Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Efallai y gallwch wneud cais am Dâl Mamolaeth Statudol gan eich cyflogwr cyn i'ch babi gael ei eni ac ar ôl hynny. Taliad wythnosol yw hwn, yn daladwy am gyfnod hyd at 39 wythnos.
Trwy gwblhau cyfres o gwestiynau, byddwch yn cael datganiad personol am eich hawliau yn y gwaith yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth. Efallai y bydd hyn yn gymorth i chi cyn gwneud cais i gael Tâl Mamolaeth Statudol. I gael datganiad, dylech ddefnyddio'r offeryn canlynol.
I fod yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol (SMP), rhaid i chi fodloni dwy reol sylfaenol:
I fodloni'r rheol o ran cyflogaeth barhaus rhaid i chi fod wedi:
Yr wythnos gymhwyso yw'r:
Rhaid i'r cyfnod hwn gynnwys:
Er bod cyflogaeth barhaus fel arfer yn golygu cyflogaeth gan yr un cyflogwr heb seibiant, mae rhai amgylchiadau lle gellir diystyru seibiannau mewn cyflogaeth. Gellir addasu'r rheol o ran cyflogaeth ychydig os caiff eich babi ei eni'n gynamserol.
Os cewch eich cyflogi gan asiantaeth
Os cewch eich cyflogi gan asiantaeth, ym mhob un o'r 26 o wythnosau i mewn i'r wythnos gymhwyso, byddwch yn bodloni'r rheol o ran cyflogaeth barhaus. Os gwnaethoch rywfaint o waith yn ystod unrhyw wythnos mae'n cyfrif fel wythnos lawn. Efallai y bydd rhai wythnosau lle na wnaethoch weithio i'r asiantaeth, ond nid yw hyn yn golygu na fyddwch yn bodloni'r rheol o ran cyflogaeth.
Os oes gennych fwy nag un cyflogwr
Os oes gennych fwy nag un swydd, efallai y gallwch gael Tâl Mamolaeth Statudol gan bob cyflogwr.
Os byddwch yn newid cyflogwr
Os byddwch yn newid swyddi yn ystod eich beichiogrwydd, mae'n annhebygol y byddwch yn bodloni'r rheol o ran cyflogaeth barhaus. Ond mae amgylchiadau lle gellir trin eich cyflogaeth yn barhaus, hyd yn oed os bydd eich cyflogwr yn newid.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y rheol o ran cyflogaeth barhaol a Lwfans Mamolaeth yn nhaflen NI17A 'Canllaw i Fudd-daliadau Mamolaeth'.
I fod yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, rhaid eich bod wedi bod yn ennill ar gyfartaledd:
Y Terfyn Enillion Is, yw’r swm sy'n rhaid i chi ei ennill cyn y cewch eich trin fel pe baech yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae hwn yn £107 yr wythnos os yw diwedd eich wythnos gymhwyso yn y flwyddyn dreth 2012-13.
Os byddwch yn bodloni'r ddwy reol o ran cyflogaeth barhaus ac enillion, rhaid i'ch cyflogwr dalu Tâl Mamolaeth Statudol i chi. Rhaid iddo dalu Tâl Mamolaeth Statudol i chi hyd yn oed os daw eich contract i ben ar unrhyw adeg ar ôl dechrau'r 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni.
Nid oes terfynau oedran i fod yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol. Er enghraifft, os ydych o dan 16 oed ac yn bodloni'r rheolau gallwch fod yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol gan eich cyflogwr.
Y dyddiad pwysig er mwyn gweithio allan os gallwch gael Tâl Mamolaeth Statudol a faint y gallwch ei gael yw:
Cyfeirir at yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni fel yr Wythnos y Disgwylir i’ch Babi gael ei eni.
Bob tro y byddwch yn feichiog rhaid i chi ddefnyddio'r dyddiad y disgwylir i'ch babi gael ei eni i weithio allan eich SMP ar gyfer y beichiogrwydd hwnnw.
Os na all eich cyflogwr dalu Tâl Mamolaeth Statudol i chi rhaid iddo:
Efallai y gallwch wneud cais am Lwfans Mamolaeth yn ei le. Os ydych am wneud cais am Lwfans Mamolaeth bydd angen i chi anfon y ffurflen SMP1W i'r Ganolfan Byd Gwaith ynghyd â'ch ffurflen gais am Lwfans Mamolaeth.
Gellir cael rhagor o wybodaeth yn y daflen NI17A 'Canllaw i Fudd-daliadau Mamolaeth'.