Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Caiff eich telerau cyflogaeth, er enghraifft, eich cyfraniadau pensiwn, eu gwarchod yn ystod eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol. Os caiff eich swydd ei dileu yn ystod eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol, bydd gennych chi hawliau ychwanegol hefyd. Yma, cewch wybod rhagor am eich hawliau cyflogaeth yn ystod Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol.
Yn ystod eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol, bydd eich telerau ac amodau cyflogaeth yn cael eu gwarchod. Byddwch yn cadw eich hawliau a’ch buddiannau cyflogaeth arferol (ar wahân i gyflog) drwy gydol eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol.
Gallai hyn gynnwys unrhyw fynediad at fuddiannau a gewch fel rhan o’ch contract cyflogaeth, er enghraifft car cwmni neu ffôn symudol. Fodd bynnag, os yw'r buddiannau’n cael eu darparu ar gyfer defnydd busnes yn unig, mae’n bosib y bydd eich cyflogwr yn gallu'u hatal dros dro.
Os yw eich cyflogwr yn cyfrannu at gynllun pensiwn galwedigaethol, bydd yn rhaid iddo barhau i wneud ei gyfraniadau arferol ar gyfer unrhyw gyfnod y byddwch yn cael Tâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol neu dâl tadolaeth contractaidd ychwanegol.
Os ydych chi fel arfer yn gwneud cyfraniadau at eich pensiwn dylech barhau i wneud hynny, yn seiliedig ar swm y tâl yr ydych yn ei gael.
Drwy gydol eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol byddwch yn cronni eich holl hawliau arferol i wyliau â thâl. Mae hyn yn wir hyd yn oed os yw eich contract cyflogaeth yn dweud bod gennych chi'r hawl i gael mwy na'r lleiafswm statudol.
Gallwch ychwanegu gwyliau at ddechrau neu at ddiwedd eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol. Efallai na fyddwch yn gallu cario hawl gwyliau nad ydych chi wedi’i chymryd drosodd os bydd cyfnod eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol dros ddwy flwyddyn wyliau wahanol. Dylech chi a’ch cyflogwr drafod pryd fyddwch yn cymryd eich gwyliau blynyddol.
Mae'n annheg yn awtomatig os bydd eich cyflogwr yn dewis dileu eich swydd chi, neu eich diswyddo, am reswm sy'n gysylltiedig â'r canlynol:
Gall eich cyflogwr ddileu eich swydd yn ystod eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol os gall gyfiawnhau ei ddewis yn deg. Er enghraifft, efallai y bydd eich cyflogwr yn cau’r adran o’i fusnes y byddwch chi fel arfer yn gweithio ynddi, gan ddileu swyddi pob un o weithwyr yr adran honno. Yna, gall eich cyflogwr ddileu eich swydd chi hefyd.
Fodd bynnag, os bydd eich cyflogwr yn cael gwared ar staff ar draws y cwmni, ni chaiff ddileu eich swydd chi oherwydd eich bod wedi cymryd Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol neu ar fin ei gymryd.
Os caiff eich swydd ei dileu yn ystod eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol yna mae gennych chi hawliau arbennig. Mae gennych chi’r hawl i gael cynnig unrhyw swydd arall addas yn y cwmni. Mae hyn yn wir hyd yn oed os oes cyflogeion eraill a allai fod yn addas ar gyfer y swydd. Os cewch gynnig swydd newydd, bydd gennych chi'r hawl i gael cyfnod prawf o bedair wythnos o hyd, a ddylai ddechrau pan fyddwch yn dychwelyd o'ch Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol.
Os caiff eich swydd ei dileu, neu os cewch eich diswyddo yn ystod eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol, gallwch ofyn am ddatganiad ysgrifenedig yn egluro’r rhesymau dros benderfyniad eich cyflogwr. Mae’n rhaid i’ch cyflogwr roi datganiad i chi os byddwch yn gofyn am un.
Dylech gael eich cyfnod rhybudd arferol neu dâl yn lle rhybudd a thâl dileu swydd, os oes gennych chi hawl i'w cael.
Yn ystod eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol, gall cadw mewn cysylltiad â'ch cyflogwr fod yn fanteisiol.
Mae gan eich cyflogwr hawl i gael cyswllt rhesymol gyda chi yn ystod yr Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol. Efallai mai'r rheswm am hyn yw er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw newidiadau arwyddocaol yn y gweithle, gan gynnwys unrhyw gyfleoedd am ddyrchafiad neu swyddi gwag.
Gallwch weithio am hyd at ddeg diwrnod yn ystod eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol heb ddod â’ch hawl i Absenoldeb neu Dâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol i ben. Ni chewch weithio ar y dyddiau cadw mewn cysylltiad hyn oni bai eich bod chi a'ch cyflogwr yn cytuno ar hynny. Nid oes rhaid i'ch cyflogwr ganiatáu i chi weithio yn ystod eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol ac nid oes rhaid i chi dderbyn unrhyw waith a gynigir.
Er eu bod yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer pethau megis hyfforddiant neu ddigwyddiadau tîm, gellir defnyddio dyddiau cadw mewn cysylltiad ar gyfer unrhyw fath o waith. Dylai’r dyddiau hyn ei gwneud yn haws i chi ddychwelyd i’r gwaith ar ôl eich absenoldeb.
Bydd angen i chi gytuno â'ch cyflogwr pa waith sydd angen ei wneud ar ddyddiau cadw mewn cysylltiad a faint o dâl gewch chi.
Bydd cyfnod eich Tâl ac Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol yn dod i ben os byddwch yn gweithio mwy na deg diwrnod i'ch cyflogwr yn ystod eich Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol. Bydd hefyd yn dod i ben os byddwch yn gweithio i gyflogwr arall nad oedd yn eich cyflogi yn ystod un ai: