Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd eich cyflogwr yn edrych ar eich enillion gros a dalwyd i chi mewn cyfnod penodol. Bydd yn gweithio allan eich enillion wythnosol ar gyfartaledd dros y cyfnod penodol hwn i weld a ydych yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol a faint i'w dalu i chi.
Os byddwch yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol (SMP) fe'i telir am uchafswm o 39 o wythnosau. Fe'i telir:
Bydd eich cyflogwr yn gweithio allan cyfradd yr SMP y byddwch yn ei gael.
I fod yn gymwys i gael SMP rhaid i'ch enillion wythnosol fod yn £107 yr wythnos o leiaf ar gyfartaledd, gelwir hyn yn derfyn enillion is.
I gyfrifo eich enillion wythnosol ar gyfartaledd bydd eich cyflogwr yn cael cyfartaledd o'ch enillion gros dros gyfnod o wyth wythnos o leiaf hyd at y diwrnod talu olaf cyn diwedd eich wythnos gymhwyso, ac yn cynnwys y diwrnod hwnnw. Yr wythnos gymhwyso yw'r 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni. Gall y cyfnod hwn amrywio gan ddibynnu pa mor aml y cewch eich talu - yn wythnosol, yn fisol neu gyfnodau eraill.
At ddibenion gweithio allan SMP, mae 'tâl' yn golygu tâl gros sy'n ddyledus i chi cyn unrhyw ddidyniadau. Bydd eich cyflogwr yn ystyried y tâl gros a gawsoch yn ystod y cyfnod penodol, cyn belled â'i fod yn cyfrif ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) (neu y byddai'n cyfrif pe baech yn ennill digon neu'n ddigon hen i dalu cyfraniadau YG).
Os ydych yn cael tâl salwch, taliadau goramser, taliadau bonws, ôl-ddyledion tâl neu dâl gwyliau, caiff hyn i gyd ei gynnwys wrth weithio allan eich SMP, os byddwch yn eu cael yn ystod eich cyfnod penodol. Yr adeg y cewch yr arian sy'n cyfrif, nid pryd y gwnaethoch ei ennill.
Os byddwch yn cael codiad cyflog
Os bydd eich cyflogwr yn rhoi codiad cyflog i chi sy'n weithredol ar unrhyw adeg o ddechrau'r cyfnod penodol a ddefnyddir i weithio allan eich SMP a diwedd eich cyfnod mamolaeth, rhaid i'ch cyflogwr weithio allan eich SMP eto a thalu unrhyw falans sy'n ddyledus i chi.
Os oes gennych gytundeb aberthu cyflog
Os oes gennych gytundeb aberthu cyflog ar waith yn ystod y cyfnod a ddefnyddir i weithio allan eich SMP, bydd yr enillion wythnosol ar gyfartaledd a gyfrifir at ddibenion SMP yn seiliedig ar eich enillion cytundebol sy'n cyfrif ar gyfer cyfraniadau YG. Gallai hyn olygu nad yw eich enillion wythnosol ar gyfartaledd yn cyrraedd y terfyn enillion is ar gyfer taliad.
Os ydych yn fyfyriwr
Os ydych yn fyfyriwr sy'n cael bwrsari, ni chaiff eich bwrsari ei drin fel enillion at ddibenion SMP.
Bydd eich cyflogwr fel arfer yn talu eich SMP yn yr un ffordd ac ar yr un pryd â'ch cyflog arferol.
Caiff SMP ei drin fel enillion felly bydd eich cyflogwr yn didynnu treth incwm a chyfraniadau YG. Efallai y bydd eich cyflogwr hefyd yn gwneud didyniadau eraill a fyddai'n cael eu gwneud o'ch tâl fel tanysgrifiadau undeb llafur a chyfraniadau pensiwn.
Os ydych yn disgwyl mwy nag un babi, bydd yr SMP a gewch yn union yr un fath a phe baech yn disgwyl ag un babi yn unig.
Hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu dychwelyd i'r gwaith, gallwch gael SMP o hyd. Nid oes rhaid i chi ei ad-dalu os byddwch yn penderfynu peidio â dychwelyd i'r gwaith. Unwaith y byddwch yn gymwys i gael SMP rhaid i'ch cyflogwr ei dalu hyd yn oed os byddwch yn gadael cyflogaeth â hwy.
Nid yw hawl i SMP yn effeithio ar eich hawl i unrhyw daliadau mamolaeth eraill a ddarperir gan eich cyflogwr. Ond bydd SMP yn cyfrif tuag at unrhyw daliadau mamolaeth y bydd eich cyflogwr yn eu talu i chi.
Gellir cael rhagor o wybodaeth yn y daflen NI17A 'Canllaw i Fudd-daliadau Mamolaeth'.