Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol: dychwelyd i'r gwaith

Yma, cewch wybod am eich hawliau a'ch cyfrifoldebau cyflogaeth pan fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol. Os oes gennych chi unrhyw broblemau neu os nad ydych yn cael eich hawliau, mae camau y gallwch eu dilyn.

Dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol

Pan fyddwch chi'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl bod ar gyfnod o Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol am 26 wythnos neu lai, bydd gennych hawl i fynd yn ôl i'r un swydd dan yr un telerau ac amodau â phetaech heb fod yn absennol. Mae'r warchodaeth hon hefyd yn berthnasol pan fyddwch yn cymryd hyd at bedair wythnos o absenoldeb rhiant ar ben eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol.

Pan fyddwch wedi bod yn absennol am gyfnod hwy na hyn, dylech hefyd ddychwelyd i'r un swydd gyda'r un telerau ac amodau. Fodd bynnag, os bydd eich cyflogwr yn dangos nad yw'n rhesymol ymarferol i chi ddychwelyd i'ch swydd wreiddiol, mae'n rhaid i chi gael cynnig gwaith arall sy'n addas ar eich cyfer. Rhaid i'r swydd hon fod â'r un telerau ac amodau cyflogaeth a fyddai'n berthnasol i chi pe na baech wedi bod yn absennol. Er enghraifft, efallai y byddai eich cyflogwr yn gwneud hyn os nad yw'ch swydd yn bodoli bellach.

Rhoi rhybudd eich bod yn dychwelyd i weithio

Rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr ar ba ddyddiad rydych chi'n disgwyl dychwelyd i'r gwaith pan fyddwch yn rhoi gwybod eich bod yn dymuno cymryd cyfnod o Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol. Os ydych chi'n dymuno dychwelyd yn gynt, mae'n rhaid i chi roi o leiaf chwe wythnos o rybudd cyn y dyddiad newydd.

Os na fyddwch chi'n rhoi'r rhybudd cywir, gall eich cyflogwr fynnu nad ydych yn dychwelyd tan y dyddiad cynharaf o blith y canlynol:

  • cyfnod rhybudd chwe wythnos
  • y dyddiad gwreiddiol roeddech chi i fod i ddychwelyd

Salwch ar ddiwedd eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol

Os na allwch ddychwelyd i'r gwaith, oherwydd salwch, ar ddiwedd y cyfnod y daw eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol i ben, rhowch wybod i'ch cyflogwr yn y ffordd arferol. Os ydych chi'n gymwys i gael Tâl Salwch Statudol yn ystod y cyfnod rydych chi'n cael Tâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol, byddwch yn cael Tâl Salwch Statudol yn ei le.

Gweithio hyblyg

Os ydych chi'n rhiant i blentyn sy'n 16 oed neu'n iau, neu i blentyn anabl dan 18 oed, mae gennych hawl i ofyn am batrwm gweithio hyblyg. Gall hyn eich helpu i gael cydbwysedd rhwng gweithio a gofalu am eich plentyn. Rhaid i’ch cyflogwr ystyried eich cais ac ymateb i chi’n ysgrifenedig.

Cymryd absenoldeb rhiant yn dilyn Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol

Os bydd arnoch chi angen mwy o amser o’r gwaith i ofalu am eich plentyn, efallai y gallwch gymryd absenoldeb rhiant. Gallwch gymryd hyd at bedair wythnos o absenoldeb rhiant ar ddiwedd eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol heb i hyn effeithio ar eich hawl i ddychwelyd.

Os byddwch yn cymryd mwy na phedair wythnos byddwch yn gallu dychwelyd i'r un swydd oni bai nad yw hyn yn rhesymol ymarferol. Os felly, mae'n rhaid i chi gael cynnig gwaith arall sy’n addas i chi gyda'r un telerau ac amodau â phetaech chi heb fod yn absennol.

Does dim rhaid i absenoldeb rhiant ddod yn syth ar ôl yr Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol. Gallwch gymryd absenoldeb rhiant yn nes ymlaen ar ôl i chi ddychwelyd i'r gwaith.

Beth i'w wneud os byddwch chi'n wynebu problemau

Os na chewch eich hawliau, yn gyntaf oll, mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwyr. Os oes gennych gynrychiolydd cyflogeion (ee swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall ef eich helpu. Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi ddilyn trefn gwyno fewnol eich cyflogwr i wneud cwyn.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU