Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y Gwasanaeth Sifil

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn cyflawni gwaith ymarferol a gweinyddol y llywodraeth. Gweithwyr diduedd yn wleidyddol yw gweision sifil sy’n cyflawni polisïau'r adran o'r llywodraeth y maent yn gweithio iddi o dan reolaeth gweinidogion etholedig. Yma cewch wybod mwy am y Gwasanaeth Sifil a sut i wneud cais i ddod yn was sifil.

Rôl a'r broses o reoli gweision sifil

Gweision y Goron yw gweision sifil – i bob pwrpas, maent yn gweithio i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae pwerau gweithredol y Goron yn cael eu hymarfer gan weinidogion y llywodraeth, sydd yn atebol i'r Senedd neu'r Cynulliad priodol. Mae Gwasanaeth Sifil Ngogledd Iwerddon ar wahân.

Dyletswydd gweision sifil

Nid oes gan y Gwasanaeth Sifil fel y cyfryw unrhyw bersonoliaeth neu gyfrifoldeb cyfansoddiadol ar wahân. Mae dyletswydd y gwas sifil unigol yn bennaf oll i’r gweinidog sy’n gyfrifol am yr adran y mae’n gweithio ynddi. Nid yw newid gweinidog, am ba reswm bynnag, yn golygu newid staff.

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil, yn ddatganiad cryno o rôl a chyfrifoldebau gweision sifil. Fe’i cyflwynwyd yn 1996 ac fe'i diwygiwyd yn 1999 i adlewyrchu'r broses ddatganoli. Mae'r Cod yn cynnwys llwybr apelio annibynnol i Gomisiynwyr y Gwasanaeth Sifil mewn perthynas â honiadau o dorri'r Cod.

Fel y Gweinidog dros y Gwasanaeth Sifil, y Prif Weinidog sy'n gyfrifol am gydlynu a rheoli'r Gwasanaeth Sifil yn ganolog. Caiff gymorth Pennaeth y Gwasanaeth Sifil Cartref, sy’n cadeirio Bwrdd Rheoli’r Gwasanaeth Sifil.

Bydd Swyddfa’r Cabinet yn goruchwylio’r fframwaith canolog ar gyfer rheoli’r Gwasanaeth Sifil. Mae cyfrifoldeb beunyddiol dros amrediad eang o delerau ac amodau wedi’i ddirprwyo i adrannau ac asiantaethau, ac i Weithrediaeth yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Lle mae gweision sifil yn gweithio

Mae oddeutu hanner yr holl weision sifil yn darparu gwasanaethau’n uniongyrchol i’r cyhoedd. Mae’r rhain yn cynnwys talu budd-daliadau a phensiynau, rhedeg gwasanaethau cyflogaeth, staffio carchardai, rhoi trwyddedau gyrru a darparu gwasanaethau i ddiwydiant ac amaethyddiaeth.

Cyflogir oddeutu un o bob pump yn y Weinyddiaeth Amddiffyn a'i hasiantaethau. Rhennir y gweddill rhwng dyletswyddau polisi a gweinyddol canolog, gwasanaethau cefnogi, a gwasanaethau sy'n cynnal eu hunain yn ariannol gan fwyaf, megis y rhai a ddarperir gan y Bathdy Brenhinol.

Mae tua 80 y cant o weision sifil yn gweithio y tu allan i Lundain.

Recriwtio

Comisiynwyr y Gwasanaeth Sifil sy'n gyfrifol am sicrhau bod y broses recriwtio i'r Gwasanaeth Sifil yn cael ei wneud ar sail teilyngdod ac yn seiliedig ar gystadleuaeth deg ac agored.

Mae'r Comisiynwyr, sy'n annibynnol ar y llywodraeth, yn llunio cod recriwtio gorfodol ac yn archwilio polisïau ac arferion recriwtio adrannau ac asiantaethau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.

Maent hefyd yn cymeradwyo penodiadau a wneir drwy'r broses recriwtio allanol i'r Uwch Wasanaeth Sifil ac yn gwrando ar apeliadau ac yn gwneud penderfyniadau ar apeliadau mewn achosion lle mae pryder am briodoldeb a chydwybod dan y Cod Gwasanaeth Sifil.

Additional links

Enwebu rhywun am anrhydedd

Caiff dros 2,500 o Brydeinwyr eu hanrhydeddu bob blwyddyn gydag urddau fel OBE ac MBE - gall unrhyw un enwebu

Allweddumynediad llywodraeth y DU