Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os oes gennych chi hawl i gymryd Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol, mae camau y bydd angen i chi eu dilyn wrth roi gwybod i’ch cyflogwr bod arnoch eisiau ei gymryd. Mae rheolau hefyd ynghylch pryd y cewch ddechrau eich cyfnod o absenoldeb, a faint o absenoldeb gewch chi ei gymryd.
Rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr ar bapur o leiaf wyth wythnos cyn y dyddiad yr hoffech ddechrau eich absenoldeb. Gallwch ddefnyddio ffurflen SC7 (ar gyfer genedigaethau), SC8 (ar gyfer mabwysiadu o’r DU) neu SC9 (ar gyfer mabwysiadu o dramor). Mae’n syniad da edrych a oes gan eich cyflogwr ei fersiwn ei hun o’r ffurflen. Rhaid iddi gynnwys manylion am y canlynol:
Mae’n rhaid i’r ffurflen hefyd gynnwys manylion eich bod un ai:
Mae’n rhaid i chi hefyd gadarnhau eich perthynas â’r plentyn:
Mae’n rhaid i fam y plentyn neu’r sawl sydd wedi mabwysiadu a chymryd absenoldeb mabwysiadu hefyd lofnodi datganiad yn nodi’r canlynol:
Mae’n rhaid i’r datganiad hefyd nodi eich bod un ai:
O fewn 28 diwrnod ar ôl i chi roi rhybudd, mae’n bosib y bydd eich cyflogwr hefyd yn gofyn am y canlynol:
Os bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi am yr wybodaeth hon, mae’n rhaid i chi ei rhoi o fewn 28 diwrnod, neu mae’n bosib na fyddwch yn gallu cymryd eich absenoldeb.
Ar ôl i chi roi gwybod i’ch cyflogwr bod arnoch eisiau cymryd Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol a/neu Dâl Tadolaeth Ychwanegol (gan gynnwys unrhyw dystiolaeth ychwanegol y gofynnwyd i chi amdani), dylai eich cyflogwr ysgrifennu atoch. Dylai hyn fod o fewn 28 diwrnod, a dylai roi gwybod i chi'r dyddiad y bydd eich absenoldeb a'ch tâl yn dechrau ac yn dod i ben.
Gallwch ddewis dyddiadau gwahanol i’ch absenoldeb a’ch tâl ddod i ben – er enghraifft, os byddwch yn dymuno parhau i gymryd cyfnod o absenoldeb di-dâl ar ôl i'ch cyfnod gyda thâl ddod i ben.
I chi allu cymryd Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol, mae’n rhaid bod mam y plentyn, neu’r sawl sydd wedi mabwysiadu a chymryd absenoldeb mabwysiadu, wedi dychwelyd i'r gwaith. Mae’n rhaid i’r fam neu’r sawl sydd wedi mabwysiadu ddychwelyd i’r gwaith ddim cynharach na phythefnos ar ôl i’r plentyn gael ei eni neu’i fabwysiadu.
Byddwch yn dal i allu cymryd Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol os bydd eich partner yn dychwelyd i'r gwaith yn rhan-amser, neu'n dychwelyd i fod yn hunangyflogedig, ar yr amod nad yw'r Tâl Mamolaeth Statudol, y Lwfans Mamolaeth neu’r Tâl Mabwysiadu Statudol yn daladwy.
Ni chewch ddechrau eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol na chael dim Tâl Tadolaeth Statudol os:
Ar ôl i’ch partner ddychwelyd i’r gwaith ni fydd unrhyw gyfnod pellach o Dâl Mamolaeth Statudol, Lwfans Mamolaeth neu Dâl Mabwysiadu Statudol a delir i’ch partner yn effeithio ar eich hawl i gael absenoldeb a thâl.
Ar ôl i’ch partner ddychwelyd i’r gwaith, gallwch ddechrau eich absenoldeb a’ch tâl ar unrhyw bryd:
Gallwch ddewis cymryd hyd at 26 wythnos o absenoldeb, ond bydd yn rhaid iddo ddod i ben:
Dim ond yn ystod un o’r canlynol y mae Tâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol yn daladwy:
Bydd yn para am 39 wythnos yn olynol o’r dyddiad y bydd y cyfnod talu yn dechrau. Bydd unrhyw absenoldeb a gymerir pan fydd y 39 wythnos ar ben yn ddi-dâl.
Rhaid i chi roi o leiaf chwe wythnos o rybudd i’ch cyflogwr os ydych chi’n dymuno newid dyddiad eich absenoldeb neu os nad ydych chi'n dymuno cymryd eich absenoldeb mwyach. Os nad yw’n ymarferol i’ch cyflogwr, nid oes yn rhaid iddo ganiatáu i chi newid unrhyw ddyddiadau o fewn chwe wythnos i chi roi rhybudd. Er enghraifft, efallai mai dyma fydd yr achos os yw eisoes wedi cyflogi rhywun i weithio yn eich lle yn ystod eich absenoldeb.
Os nad ydych chi’n gymwys i gael Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol mwyach, rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr cyn gynted â phosib. Er enghraifft, oherwydd nad yw eich partner wedi dychwelyd i'r gwaith fel oedd y bwriad, neu gan nad chi fydd yn gofalu am y plentyn.
Gall eich cyflogwr fynnu eich bod yn cymryd cyfnod o absenoldeb di-dâl:
Byddai’r absenoldeb di-dâl yn dechrau ar y dyddiad yr oedd eich absenoldeb i fod i ddechrau. Ni fyddai’n para mwy na chwe wythnos ar ôl i chi roi rhybudd nad oeddech chi'n gymwys mwyach (neu'r dyddiad yr oedd yr absenoldeb i fod i ddod i ben os yw hynny'n gynharach).
Os ydych chi'n meddwl y dylech chi fod yn cael Tâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol neu Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol ond bod eich cyflogwr yn anghytuno, mynnwch sgwrs ag ef ac esboniwch eich hawliau. Os oes gennych gynrychiolydd cyflogeion (e.e. swyddog undeb llafur), mae'n bosib y bydd yn gallu eich helpu.
Os byddwch yn gymwys