o bryd yw £135.45 neu 90 y cant o’ch enillion wythnosol ar gyfartaledd os yw hynny’n llai.
I fod yn gymwys i gael Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol, rhaid i chi fod yn gyflogai. I gael Tâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol rhaid i chi fod yn weithiwr cyflogedig, ac mae’n rhaid i chi a’ch partner fodloni’r meini prawf sydd wedi’u nodi isod. Os nad ydych yn sicr a ydych yn gyflogai ai peidio, dilynwch y ddolen isod.
Gallwch gymryd Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol os ydych chi’n gyflogai sydd â chontract cyflogaeth. Er mwyn bod yn gymwys i gael absenoldeb, rhaid i chi fod wedi bod gyda’ch cyflogwr am o leiaf 26 wythnos cyn yr wythnos gymhwyso, un ai:
Rhaid i chi fod yn dal wedi’ch cyflogi gan y cyflogwr hwnnw yr wythnos (sy'n rhedeg o ddydd Sul i ddydd Sadwrn) cyn yr hoffech ddechrau eich cyfnod absenoldeb.
I chi fod yn gymwys i gael Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol mae’n rhaid eich bod yn cymryd amser o’r gwaith i ofalu am y plentyn, a rhaid i’r fam neu’r sawl sydd wedi mabwysiadu fod wedi:
I chi fod yn gymwys i gael Tâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol rhaid i chi fod yn weithiwr cyflogedig. Hynny yw, rhaid i chi weithio i rywun sy’n atebol i dalu cyfran y cyflogwr o’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol dosbarth un. Rhaid i chi hefyd ennill o leiaf y terfyn enillion is ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd mewn grym ddiwedd y wythnos gymhwyso.
Mae’n rhaid i’r fam neu’r sawl sydd wedi mabwysiadu fod wedi dychwelyd i’r gwaith a rhoi’r gorau i hawlio unrhyw dâl perthnasol, gydag o leiaf pythefnos o’r cyfnod talu 39 wythnos dal ar ôl.
Rhaid i chi fod â’r bwriad o ofalu am y plentyn yn ystod eich Cyfnod Tâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol.
Dim ond yn ystod cyfnod Tâl Mabwysiadu Statudol, Tâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth 39 wythnos eich partner y mae Tâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol yn daladwy i chi.
Ar gyfer Tâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol mewn achos o fabwysiadu o dramor, yr wythnos gymhwyso yw pa un bynnag o’r canlynol sydd hwyraf:
Mae’n rhaid mai chi sydd â’r prif gyfrifoldeb (ochr yn ochr â chyfrifoldeb y fam neu’r sawl sydd wedi mabwysiadu a chymryd absenoldeb mabwysiadu) dros fagu’r plentyn. Os ydych chi’n mabwysiadu drwy asiantaeth fabwysiadu yn y DU, rhaid i chi gael eich paru â’r plentyn i’w fabwysiadu.
Mae gennych chi’r hawl i gymryd Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol di-dâl os byddwch yn bodloni’r meini prawf ar gyfer bod yn gymwys i gael cyfnod absenoldeb, ond heb dâl. Bydd yr holl Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol a gymerir ar ôl i'r cyfnod Tâl Mamolaeth Statudol, Lwfans Mamolaeth neu Dâl Mabwysiadu Statudol ddod i ben yn ddi-dâl.
Byddwch yn parhau i fod yn gyflogai drwy gydol eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol oni bai fod eich contract yn cael ei derfynu gennych chi neu'ch cyflogwr.
Os nad ydych chi’n gyflogai, ond yn weithiwr asiantaeth, yn ddeilydd swydd neu’n isgontractiwr, ni fydd gennych yr hawl i gael Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol fel arfer. Efallai y byddwch yn gymwys i gael tâl os byddwch yn bodloni’r meini prawf eraill ar gyfer bod yn gymwys, ac nad ydych yn gweithio am y rheswm eich bod yn gofalu am y plentyn.
Os nad ydych chi’n gymwys i gael Tâl nac Absenoldeb Tadolaeth Statudol, efallai y byddwch yn gallu cymryd gwyliau blynyddol neu absenoldeb rhiant di-dâl yn lle hynny.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu gofyn am batrwm gweithio mwy hyblyg.
Os byddwch yn gwneud cais am Dâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol, ond ddim yn gymwys i’w gael, rhaid i’ch cyflogwr roi copi o’r ffurflen ASPP1 i chi, yn egluro’r rhesymau dros hyn.
Mae nifer o fudd-daliadau ychwanegol ar gael i rieni newydd. Mae’r rhain yn cynnwys Budd-dal Plant a Chredydau Treth. Eich sefyllfa bersonol fydd yn penderfynu a fyddwch chi'n gymwys i gael y budd-daliadau hyn ai peidio.