Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Tra’r ydych ar absenoldeb rhiant, bydd eich contract cyflogaeth yn parhau. Mae hyn yn golygu bod gennych hawl o hyd i gael eich holl fuddiannau cyflogaeth statudol, ond gall eich cyflogwr atal rhai o’r hawliau a’r buddiannau yn eich contract. Yma, gallwch gael gwybod mwy am eich hawliau.
Mae eich lwfans gwyliau statudol yn un o’ch buddiannau cyflogaeth statudol. Byddwch yn dal i gronni eich lwfans gwyliau statudol yn ystod eich absenoldeb.
Bydd rhai cyflogwyr yn rhoi hawl gwyliau ychwanegol drwy gontract cyflogaeth gweithwyr yn ogystal â’r lwfans gwyliau statudol. Ni fyddwch yn dal i gronni hawl gwyliau eich contract yn ystod eich absenoldeb, oni bai eich bod wedi cytuno ar hynny gyda’ch cyflogwr.
Nid yw absenoldeb rhiant yn effeithio ar eich hawliau pensiwn.
Os ydych chi ar absenoldeb rhiant, dylech gael eich trin yr un fath ag unrhyw weithiwr arall os bydd sefyllfa o ddiswyddiadau’n digwydd. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i gael gwybod am y diswyddiadau a chael ymgynghori amdanynt, a chael eich ystyried am unrhyw swydd arall.
Ni chaiff eich cyflogwr ddewis eich diswyddo:
Fodd bynnag, os dewisir eich diswyddo am resymau teg (e.e. gan fod eich holl adran yn cael eu diswyddo), gellir eich diswyddo.
Cyn belled â bod yr absenoldeb am lai na phedair wythnos, cewch ddychwelyd i’r un swydd. Dylech hefyd elwa o unrhyw welliannau mewn telerau ac amodau cyflogaeth, er enghraifft, os bu codiad cyflog cyffredinol.
Os yw eich absenoldeb am fwy na phedair wythnos, bydd gennych hawl i ddychwelyd i’r un swydd. Os nad yw hyn yn bosibl, bydd gennych hawl i ddychwelyd i swydd debyg gyda’r un statws a thelerau ac amodau â’r hen swydd, neu rai gwell. Ni ddylai eich cyflogwr eich trin yn annheg na’ch diswyddo am gymryd absenoldeb rhiant nac am ofyn am gael gwneud hynny.
Os cewch broblemau tra’ch bod ar absenoldeb rhiant, siaradwch â’ch cyflogwr yn gyntaf. Efallai y bydd angen i chi wneud cwyn drwy ddefnyddio trefn gwyno fewnol eich cyflogwr.
I gael mwy o wybodaeth am ble i gael cymorth gyda materion cyflogaeth, ewch i’r dudalen cysylltiadau cyflogaeth.