Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawliau yn ystod eich Absenoldeb Tadolaeth Cyffredin a dychwelyd i’r gwaith

Ar wahân i'ch cyflog, bydd holl fuddiannau arferol eich cyflogaeth yn aros yr un fath yn ystod eich cyfnod o Absenoldeb Tadolaeth Cyffredin. Byddwch yn cael mynd yn ôl i'r un swydd ac ni ddylai'ch cyflogwr eich trin yn annheg na'ch diswyddo oherwydd eich bod yn dewis cymryd Absenoldeb Tadolaeth Cyffredin neu'n gofyn am gael gwneud hynny.

Beth sy’n digwydd i’ch hawliau i wyliau

Byddwch chi'n dal i hel eich hawl i wyliau gyda thâl yn ystod Absenoldeb Tadolaeth Cyffredin. Chewch chi ddim cymryd gwyliau blynyddol yn ystod Absenoldeb Tadolaeth Cyffredin, ond efallai y gallwch ymestyn eich amser i ffwrdd drwy gymryd cyfnod o wyliau blynyddol yn union cyn neu ar ôl Absenoldeb Tadolaeth Cyffredin.

Eich cyfraniadau pensiwn

Os yw’ch cyflogwr yn cyfrannu tuag at gynllun pensiwn galwedigaethol, yna rhaid iddynt barhau i wneud eu cyfraniadau arferol drwy gydol y cyfnod pan fyddwch ar absenoldeb tadolaeth gyda thâl.

Os ydych chi fel arfer yn cyfrannu tuag at eich pensiwn dylech barhau i wneud hynny, yn seiliedig ar swm y tâl tadolaeth yr ydych yn ei dderbyn.

Dychwelyd i’r un swydd

Ar ddiwedd eich Absenoldeb Tadolaeth Cyffredin, mae gennych hawl i ddychwelyd i’r un swydd ag o’r blaen ar yr un telerau ag amodau a phe na baech wedi bod yn absennol.

Os bydd sefyllfa o ddiswyddo’n codi pan fyddwch chi ar Absenoldeb Tadolaeth Cyffredin dylech chi gael eich trin yn yr un modd ag unrhyw weithiwr arall. Mae hyn yn cynnwys ymgynghori â chi ynghylch y diswyddo a chael eich ystyried ar gyfer swyddi eraill.

Mae gennych hawl hefyd i elwa o unrhyw welliannau cyffredinol i’ch cyfradd gyflog neu delerau ac amodau eraill a gyflwynwyd tra roeddech yn absennol.

Mae’n anghyfreithlon i’ch cyflogwr eich diswyddo neu’ch trin yn annheg o ganlyniad i gymryd Absenoldeb Tadolaeth Cyffredin neu geisio cymryd Absenoldeb Tadolaeth Cyffredin.

Os nad ydych chi’n dymuno dychwelyd i’r gwaith, dylech roi’r rhybudd a esboniwyd yn eich cytundeb cyflogaeth. Nid oes rhaid i chi dalu Tâl Tadolaeth Cyffredin yn ôl os na fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith.

Cymryd absenoldeb rhiant yn dilyn Absenoldeb Tadolaeth Cyffredin

Os byddwch chi angen mwy o amser o’r gwaith i ofalu am eich plentyn, efallai y gallwch gymryd absenoldeb rhiant.

Gallwch gymryd cyfnod penodol o absenoldeb rhiant heb i hynny effeithio ar eich hawl i ddychwelyd. Os byddwch chi’n cymryd mwy na’r cyfnod hwnnw, gallwch ddychwelyd i'r un swydd oni bai nad yw hynny'n rhesymol ac yn ymarferol bosib. Os felly, rhaid i chi gael cynnig gwaith arall sy’n addas i chi gyda'r un telerau ac amodau a phetaech chi heb fod yn absennol.

Gweithio hyblyg

Fel rhiant plentyn o 16 oed, neu dan 18 oed os yw'r plentyn yn anabl, mae gennych hawl i ofyn am batrwm gweithio hyblyg. Gall hyn eich helpu i gael cydbwysedd rhwng gweithio a gofalu am eich plentyn. Rhaid i’ch cyflogwr ystyried eich cais ac ymateb i chi’n ysgrifenedig.

Beth i'w wneud os byddwch chi'n wynebu problemau

Os byddwch chi’n wynebu problem yn ystod eich Absenoldeb tadolaeth Cyffredin neu pan fyddwch chi’n dychwelyd i’r gwaith, mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwyr yn gyntaf oll - mae’n bosib mai camddealltwriaeth syml ydyw. Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi gwyno drwy ddilyn trefn gwyno eich cyflogwr.

Yn yr adran hon...

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU