Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Peryglon iechyd a diogelwch arbennig

Yn ogystal â'r dyletswyddau cyffredinol sydd gan gyflogwyr a gweithwyr tuag atynt eu hunain a thuag at ei gilydd i sicrhau iechyd a diogelwch yn y gwaith, mae rheoliadau ar gael i ddelio gyda pheryglon penodol ac ar gyfer diwydiannau lle mae'r peryglon yn sylweddol.

Rhai rheoliadau iechyd a diogelwch arbennig

Mae Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn rhestru nifer o ddarnau pwysig o ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch yn ei lyfryn 'Rheoleiddio iechyd a diogelwch: canllaw byr'. Mae'r rhain yn delio gyda phethau megis:

  • y gofynion ar gyfer gweithio gydag unedau sgrîn arddangos (VDUs) gan ddefnyddio dillad gwarchod a pheiriannau yn y gwaith
  • symud pethau â llaw
  • y gofynion ar gyfer cymorth cyntaf a chofnodi anafiadau, afiechydon a digwyddiadau peryglus
  • sŵn yn y gwaith
  • trydan yn y gwaith
  • rheoli sylweddau peryglus

Hefyd, mae rheoliadau penodol yn delio gyda meysydd penodol, gan gynnwys plwm, asbestos, cemegau, gwaith adeiladu, a diogelwch nwy.

Ewch ar wefan HSE i weld ym mha ffyrdd y gallant eich helpu gyda phroblemau penodol megis y rhai a restrir uchod, gan gynnwys llinell gymorth, eu gwasanaeth 'Gofynnwch i arbenigwr', a thrwy archebu taflenni rhad ac am ddim.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU