Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Caiff amodau eich cyflogaeth, er enghraifft eich cyfraniadau pensiwn a’ch hawl i wyliau, eu gwarchod tra'r ydych ar Absenoldeb Mamolaeth Statudol. Os byddwch yn colli eich swydd tra'r ydych ar Absenoldeb Mamolaeth Statudol bydd gennych hawliau ychwanegol hefyd. Yma cewch wybod mwy am eich hawliau cyflogaeth yn ystod Absenoldeb Mamolaeth Statudol.
Tra'r ydych ar Absenoldeb Mamolaeth Statudol caiff telerau ac amodau eich cyflogaeth eu gwarchod.
Byddwch yn cadw eich hawliau a buddiannau cyflogaeth arferol (ar wahân i'ch cyflog) drwy gydol eich Absenoldeb Mamolaeth Statudol.
Gallai hyn gynnwys unrhyw fynediad at fudd-daliadau sydd gennych fel rhan o'ch contract cyflogaeth, er enghraifft car cwmni neu ffôn symudol. Fodd bynnag, os darperir y budd at ddefnydd busnes, efallai y gall eich cyflogwr ei ohirio.
Os yw eich cyflogwr yn cyfrannu at gynllun pensiwn galwedigaethol, mae'n rhaid iddo barhau i wneud ei gyfraniadau arferol:
Os ydych chi fel arfer yn cyfrannu at eich pensiwn dylech barhau i wneud hynny, yn seiliedig ar swm y tâl mamolaeth yr ydych yn ei gael.
Rydych chi’n hel eich holl hawliau i gael gwyliau gyda thâl drwy gydol eich holl Absenoldeb Mamolaeth Statudol. Mae hyn yn wir hyd yn oed os yw eich contract cyflogaeth yn nodi bod gennych hawl i'r isafswm statudol.
Gallwch ychwanegu gwyliau at ddechrau neu at ddiwedd eich cyfnod o Absenoldeb Mamolaeth Statudol. Mae'n bosib na fyddwch chi'n cael trosglwyddo dim gwyliau y mae gennych hawl iddo ond sydd heb ei gymryd os bydd eich Absenoldeb Mamolaeth Statudol yn pontio dwy flwyddyn wyliau. Os yw hynny'n wir, mae'n aml yn well cymryd y gwyliau ar ddechrau'ch cyfnod o Absenoldeb Mamolaeth Statudol.
Mae'n annheg ac yn achos o gamwahaniaethu ar sail rhyw yn awtomatig os bydd eich cyflogwr yn dewis dileu eich swydd chi am reswm sy'n gysylltiedig â'r canlynol:
Gall eich cyflogwr ddileu eich swydd tra'r ydych ar absenoldeb mamolaeth os gall gyfiawnhau ei ddewis yn deg. Er enghraifft, os yw eich cyflogwr yn cau adran o'i fusnes y byddwch yn gweithio ynddi fel arfer ac yn dileu swydd pob cyflogai yn yr adran honno. Yna caiff eich cyflogwr ddileu eich swydd chi hefyd.
Fodd bynnag, os oedd angen i'ch cyflogwr gael gwared ar staff ar draws y cwmni, ni chaiff ddileu eich swydd chi gan eich bod ar absenoldeb mamolaeth neu ar fin mynd ar un.
Os caiff eich swydd ei dileu tra eich bod ar Absenoldeb Mamolaeth Statudol yna mae gennych hawliau arbennig. Mae gennych yr hawl i gael cynnig unrhyw swydd arall addas yn y cwmni. Mae hyn yn wir hyd yn oed os oes cyflogeion eraill a allai fod yn fwy addas ar gyfer y swydd. Os cewch gynnig swydd newydd, yna mae gennych hawl i gael y cyfnod prawf pedair wythnos o hyd, a ddylai gychwyn pan fyddwch yn dychwelyd ar ôl Absenoldeb Mamolaeth Statudol.
Os caiff eich swydd ei dileu neu os cewch eich diswyddo tra'r ydych ar Absenoldeb Mamolaeth Statudol, mae'n rhaid i'ch cyflogwr roi datganiad ysgrifenedig i chi yn egluro ei reswm dros y penderfyniad hwnnw. Dylech hefyd gael eich cyfnod rhybudd arferol neu dâl yn lle rhybudd a thaliad dileu swydd, os oes gennych hawl i'w cael.
Yn ystod eich absenoldeb, gall cadw mewn cysylltiad â'ch cyflogwr fod yn fanteisiol.
Mae gan eich cyflogwr hawl i gadw mewn cysylltiad rhesymol â chi yn ystod eich Absenoldeb Mamolaeth Statudol. Efallai mai'r rheswm am hyn yw er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw newidiadau arwyddocaol yn y gweithle tra'r ydych wedi bod i ffwrdd, gan gynnwys unrhyw gyfleoedd am ddyrchafiad neu swyddi gwag.
Gallwch weithio am hyd at ddeg diwrnod yn ystod eich Absenoldeb Mamolaeth Statudol heb golli eich Tâl Mamolaeth Statudol, eich Lwfans Mamolaeth, neu heb ddod â'ch absenoldeb i ben. Gelwir y rhain yn ddyddiau cadw mewn cysylltiad - ac ni ellir gweithio yn ystod y rhain onid ydych chi a'ch cyflogwr yn cytuno ar hynny. Ni chewch weithio yn ystod absenoldeb mamolaeth gorfodol sef y pythefnos yn syth ar ôl i chi eni eich plentyn.
Er y gallant fod yn ddefnyddiol tu hwnt ar gyfer pethau fel hyfforddiant neu ddigwyddiadau tîm, gellir defnyddio dyddiau cadw mewn cysylltiad ar gyfer unrhyw fath o waith. Dylent ei gwneud yn haws i chi ddychwelyd i'r gwaith ar ôl eich absenoldeb.
Bydd angen i chi gytuno â'ch cyflogwr pa waith y mae angen i chi ei wneud ar ddyddiau cadw mewn cysylltiad a faint o dâl gewch chi.
Os byddwch chi'n beichiogi eto yn ystod cyfnod o Absenoldeb Mamolaeth Statudol, bydd gennych yr hawl i gyfnod arall o Absenoldeb Mamolaeth Statudol ar gyfer eich plentyn nesaf.
Os byddwch chi’n wynebu problem, mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwyr yn gyntaf oll - mae’n bosib mai camddealltwriaeth syml ydyw. Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi gwyno drwy ddilyn trefn gwyno eich cyflogwr.