Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymryd absenoldeb rhiant

Os ydych chi'n gymwys i gael absenoldeb rhiant, ceir rhai camau y mae'n rhaid i chi eu cymryd wrth wneud cais, gan gynnwys penderfynu ar hyd y cyfnod y byddwch yn gwneud cais amdano. Gallai eich cyflogwr ohirio eich cais, ond dim ond ar seiliau penodol iawn.

Trefniadau absenoldeb rhiant

Lle bynnag y bo modd, dylai cyflogwyr a chyflogeion wneud eu trefniadau eu hunain ynghylch sut y bydd y drefn absenoldeb rhiant yn gweithio yn y gweithle. Os nad yw hyn yn bosib, mae’r rheolau canlynol yn berthnasol. Ni chaiff trefniadau’ch gweithle fod yn llai ffafriol na'r rhain.

Rhoi rhybudd

Rhaid i chi roi 21 diwrnod o rybudd i’ch cyflogwr o’r dyddiad rydych yn dymuno dechrau eich cyfnod absenoldeb rhiant. Mae'n bosib y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi gyflwyno'ch rhybudd yn ysgrifenedig. Cyn belled â'ch bod yn gymwys i gael absenoldeb rhiant a'ch bod yn rhoi'r rhybudd cywir i'ch cyflogwr, cewch gymryd absenoldeb rhiant ar unrhyw adeg.

Os ydych chi'n dymuno cymryd absenoldeb rhiant yn syth ar ôl yr enedigaeth neu ar ôl mabwysiadu eich plentyn, dylech roi 21 diwrnod o rybudd cyn dechrau'r wythnos y disgwylir i'r babi gael ei eni neu y disgwylir i'r plentyn gael ei leoli gyda chi. Mewn achosion lle na fydd hyn yn bosib, dylech roi gwybod i'ch cyflogwr cyn gynted â phosib. Er enghraifft, os caiff eich plentyn ei eni'n gynnar, neu os cewch lai na 21 diwrnod o rybudd bod y plentyn rydych am ei fabwysiadu yn mynd i gael ei leoli gyda chi.

Os ydych wedi rhoi'r rhybudd cywir, gall eich absenoldeb rhiant ddechrau ar y diwrnod y caiff eich plentyn ei eni neu ei leoli, hyd yn oed os yw hynny cyn neu ar ôl y dyddiad a roddoch i'ch cyflogwr.

Gall eich cyflogwr dderbyn llai na 21 diwrnod o rybudd.

Amser o'r gwaith ar gyfer argyfwng

Mae gan bob cyflogai hawl i gael amser rhesymol o'r gwaith heb dâl er mwyn delio â rhai argyfyngau sy'n ymwneud â'u teulu. Er enghraifft, os bydd eu plentyn yn sâl, trefniadau gofal plant yn newid neu os bydd problem yn ysgol y plentyn. Does dim rhaid i chi roi rhybudd ymlaen llaw ar gyfer y math hwn o absenoldeb mewn argyfwng. Ond bydd angen i chi egluro’r broblem wrth eich cyflogwr cyn gynted â phosib a dweud pryd rydych yn disgwyl dychwelyd i'r gwaith.

Blociau o wythnos

Rhaid i chi gymryd eich absenoldeb mewn blociau o wythnosau llawn. Mae wythnos yn seiliedig ar eich patrwm gweithio arferol. Felly os mai dim ond ar ddydd Llun a dydd Mawrth y byddwch yn gweithio, byddai wythnos yn ddau ddiwrnod, neu os ydych chi'n gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener, byddai wythnos yn bum niwrnod.

Os oes gan eich plentyn anabledd, fe gewch fod yn absennol fesul diwrnod yn hytrach na fesul wythnos, ac felly, fe allech ddefnyddio absenoldeb rhiant ar gyfer apwyntiadau rheolaidd yn yr ysbyty.

Os nad yw eich plentyn yn anabl, efallai y bydd eich cyflogwr yn dal yn caniatáu i chi gymryd absenoldeb rhiant fesul diwrnod os yw'n dymuno. Os na fydd yn caniatáu hynny a chithau eisiau bod yn absennol o'r gwaith am ddiwrnodau unigol – er enghraifft i fynd â'ch plentyn at y deintydd – dylech ofyn i'ch cyflogwr a gewch chi weithio oriau hyblyg neu ddefnyddio'ch lwfans gwyliau.

Pedair wythnos y flwyddyn

Ni chaiff pob rhiant fod yn absennol am fwy na phedair wythnos ar gyfer unrhyw blentyn unigol mewn blwyddyn.

At y dibenion hyn, bydd blwyddyn yn dechrau pan fyddwch yn dechrau bod yn gymwys ar gyfer absenoldeb rhiant, sef pan fyddwch naill ai wedi gweithio i'ch cyflogwr am flwyddyn yn ddi-dor neu pan gaiff eich plentyn ei eni, os bydd y dyddiad hwn yn hwyrach.

Gall eich cyflogwr adael i chi gymryd cyfnod hwy o absenoldeb rhiant bob blwyddyn os bydd yn dymuno.

Cyflog yn ystod absenoldeb rhiant

Ni cheir tâl yn ystod absenoldeb rhiant statudol ond darllenwch eich contract cyflogaeth – efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig cyflog i chi. Os ydych ar incwm isel, efallai y cewch chi Gymhorthdal Incwm.

Os byddwch chi'n cael bonws fel rhan o'ch contract a'ch bod i fod i gael bonws yn ystod eich absenoldeb rhiant, dylech edrych ar delerau ac amodau'r cynllun bonws ac, os oes angen, ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol ynghylch a oes gennych hawl i'r bonws. Fel rheol:

  • os yw'r bonws yn gysylltiedig â pherfformiad neu waith rydych wedi'i gyflawni cyn eich absenoldeb rhiant, yn gyffredinol, byddai gennych hawl iddo
  • os rhoddir bonws am waith neu berfformiad yn y dyfodol, yn ystod cyfnod y byddwch ar absenoldeb rhiant, mae'n annhebygol y byddai gennych hawl i'r bonws

Os bydd eich cyflogwr yn gohirio'ch cyfnod o absenoldeb

Oni bai eich bod am fod yn absennol ar unwaith ar ôl geni neu fabwysiadu plentyn, gall eich cyflogwr ohirio'ch absenoldeb am hyd at chwe mis os yw'n teimlo y byddai'n tarfu ar y busnes. Byddai'n rhesymol i'ch cyflogwr ohirio eich absenoldeb:

  • os ydych chi'n gwneud cais am absenoldeb yn ystod un o gyfnodau prysuraf y tymor
  • os oes cyfran sylweddol o'r gweithlu wedi gwneud cais am gael absenoldeb rhiant yr un pryd
  • os yw eich swydd yn golygu y byddai eich absenoldeb, yn ystod cyfnod penodol, yn niweidio'r busnes yn ormodol

Dylai eich cyflogwr drafod hyn gyda chi a chadarnhau'r trefniadau gohirio yn ysgrifenedig ddim hwyrach na saith niwrnod ar ôl i chi wneud cais am yr absenoldeb. Dylai eich cyflogwr nodi'r rheswm dros ohirio ynghyd â dyddiadau newydd eich absenoldeb rhiant, ar ôl cytuno arnynt gyda chi. Dylai hyd yr absenoldeb a gewch fod yr un faint â'r absenoldeb y gwnaethoch gais amdano.

Os bydd y gohirio'n mynd y tu hwnt i ddiwedd cyfnod eich hawl (e.e. ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn bump oed) bydd yn dal yn bosib i chi gael y cyfnod o absenoldeb bryd hynny.

Trosglwyddo'ch hawl

Os byddwch chi'n dechrau swydd newydd, fe gewch drosglwyddo unrhyw gyfnod o absenoldeb rhiant nad ydych wedi'i ddefnyddio. Chewch chi ddim manteisio ar hyn nes i chi fod gyda'ch cyflogwr am flwyddyn.

Beth ddylech chi ei wneud os gwrthodir cyfnod o absenoldeb rhiant i chi

Os oes gennych hawl i gyfnod o absenoldeb rhiant ond bod eich cyflogwr yn gwrthod eich cais, siaradwch â'ch cyflogwr neu â'r adran AD (adnoddau dynol) am y rhesymau dros hynny. Os oes gennych gynrychiolydd cyflogeion (er enghraifft, cynrychiolydd undeb llafur), mae'n bosib y gall ef eich helpu. Mae'n bosib y bydd angen i chi ddefnyddio trefn gwyno fewnol eich cyflogwr i wneud cwyn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU