Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pwy sy’n dal penodiadau cyhoeddus – astudiaethau achos

Mae penodiadau cyhoeddus ar agor i bawb, beth bynnag yw eu cefndir. Darllenwch yr astudiaethau achos isod i gael enghreifftiau o’r bobl sy’n dal penodiadau cyhoeddus.

Bonnie Greer, Ymddiriedolwr yr Amgueddfa Brydeinig

"Does dim angen gradd o Rydychen neu Gaergrawnt arnoch chi. Byddwch chi'n dysgu wrth i chi wasanaethu eich cymuned. Bobl ifanc, fenywod: ymunwch â'r byrddau hyn a chymryd rhan"

Bonnie Greer yw Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig. Mae'r penodiad cyhoeddus hwn yn golygu ei bod hi'n goruchwylio gwaith rheoli un o'r amgueddfeydd mwyaf mawreddog yn y byd. Rhan o'r rôl y mae hi wedi dewis ei hysgwyddo yw cwrdd â chymunedau i weld beth mae arnyn nhw ei eisiau gan yr amgueddfa. Wedyn, bydd hi'n gweithio gyda'r bwrdd i roi'r awgrymiadau ar waith. Mae Bonnie ar dân dros annog pobl ifanc o leiafrifoedd ethnig i gymryd rhan fwy gweithgar mewn rhedeg gwasanaethau cyhoeddus, gan egluro bod amrywiaeth yn arwain at benderfyniadau gwell.

"Does dim angen gradd o Rydychen neu Gaergrawnt arnoch chi. Byddwch chi'n dysgu wrth i chi wasanaethu eich cymuned. Bobl ifanc, fenywod: ymunwch â'r byrddau hyn a chymryd rhan. Mae'n gallu agor drysau ac arwain at gyfleoedd gyrfa diddorol iawn. Rwy'n gobeithio y bydd lleiafrifoedd ethnig, menywod a phobl anabl yn teimlo – fel dinasyddion – fod lle iddyn nhw ar fyrddau cyrff cyhoeddus. Rydyn ni'n chwilio am ragor o bobl sy'n adlewyrchu Prydain fodern."

Yr Athro Averil Macdonald, Ymddiriedolwr Amgueddfeydd Gwyddoniaeth a Diwydiant Cenedlaethol

"Mae'n hollbwysig bod aelodau'r bwrdd yn dod o gefndiroedd gwahanol os yw'r math hwn o sefydliad am wasanaethu'r gymuned drwyddi draw"

Mae Averil Macdonald yn athro ym Mhrifysgol Reading. A hithau'n fam sy'n gweithio ac yn disgrifio ei hun fel rebel, nid oedd hi erioed wedi ystyried penodiad cyhoeddus. Pan gymerodd hi seibiant gyrfa gyda'r bwriad o newid cyfeiriad, dechreuodd hi feddwl am helpu i hyrwyddo ffiseg. Roedd Averil yn arbennig o awyddus i annog mwy o fenywod i gymryd rhan mewn gwyddoniaeth.

A hithau'n un o ymddiriedolwyr yr Amgueddfeydd Gwyddoniaeth a Diwydiant Cenedlaethol, mae Averil yn helpu i redeg Amgueddfa Wyddoniaeth Llundain yn ogystal â'r Amgueddfa Gyfryngau Genedlaethol yn Bradford. Mae'r Amgueddfeydd Gwyddoniaeth a Diwydiant Cenedlaethol yn un o'r grwpiau pwysicaf o amgueddfeydd yn y byd, lle mae cyfrifoldebau'r ymddiriedolwyr yn cynnwys codi arian, denu cyhoeddusrwydd a goruchwylio'r uwch reolwyr.

"Fy neges i ar gyfer unrhyw un sydd efallai'n ystyried gwneud cais am benodiad cyhoeddus yw 'cer amdani'. Mae'n hollbwysig bod aelodau'r bwrdd yn dod o gefndiroedd gwahanol os yw'r math hwn o sefydliad am wasanaethu'r gymuned drwyddi draw. Os yw bwrdd yn cynrychioli un math o berson yn unig, mae popeth yn rhy amlwg ac yn ddisymud. Felly, rydw i’n ymwybodol iawn o’r angen i gyrff cyhoeddus gynrychioli'r boblogaeth gyfan."

Yr Athro Peter Cooke - Is-gadeirydd y Gronfa Byw'n Annibynnol

"Rwy’n dymuno rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned ac rwy'n annog grwpiau lleiafrifol i ddefnyddio eu talentau i’r eithaf."

Mae Peter Cooke yn athro yn Ysgol Fusnes Prifysgol Buckingham. Mae'n sylwebydd adnabyddus ar y diwydiannau moduro ac ar faterion yn ymwneud ag anabledd. Peter hefyd yw Is-gadeirydd y Gronfa Byw'n Annibynnol.

"A minnau’n defnyddio cadair olwyn ers 15 mlynedd, weithiau mi fydda i’n gallu cynnig safbwynt gwahanol pan fyddwn yn trafod cefnogi pobl anabl.

"Mae fy swyddogaethau anweithredol yn y sector cyhoeddus wedi rhoi llawer iawn o foddhad i mi; rwy'n delio gyda materion – a phobl – na fyddwn wedi dod ar eu traws fel arall mae’n debyg, ac rwy’n gwybod fy mod yn elwa o’r profiad."

"Rwy’n dymuno rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned ac rwy'n annog grwpiau lleiafrifol i ddefnyddio eu talentau i’r eithaf."

Mike Franklin, Comisiynydd Annibynnol Cwynion yn erbyn yr Heddlu

"Mae cyrff cyhoeddus, fel y Comisiwn, yn fwyaf effeithiol pan maen nhw'n cael eu rheoli gan bobl o bob cefndir"

Mae Mike wedi gweithio yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol ers iddo adael yr ysgol, ac mae ganddo ddiddordeb brwd mewn materion yn ymwneud â chysylltiadau hiliol, cymunedol a phlismona. Mae ei benodiad cyhoeddus gyda'r Comisiwn Annibynnol Cwynion yn erbyn yr Heddlu, sef y corff cyhoeddus sy'n gwneud yn siŵr bod cwynion yn erbyn yr heddlu yn cael eu trin yn deg ac yn effeithiol. Ac yntau'n gomisiynydd, mae Mike wedi defnyddio ei brofiad ei hun fel rhan o'r gymuned Pobl Ddu i helpu'r Comisiwn i wella ei waith. Yn Ne Llundain, er enghraifft, mae Mike wedi cyfrannu at newid y ffordd mae'r sefydliad yn trin materion megis "stopio a chwilio" gan yr heddlu a'r ddalfa yng nghyswllt pobl ifanc. Yn ogystal â'i rôl yn y Comisiwn, mae Mike wedi cymryd rhan allweddol mewn trefnu amnest gynnau yn Lambeth, sef y cyntaf erioed yn hanes y DU, ac mae hefyd yn aelod o fwrdd un o Ymddiriedolaethau'r GIG yn Llundain.

"Mae cyrff cyhoeddus, fel y Comisiwn, yn fwyaf effeithiol pan maen nhw'n cael eu rheoli gan bobl o bob cefndir. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gweld bod y mathau hyn o gyfleoedd yn gwobrwyo pobl gyffredin sydd â sgiliau bywyd go iawn ac sy'n awyddus i fod yn rhan o benderfyniadau sy'n siapio'r gymuned. Rwy'n ceisio ysbrydoli pobl eraill, a dydw i erioed wedi derbyn bod cynnydd yn amhosibl."

Julie Summerell, Aelod Anweithredol o Fwrdd yr Awdurdod Trwyddedu Pêl-droed

"Gallwn ni ddysgu oddi wrth ddiwydiannau a diwylliannau eraill sut mae gwneud pethau'n well"

Mae Julie Summerell yn gweithio amser llawn fel ymgynghorydd asesu risg a rheoli, gan wneud defnydd da o'r sgiliau mae hi'n eu hennill yn ei gwaith bob dydd yn ei phenodiad cyhoeddus. Mae'r Awdurdod Trwyddedu Pêl-droed yn sicrhau bod pobl yn gallu mynd i weld gemau pêl-droed yn ddiogel ac yn gyfforddus waeth beth fo'u hoedran, eu hanableddau neu'u hamgylchiadau personol. Drwy weithio i gwmnïau olew yn y sector preifat yr enillodd Julie ei harbenigedd yn wreiddiol, ac mae hi'n ei ddefnyddio erbyn hyn i wella gwasanaethau cyhoeddus.

"Mae angen i fyrddau gynrychioli'r bobl maen nhw'n eu gwasanaethu. Peidiwch ag anghofio'r sgiliau bywyd sydd gennych chi. Gallwn ni ddysgu oddi wrth ddiwydiannau a diwylliannau eraill sut mae gwneud pethau'n well. Mae fy mhenodiad cyhoeddus wedi dysgu sgiliau rheoli newydd i mi ac wedi gwella fy sgiliau rhwydweithio. Mae'r gwaith wedi bod yn amrywiol iawn – o fynd i gemau pêl-droed a chyfarfodydd grŵp ymgynghorol ar ddiogelwch gyda'r arolygwyr, i edrych ar y ffordd y caiff tystysgrifau diogelwch eu dosbarthu – ac, er nad yw pobl efallai'n ymwybodol bod gwaith o'r fath yn cael ei wneud, mae'r canlyniadau yn anferth i'r cyhoedd."

Marilyn Mornington, Aelod o'r Cyngor Cyfiawnder Teulu

"Mae trosglwyddo sgiliau o'ch gyrfa i benodiad cyhoeddus yn brofiad gwerthfawr ac yn gyfle gwirioneddol i wneud eich cymuned yn lle gwell i fyw."

Mae penodiad cyhoeddus Marilyn Mornington gyda'r Cyngor Cyfiawnder Teulu yn dwyn arbenigwyr ynghyd o feysydd y gyfraith, iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn helpu i wella'r system cyfiawnder i deuluoedd ac i blant. Gan ddefnyddio ei phrofiad fel barnwr yn Llys Sirol Wigan, mae Marilyn wedi rhoi cyngor i'r heddlu ac i sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus ynglŷn â chyfraith teulu. A hithau'n aelod o'r bwrdd, mae ei gwaith hefyd yn cynnwys ymgyrchu yn erbyn trais tuag at fenywod a phlant, yn enwedig yn y gymuned Asiaidd. Drwy ei gwaith, mae Marilyn wedi cael ei disgrifio'n un o unigolion mwyaf dylanwadol y Deyrnas Unedig.

"I mi, mae ymuno â bwrdd corff cyhoeddus megis y Cyngor Cyfiawnder Teulu yn gallu rhoi boddhad, p'un ai ydych chi am ehangu eich sgiliau neu chwilio am gyfle i ddatblygu eich gyrfa. Mae cyrff cyhoeddus yn helpu i siapio bywydau pobl mewn cymunedau yn Lloegr a ledled y DU. Mae trosglwyddo sgiliau o'ch gyrfa i benodiad cyhoeddus yn brofiad gwerthfawr ac yn gyfle gwirioneddol i wneud eich cymuned yn lle gwell i fyw."

Mee Ling, Cadeirydd Anweithredol Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol GIG Southwark

"Rwyf fi hefyd yn gobeithio gweld mwy o fenywod, yn enwedig y rheini o gymunedau lleiafrifoedd ethnig fel fi, yn cymryd rhan mewn Penodiadau Cyhoeddus."

Ganed Mee Ling ym Malaysia a daeth i'r DU pan oedd yn 16 oed. Ar hyn o bryd, mae Mee Ling yn goruchwylio gwasanaethau'r GIG yn Southwark, De Llundain, a hi sy'n gyfrifol am sicrhau bod pobl y fwrdeistref yn gallu cael gafael ar ofal iechyd o safon a'u bod yn mwynhau iechyd a lles da. Ar wahân i'w phenodiad cyhoeddus, mae Mee Ling yn rhedeg cwmni ymchwil bach ac mae hi'n ymwneud yn helaeth mewn bywyd cyhoeddus, gan iddi fod yn ddirprwy arweinydd Cyngor Lewisham ers pedair blynedd.

Efallai fod ei rôl fel Cadeirydd Bwrdd GIG Southwark yn ymddangos yn heriol ac yn feichus. Fodd bynnag, rôl ran-amser yw hon, sy'n galluogi Mee Ling i ddal i redeg ei chwmni ymchwil ei hun a chyfrannu at ei gwaith elusennol arall. Mae Mee Ling wedi defnyddio ei phrofiad fel cyn-gynghorydd ac, yn fwy diweddar, fel Cadeirydd GIG, i fod yn hyrwyddwr brwd dros gyfranogi mewn bywyd cyhoeddus.

"Mae penodiadau cyhoeddus yn brofiadau cyfoethog - ac yn rhoi cyfle i bobl roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned. Mae gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd da wir yn bwysig; drwy fy mhenodiadau cyhoeddus, mae gen i'r gallu i'w gwneud nhw hyd yn oed yn well. Rwyf fi hefyd yn gobeithio gweld mwy o fenywod, yn enwedig y rheini o gymunedau lleiafrifoedd ethnig fel fi, yn cymryd rhan"

Asif Iqbal, Aelod o'r Pwyllgor Ymgynghorol ar Gyflogaeth i Bobl Anabl a'r Pwyllgor Ymgynghorol ar Gludiant i Bobl Anabl

"Rwy’n gobeithio symbylu pobl o bob rhan o’r gymuned ac o bob cefndir – os alla i wneud hyn, mi allan nhw hefyd!"

Mae gan Asif brofiad helaeth o faterion sy’n berthnasol i grwpiau pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig, pobl fyddar a phobl anabl. Ar hyn o bryd, ef yw Rheolwr Prosiect/y Cyfryngau Deaf Parenting UK.

Fel aelod o’r Pwyllgor Ymgynghorol ar Gyflogaeth i Bobl Anabl a’r Pwyllgor Ymgynghorol ar Gludiant i Bobl Anabl, mae Asif yn cynrychioli anghenion pobl fyddar a phobl anabl, gan gynnwys pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, ar lefelau uwch yn y llywodraeth.

"Rwy’n gobeithio symbylu pobl o bob rhan o’r gymuned ac o bob cefndir – os alla i wneud hyn, mi allan nhw hefyd!"

Nitin Dahad, Asiantaeth Datblygu Dwyrain Lloegr

"Mae bod â chyfrifoldeb penodiad cyhoeddus yn golygu bod modd i chi ddylanwadu ar newid, boed hynny ar lefel leol neu genedlaethol"

Dechreuodd Nitin Dahad ei fywyd gwaith fel newyddiadurwr technoleg a bu ganddo nifer o wahanol swyddi corfforaethol yn y sector technoleg byd-eang. Ar ôl hynny, helpodd i sefydlu busnes technoleg bach a'i ddatblygu'n fusnes llwyddiannus iawn erbyn iddo adael, ac mae wedi defnyddio'i sgiliau entrepreneuraidd i helpu nifer o fusnesau newydd.Mae'r profiadau hyn wedi bod yn werthfawr iawn i Nitin yn ei benodiad cyhoeddus fel aelod anweithredol o fwrdd Asiantaeth Datblygu Dwyrain Lloegr, lle mae'n helpu i ddwyn grwpiau cymunedol a busnesau ynghyd i dyfu'r economi ranbarthol.

"Ymunais â'r sector cyhoeddus drwy fy awydd i alluogi cyfleoedd i gefnogi a rhwydweithio. Mae bod â chyfrifoldeb penodiad cyhoeddus yn golygu bod modd i chi ddylanwadu ar newid, boed hynny ar lefel leol neu genedlaethol. Swyddi rhan-amser yw penodiadau cyhoeddus fel arfer; mae gen i ail swydd hefyd ar fwrdd llywodraethu prifysgol, ac mae hynny wedi fy helpu i godi fy mhroffil yn y rhanbarth. Gobeithio y gallaf fi ysbrydoli pobl eraill i gymryd rhan a defnyddio eu sgiliau i wella gwasanaethau cyhoeddus."

Evelyn Asante-Mensah, Cadeirydd GIG Manceinion

"Mae penodiadau cyhoeddus yn gallu bod yn swyddi rhan-amser; rydw i'n cydbwyso rhwng fy ymrwymiadau proffesiynol a bod yn fam i bedwar o blant"

Evelyn Asante-Mensah yw Cadeirydd GIG Manceinion, sef y corff cyhoeddus sy'n darparu gwasanaethau gofal iechyd ledled un o ddinasoedd mwyaf y Deyrnas Unedig. O feddygon a deintyddion i wasanaethau cymunedol a gwirfoddol, ei rôl yw sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu gofal iechyd o safon uchel sydd ar gael yn hwylus i bob aelod o'r gymdeithas. Cafodd Evelyn OBE am ei gwaith i wella gwasanaethau iechyd – mae hi wedi bod yn bennaeth ar yr Asiantaeth Iechyd Pobl Ddu a hefyd wedi bod yn hyrwyddo cyfle cyfartal.

"Mae penodiadau cyhoeddus yn gallu bod yn swyddi rhan-amser; rydw i'n cydbwyso rhwng fy ymrwymiadau proffesiynol a bod yn fam i bedwar o blant. Fy nghyngor i ar gyfer ymgeiswyr posibl yw y dylent fod yn agored, yn wrthrychol ac yn frwdfrydig ond bod swyddi ar fyrddau yn dibynnu cymaint ar brofiad bywyd ag y maen nhw ar gymwysterau."

Emily Lam, aelod annibynnol o Awdurdod Heddlu Swydd Gaer

"Rydw i wedi dysgu llawer iawn gan y bobl rydw i wedi cwrdd â nhw, a byddwn i wir wrth fy modd i bobl eraill gael yr un profiadau"

Mae Emily Lam, sydd wedi dilyn gyrfa fel nyrs ac sy'n ymgynghorydd addysg hunangyflogedig, yn dal nifer o benodiadau cyhoeddus. Mae hi'n aelod annibynnol o Awdurdod Heddlu Swydd Gaer, yn aelod o fwrdd Ymddiriedolaeth Prawf Manceinion Fwyaf ac yn gyfarwyddwr anweithredol yn Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Canol a Dwyrain Swydd Gaer.

Mae Emily yn awyddus i wneud gwahaniaeth mewn cymdeithas, ac mae'n gweld ei swyddi ar fyrddau cyhoeddus fel cyfleoedd delfrydol i wneud hynny. Mae ei gwaith gydag Awdurdod Heddlu Swydd Gaer, er enghraifft, yn galluogi'r heddlu i gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ynglŷn â gwahanol anghenion diogelwch y gymuned leol.

"Rwy'n cael boddhad enfawr o wneud cyfraniad at gymdeithas gyda fy ngwaith ar fyrddau cyhoeddus. Rydw i wedi dysgu llawer iawn gan y bobl rydw i wedi cwrdd â nhw, a byddwn i wir wrth fy modd i bobl eraill gael yr un profiadau. Hefyd, mae Prydain heddiw yn hynod o amrywiol ac yn cynnwys amrywiaeth o safbwyntiau. Mae'n bwysig iawn bod llywodraethu, perfformiad, cyllidebau, ansawdd ac yn y blaen yn cael eu harchwilio gan unigolion sy'n adlewyrchu'r gymuned yn gyffredinol.

Lorna Walker

"Os yw’r profiad gennych chi, defnyddiwch ef. Mae’n ysgol brofiad, yn her a hanner ac yn ffordd berffaith o ddiweddaru eich sgiliau a dylanwadu ar y llywodraeth."

Lorna yw Rheolwr Gyfarwyddwr Lorna Walker Consulting Ltd, sy’n arbenigo mewn datblygu cynaliadwy, adfywio trefol a pholisi. A hithau'n defnyddio cadair olwyn, mae gan Lorna gryn ddiddordeb mewn effeithiau datblygu trefol ar bobl.

Mae ei phenodiad cyhoeddus yn Gomisiynydd CABE (y Comisiwn Pensaernïaeth a’r Amgylchedd Adeiledig) yn strategol, ac mae ganddi fewnbwn penodol fel Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Cynaliadwy. Mae hi hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Gweithrediadau ac yn Hyrwyddwr iechyd.

"Os yw’r profiad gennych chi, defnyddiwch ef. Mae’n ysgol brofiad, yn her a hanner ac yn ffordd berffaith o ddiweddaru eich sgiliau a dylanwadu ar y llywodraeth."

Sheena Asthana, Comisiynydd dros Gymunedau Gwledig

"Mae fy mhrofiad ar lefel bwrdd wedi bod yn ysgol brofiad go iawn ond mae hefyd wedi rhoi mwy o hyder i mi yn fy ngallu i wneud cyfraniad gwerthfawr."

Mae Sheena yn Athro Polisi Iechyd ym Mhrifysgol Plymouth. Fel aelod o fwrdd y Comisiwn dros Gymunedau Gwledig, mae Sheena yn cyfrannu’n llawn ac yn frwd at sicrhau bod llais pobl, busnesau a chymunedau gwledig yn cael ei glywed gan y rheini sy’n gwneud penderfyniadau yn y llywodraeth.

"Mae fy mhrofiad ar lefel bwrdd wedi bod yn ysgol brofiad go iawn ond mae hefyd wedi rhoi mwy o hyder i mi yn fy ngallu i wneud cyfraniad gwerthfawr."

Anil Ruia, Ymddiriedolwr Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl

"Mae’n bwysig peidio â bod ofn. Os nad ydw i’n deall, rwy’n gofyn. Mae hynny’n rhywbeth rwy’n hoff o'i annog. Rydym yn creu proses gwneud penderfyniadau y mae pawb yn cyfrannu ati."

Anil yw Cyfarwyddwr Wrengate Limited – busnes preifat sy'n ymwneud â mewnforio, dosbarthu a gweithgynhyrchu tecstilau. Fel un o ymddiriedolwyr Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl, mae Anil yn rhoi cyngor strategol i helpu i gynllunio a chyfarwyddo gweithgareddau'r amgueddfeydd. Bydd yr ymddiriedolwyr yn ymrwymo i gwrdd bum gwaith y flwyddyn a rhaid cael sawl sesiwn at ddibenion cynllunio ariannol. Mae Anil yn mwynhau’r trafodaethau agored ymhlith aelodau’r bwrdd.

"Mae’n bwysig peidio â bod ofn. Os nad ydw i’n deall, rwy’n gofyn. Mae hynny’n rhywbeth rwy’n hoff o'i annog. Rydym yn creu proses gwneud penderfyniadau y mae pawb yn cyfrannu ati."

Amerdeep Somal, Comisiynydd Annibynnol Cwynion yn erbyn yr Heddlu

"Rwy’n hoffi cyflawni swyddogaethau cyhoeddus sy’n cyfrannu at greu cymdeithas decach a mwy amrywiol – delfryd sy’n agos at fy nghalon."

Cyfreithiwr yw Amerdeep, ac mae wedi gweithio i Wasanaeth Erlyn y Goron. Fel aelod o Gomisiwn Annibynnol Cwynion yn erbyn yr Heddlu, mae Amerdeep yn goruchwylio ymchwiliadau i'r cwynion mwyaf difrifol yn erbyn yr heddlu. Mae ei chefndir fel cyfreithiwr troseddol yn helpu i wneud yn siŵr bod y Comisiwn yn bod yn deg â’r achwynwyr a’r heddlu fel ei gilydd.

"Rwy’n hoffi cyflawni swyddogaethau cyhoeddus sy’n cyfrannu at greu cymdeithas decach a mwy amrywiol – delfryd sy’n agos at fy nghalon."

Yinnon Ezra MBE, Ymddiriedolwr y Gronfa Goffa Treftadaeth Genedlaethol ac aelod o'r Cyngor Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau

"Nid oedd y cyswllt cyntaf a gefais gyda’r broses penodiadau cyhoeddus yn un da...ond roeddwn i’n teimlo bod gen i rywbeth i’w gynnig, felly daliais ati."

Fel un o Brif Swyddogion Awdurdod Lleol, mae gan Yinnon brofiad helaeth o sbarduno a chyflawni newidiadau arloesol, drwy ‘drawsnewid’ a chydweithio.

Mae Yinnon yn aelod o’r Cyngor Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau. Mae hefyd yn un o ymddiriedolwyr y Gronfa Goffa Treftadaeth Genedlaethol. Oherwydd ei gefndir ym myd llywodraeth leol, mae Yinnon yn gallu meithrin cysylltiadau cryf rhwng y cyrff hyn a chymunedau lleol.

"Nid oedd y cyswllt cyntaf a gefais gyda’r broses penodiadau cyhoeddus yn un da...ond roeddwn i’n teimlo bod gen i rywbeth i’w gynnig, felly daliais ati."

Allweddumynediad llywodraeth y DU