Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Absenoldeb rhiant

Mae absenoldeb rhiant yn rhoi hawl i rieni cymwys gael amser o'r gwaith heb dâl i ofalu am eich plentyn neu i wneud trefniadau ar gyfer lles eich plentyn. Gall eich helpu i dreulio mwy o amser gyda'ch plentyn ac i gael gwell cydbwysedd rhwng eich gwaith a'ch ymrwymiadau teuluol.

Oes gennych chi'r hawl i gyfnod o absenoldeb rhiant?

Os oes gennych blentyn dan bump oed (neu dan 18 oed os yw'ch plentyn yn anabl), efallai y bydd gennych hawl i gael cyfnod o absenoldeb rhiant. I fod yn gymwys, rhaid eich bod yn gyflogai a'ch bod wedi gweithio i'ch cyflogwr am flwyddyn o leiaf yn ddi-dor.

Rhaid eich bod hefyd naill ai’n rhiant:

  • a enwir ar dystysgrif geni eich plentyn
  • a enwir ar dystysgrif mabwysiadu'r plentyn, neu
  • mae gennych gyfrifoldeb rhiant yn ôl y gyfraith dros blentyn dan bump oed (dan 18 os yw'r plentyn yn anabl)

Os ydych wedi gwahanu ac nad ydych yn byw gyda'ch plant, bydd gennych hawl i gael cyfnod o absenoldeb rhiant os oes gennych gyfrifoldeb ffurfiol fel rhiant dros y plant o hyd.

Os ydych yn hunangyflogedig neu’n weithiwr (e.e. gweithiwr asiantaeth, contractwr ac ati), nid oes gennych hawl i gael cyfnod o absenoldeb rhiant.

Nid oes gan rieni maeth hawl i gael cyfnod o absenoldeb rhiant, ond efallai y gallant wneud cais am batrwm gweithio hyblyg.

Gallai eich cyflogwr ofyn am dystiolaeth i ddangos bod gennych hawl i gael cyfnod o absenoldeb rhiant. Gallai hyn gynnwys:

  • tystysgrif geni eich plentyn
  • papurau yn cadarnhau eich bod yn mabwysiadu plentyn neu'r dyddiad lleoli mewn achosion mabwysiadu
  • prawf o lwfans byw i'r anabl ar gyfer eich plentyn

Faint o gyfnod o absenoldeb rhiant gewch chi?

Gall pob rhiant gael hyd at 13 wythnos o absenoldeb rhiant ar gyfer pob un o'ch plant tan eu pen-blwydd yn bump oed.

Os ydych wedi mabwysiadu'ch plentyn, gall pob rhiant gael hyd at 13 wythnos o absenoldeb rhiant. Bydd yr hawl hon yn para am hyd at bum mlynedd o ddyddiad lleoli’r plentyn gyda'ch teulu neu hyd at ei ben-blwydd yn 18 oed, pa un bynnag fydd gyntaf.

Os yw eich plentyn yn anabl (hynny yw, yn cael lwfans byw i'r anabl) mae gan bob rhiant hawl i gael hyd at 18 wythnos o absenoldeb rhiant hyd at ei ben-blwydd yn 18 oed.

Hawl unigol yw absenoldeb rhiant, ac ni allwch rannu’r absenoldeb rhwng y rhieni. Er enghraifft, ni all tad benderfynu cymryd dim ond deg wythnos a’r fam yn cymryd 16 wythnos.

Cyflog yn ystod absenoldeb rhiant

Ni cheir tâl am absenoldeb rhiant statudol ond darllenwch eich contract cyflogaeth – efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig tâl i chi. Os ydych ar incwm isel, efallai y cewch chi Gymhorthdal Incwm.

Os na fyddwch chi'n gymwys i gael cyfnod o absenoldeb rhiant

Dylech bob amser ddarllen eich contract cyflogaeth neu’ch llawlyfr staff i weld beth yw cynllun absenoldeb rhiant eich cyflogwr. Efallai fod eich cyflogwr wedi ehangu absenoldeb rhiant i gynnwys gweithwyr eraill, er enghraifft gofalwyr maeth, taid a nain/tad-cu a mam-gu, neu gyflogeion sy'n gweithio yno ers llai na blwyddyn.

Os na fyddwch chi'n gymwys i gael cyfnod o absenoldeb rhiant ond bod angen amser o'r gwaith arnoch i ofalu am eich plentyn, fe allech chi wneud y canlynol:

  • cymryd gwyliau â thâl
  • gofyn i'ch cyflogwr am amser o'r gwaith heb dâl
  • gofyn i'ch cyflogwr am gael patrwm gweithio hyblyg

Os ceir argyfwng go iawn a bod arnoch angen cymryd amser o’r gwaith ar fyr rybudd:

  • efallai y bydd eich cyflogwr yn caniatáu i chi gael cyfnod o absenoldeb mewn argyfwng
  • efallai y bydd gennych hawl i gael amser o’r gwaith i wneud trefniadau gofal

Mae gan bob cyflogai hawl i gael amser rhesymol o'r gwaith heb dâl er mwyn delio ag argyfyngau sy'n ymwneud â phobl y maent yn gofalu amdanynt. Gelwir hyn yn amser o’r gwaith ar gyfer pobl ddibynnol, ac mae'n berthnasol ni waeth ers faint rydych chi'n gweithio i'ch cyflogwr a ph’un ai a oes gennych gyfrifoldebau gofal dros blentyn neu oedolyn ai peidio.

Penderfynu cymryd absenoldeb rhiant

Pwrpas absenoldeb rhiant yw eich galluogi i ofalu am eich plentyn. Mae hyn yn golygu gofalu am les y plentyn, a gallai gynnwys gwneud trefniadau er ei fudd.

Nid yw gofalu am blentyn o reidrwydd yn golygu bod gyda'r plentyn 24 awr y dydd. Efallai y byddwch am gymryd absenoldeb rhiant er mwyn gallu treulio mwy o amser gyda'ch plentyn ifanc. Dyma enghreifftiau o sut y gellid defnyddio absenoldeb rhiant:

  • yn syth ar ôl eich absenoldeb mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu
  • treulio mwy o amser gyda'ch plentyn yn ystod ei flynyddoedd cynnar
  • treulio amser gyda'ch plentyn os bydd yn rhaid iddo dreulio cyfnod yn yr ysbyty
  • edrych ar ysgolion newydd
  • helpu eich plentyn i gynefino â threfniadau gofal plant newydd
  • galluogi eich teulu i dreulio mwy o amser gyda'i gilydd, er enghraifft, mynd â'ch plentyn i aros gyda'i nain a'i daid/mam-gu a thad-cu

Cewch gymryd absenoldeb rhiant yn syth ar ôl eich absenoldeb mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu, cyn belled â'ch bod yn rhoi'r rhybudd cywir.

Beth ddylech chi ei wneud os gwrthodir cyfnod o absenoldeb rhiant i chi

Os oes gennych hawl i gyfnod o absenoldeb rhiant ond bod eich cyflogwr yn gwrthod eich cais, siaradwch â'ch cyflogwr neu’ch adran AD (adnoddau dynol) am y rhesymau dros hynny. Os oes gennych gynrychiolydd cyflogeion (er enghraifft, cynrychiolydd undeb llafur), mae'n bosib y gall ef eich helpu. Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr i wneud cwyn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU