Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cyfraith y DU, archifau a gwybodaeth am y llywodraeth

Gallwch gael gafael ar wybodaeth am gyfraith y DU, ac am gyhoeddiadau, archifau a dogfennau'r llywodraeth.

Y gyfraith, cyhoeddiadau ac adroddiadau

Cyfraith y DU

Mae Cronfa Ddata Cyfraith Statud y DU yn gronfa ddata o gyfraith statudol y Deyrnas Unedig ar y we. Fe'i darperir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae'n cynnwys copïau o'r holl ddeddfwriaeth statudol bresennol ('cyfredol'). Dangosir y Deddfau hynny sydd wedi eu diddymu'n rhannol yn eu ffurf gweithredol cyfredol - gall hyn fod cyn lleied ag un neu ddwy adran. Ni ddangosir adrannau a ddiddymwyd, na Deddfau a ddiddymwyd yn llwyr, ar y wefan.

Trafodion y Senedd

Yr Adroddiad Swyddogol (Hansard) yw'r cofnod gair am air a olygwyd o drafodion y ddau Dŷ Senedd. Mae Hansard Tŷ'r Cyffredin yn cynnwys trafodion Siambr Tŷ'r Cyffredin, Neuadd San Steffan a'r Pwyllgorau Sefydlog. Mae Hansard Tŷ'r Arglwyddi yn cynnwys trafodion Siambr yr Arglwyddi a'r Uwch Bwyllgorau.

Caiff geiriau'r aelodau eu cofnodi gan hepgor unrhyw ail-adrodd, geiriau diangen a chamgymeriadau amlwg, ond ni chaiff dim sy'n cyfrannu at ystyr yr araith neu sy'n rhan o'r ddadl ei hepgor. Yn ogystal â hynny, mae'r Adroddiadau Swyddogol yn cynnwys y Datganiadau Ysgrifenedig perthnasol ac Atebion Ysgrifenedig perthnasol y Gweinidogion.

Ar gyfer cofnodion Seneddol hŷn, ceir ystafell chwilio er mwyn i'r cyhoedd gael gweld cofnodion o Dŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin sy'n dyddio'n ôl i 1497.

Mesurau gerbron y Senedd

Gallwch weld manylion am Fesurau sydd gerbron y Senedd yn ogystal â Gwelliannau iddynt a Nodiadau Esboniadol ynglŷn â chynnwys y Mesur drwy ddilyn y ddolen isod.

Cyhoeddiadau swyddogol

Cyhoeddiadau Swyddogol y DU (UKOP) yw catalog swyddogol cyhoeddiadau swyddogol y llywodraeth. Mae'n gyfuniad o gatalog swyddogol y Llyfrfa a'r Catalog Cyhoeddiadau Swyddogol nas Cyhoeddwyd gan y Llyfrfa. Caiff UKOP ei gyhoeddi gan TSO (y Llyfrfa). Y catalogau hyn yw'r ffynonellau gwybodaeth mwyaf cynhwysfawr a diweddar am gyhoeddiadau'r llywodraeth yn y DU. Mae UKOP hefyd yn cynnwys miloedd o ddogfennau sydd wedi'u harchifo mewn testun llawn.

Rhaid i chi danysgrifio i weld y catalog.

Papurau Gorchymyn (Papurau Gwyn a Gwyrdd)

Caiff Papurau Gorchymyn yn aml eu disgrifio fel Papurau Gwyn neu Bapurau Gwyrdd, ond nid oes unrhyw ddiffiniad ffurfiol i'r enwau hyn. Dros y blynyddoedd, derbyniwyd mai datganiadau o bolisi'r Llywodraeth yw'r Papurau Gwyn tra mai cynigion yw'r Papurau Gwyrdd sy'n cael eu cyhoeddi i gyd-fynd â thrafodaethau cyhoeddus. Gelwir y papurau'n Bapurau Gorchymyn gan eu bod yn cael eu cyflwyno gerbron y Senedd gan un o Weinidogion y Llywodraeth 'ar Orchymyn Ei Mawrhydi'.

Mae'r gyfres hon o ddogfennau hefyd yn cynnwys y Cytundebau niferus y mae'r DU wedi ymrwymo iddynt, Ymatebion ffurfiol y Llywodraeth i Adroddiadau Pwyllgorau Dethol a llawer o Adroddiadau o Bwyllgorau Ymchwilio ac Adolygiadau Adrannol.

Ffynonellau archifau cenedlaethol ac archifau'r llywodraeth

Yr Archifau Cenedlaethol

Yr Archifau Cenedlaethol sy'n gyfrifol am ofalu am gofnodion y llywodraeth ganolog a'r llysoedd barn, ac am sicrhau bod pawb yn gallu cael golwg arnynt. Mae'r casgliad hwn yn un o'r rhai mwyaf yn y byd ac mae'n ymestyn dros gyfnod di-dor o'r unfed ganrif ar ddeg hyd heddiw. Mae'n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Deyrnas Unedig. Mae amryw o gasgliadau ar gael ar-lein gan gynnwys cofnodion milwrol, dogfennau hanesyddol, ewyllysiau a chofnodion y cyfrifiad. Mae'r wefan hefyd yn darparu gwybodaeth am sut mae chwilio drwy'r archifau ac arddangosfeydd ar-lein.

Gwefannau llywodraeth y DU

Mae nifer o wefannau'r llywodraeth wedi'u harchifo ac maent ar gael ar-lein.

Ystadegau swyddogol

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol Ar-lein yn darparu'r ystadegau swyddogol am economi, poblogaeth a chymdeithasau Prydain ar lefel genedlaethol a lleol. Cyhoeddir crynodebau a data manwl yn rhad ac am ddim.

Mae'r adran hefyd yn gyfrifol am y Cyfrifiad sydd wedi cael ei gynnal bob 10 mlynedd ers 1801. Cynhaliwyd y Cyfrifiad diwethaf ddydd Sul 29 Ebrill 2001, ac mae'r canlyniadau a'r dadansoddiadau llawn ar gael i'r cyhoedd eu gweld.

Mae gwefan Ystadegau Cymdogaeth yn galluogi defnyddwyr i weld, cymharu a llwytho ystadegau ar gyfer ardaloedd lleol am amrywiaeth o bynciau gan gynnwys poblogaeth, troseddu, iechyd a thai.

Additional links

Enwebu rhywun am anrhydedd

Caiff dros 2,500 o Brydeinwyr eu hanrhydeddu bob blwyddyn gydag urddau fel OBE ac MBE - gall unrhyw un enwebu

Allweddumynediad llywodraeth y DU