Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol os bydd y fam neu'r sawl sy'n mabwysiadu'n marw

Os bydd eich partner yn marw yn ystod eu cyfnod o Absenoldeb neu Dâl Mamolaeth neu Fabwysiadu Statudol, efallai y bydd modd i chi gael cyfnod o Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Ychwanegol am gyfnod estynedig. Yma cewch wybod a ydych chi'n gymwys.

Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol estynedig – y pethau pwysig

Mae'n bosib y byddwch yn gymwys i gael Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol â thâl am gyfnod estynedig os yw'r fam neu'r sawl sydd wedi mabwysiadu'r plentyn, ac sydd wedi cymryd absenoldeb mabwysiadu ar gyfer y plentyn, wedi marw naill ai:

  • cyn i'r plentyn fod yn flwydd oed
  • yn ystod blwyddyn gyntaf lleoliad mabwysiadu ar gyfer achosion mabwysiadu yn y DU
  • yn y flwyddyn gyntaf ar ôl i'r plentyn a fabwysiadwyd o dramor ddod i Brydain Fawr

Yn yr achos hwn, gall Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol barhau am hyd at 52 wythnos. Gall ddechrau unrhyw bryd ar ôl marwolaeth y fam neu'r mabwysiadwr a oedd ar gyfnod o absenoldeb mabwysiadu. Gellir cymryd Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol estynedig:

  • hyd at ben-blwydd cyntaf y plentyn (ar gyfer genedigaethau)
  • hyd at flwyddyn ar ôl i'r plentyn gael ei leoli i'w fabwysiadu (ar gyfer achosion mabwysiadu yn y DU)
  • hyd at flwyddyn ar ôl i'r plentyn ddod i Brydain Fawr i'w fabwysiadu (ar gyfer achosion mabwysiadu o dramor)

Mae'n bosib y bydd gennych chi hawl i Dâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol yn ystod eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol estynedig. Telir hwn i chi yn ystod y 39 wythnos y byddai'ch partner wedi cael Tâl Mamolaeth Statudol, Lwfans Mamolaeth neu Dâl Mabwysiadu Statudol.

Ni chewch gymryd Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol os ydych eisoes wedi cael cyfnod o Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol ar gyfer eich plentyn. Os ydych chi ar gyfnod o Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol adeg marwolaeth y fam neu'r mabwysiadwr, gallwch ymestyn eich cyfnod o absenoldeb.

I gymryd cyfnod o Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol estynedig, mae'n ofynnol eich bod yn bodloni'r amodau cymhwyso eraill ar gyfer Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol ac yn rhoi'r rhybudd cywir hefyd. Fodd bynnag, nid yw'n ofynnol bod y fam neu'r mabwysiadwr wedi dychwelyd i'r gwaith er mwyn i chi fod yn gymwys i gael Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Ychwanegol am gyfnod estynedig.

Sôn wrth eich cyflogwr am gymryd Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol neu am ymestyn y cyfnod

Dywedwch wrth eich cyflogwr cyn gynted â phosib os ydych chi'n dymuno cymryd neu ymestyn eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol. Gallwch wneud hyn ar lafar ond mae'n rhaid i chi roi rhybudd ysgrifenedig wedyn o fewn wyth wythnos ar ôl marwolaeth y fam neu'r mabwysiadwr. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio ffurflen SC10. Mae’n syniad da edrych a oes gan eich cyflogwr ei ffurflen ei hun.

Mae angen i chi ddweud (ac mae'n rhaid i'r ffurflen gynnwys):

  • pryd oedd y babi i fod i gael ei eni neu'r dyddiad y rhoddwyd gwybod i chi eich bod yn cael eich paru â phlentyn i'w fabwysiadu neu y cawsoch chi hysbysiad swyddogol ynglŷn â mabwysiadu o dramor
  • beth yw dyddiad geni eich babi neu'r dyddiad lleoli ar gyfer mabwysiadu, neu'r dyddiad y daeth eich plentyn i'r Deyrnas Unedig at ddibenion mabwysiadu
  • pryd rydych chi'n dymuno dechrau eich Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Ychwanegol a phryd rydych am iddo ddod i ben
  • eich bod yn cymryd absenoldeb er mwyn gofalu am y plentyn
  • enw'r fam neu'r sawl sy'n mabwysiadu, gan gynnwys cyfeiriad a rhif Yswiriant Gwladol
  • bod gan y fam neu'r mabwysiadwr hawl i gael naill ai Tâl Mamolaeth Statudol, Lwfans Mamolaeth neu Dâl Mabwysiadu Statudol (neu Absenoldeb Mamolaeth neu Fabwysiadu Statudol os mai dim ond am absenoldeb di-dâl rydych chi’n gwneud cais)
  • beth oedd dyddiad y farwolaeth
  • beth oedd dyddiad dechrau eu Lwfans Mamolaeth, Tâl Mamolaeth Statudol neu Dâl Mabwysiadu Statudol – neu'r dyddiad y byddai wedi dechrau

Mae'n rhaid i chi gadarnhau hefyd eich bod yn un o'r canlynol:

  • yn dad i'r plentyn
  • yn bartner priod, yn bartner neu’n bartner sifil (gan gynnwys perthynas o’r un rhyw) i'r fam neu'r sawl sy’n mabwysiadu

Mae'n rhaid i'r ffurflen nodi beth yw eich perthynas â'r plentyn:

  • ar gyfer achosion mabwysiadu yn y DU, mae'n rhaid eich bod wedi cael eich paru â'r plentyn ar gyfer mabwysiadu
  • ar gyfer achosion eraill, mae'n rhaid i chi gadarnhau mai chi sy'n bennaf gyfrifol am fagu'r plentyn

Nid oes yn rhaid i chi roi rhybudd cyn dechrau eich absenoldeb, cyn belled â'ch bod yn dweud wrth eich cyflogwr cyn gynted ag y bo modd bod y fam neu'r sawl sy'n mabwysiadu wedi marw.

Efallai y bydd eich cyflogwr hefyd yn gofyn am un o'r canlynol o fewn 28 diwrnod i chi roi'r rhybudd ysgrifenedig iddynt:

  • copi o dystysgrif geni'r plentyn, tystysgrif paru neu hysbysiad swyddogol a thystiolaeth ynglŷn â'r plentyn yn dod i'r DU
  • manylion cyflogaeth y fam neu'r mabwysiadwr

Os gofynnir i chi am yr wybodaeth hon, mae'n rhaid i chi ei rhoi o fewn 28 diwrnod neu fe allech golli rhywfaint o'ch hawl.

Dylech roi hysbysiad ysgrifenedig cyn gynted ag sy'n rhesymol bosib. Dylid ei roi o fewn wyth wythnos i farwolaeth y fam neu'r sawl sy'n mabwysiadu.

Does dim rhaid i chi ddechrau eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol o fewn wyth wythnos i farwolaeth eich partner. Os byddwch yn dechrau Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol yn nes ymlaen, mae'n rhaid i chi roi chwe wythnos o rybudd i'ch cyflogwr o'r dyddiad yr ydych chi'n dymuno cymryd yr absenoldeb.

Ar ôl dweud wrth eich cyflogwr eich bod yn dymuno cymryd Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol, dylent ysgrifennu atoch o fewn 28 diwrnod. Dylent ddweud wrthych pryd fydd eich Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Ychwanegol yn dod i ben. Gallwch ddewis dyddiadau gorffen gwahanol ar gyfer eich Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Ychwanegol. Er enghraifft, gallwch wneud hyn os byddwch yn cymryd Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol heb dâl ar ôl i gyfnod eich Tâl Tadolaeth Ychwanegol ddod i ben.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU