Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Golwg gyffredinol ar drefn y llywodraeth yn y DU

Democratiaeth seneddol yw'r Deyrnas Unedig a chanddi frenhiniaeth gyfansoddiadol. Brenin neu frenhines yw pen y wladwriaeth, a phrif weinidog yw pen y llywodraeth. Mae'r bobl yn pleidleisio mewn etholiadau er mwyn cael Aelodau Seneddol (AS) i'w cynrychioli.

Cyfansoddiad

Does gan y Deyrnas Unedig ddim cyfansoddiad unigol, ysgrifenedig (set o reolau llywodraeth). Ond nid yw hyn yn golygu bod gan y DU 'gyfansoddiad anysgrifenedig'.

Mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf wedi ei ysgrifennu - ond yn hytrach na bod yn un ddogfen ffurfiol, mae'r cyfansoddiad Prydeinig wedi ei ffurfio o amrywiol ffynonellau gan gynnwys cyfraith statudol, cyfraith achosion a wneir gan farnwyr, a chytundebau rhyngwladol.

Ceir rhai ffynonellau anysgrifenedig hefyd, gan gynnwys confensiynau seneddol ac uchelfreintiau brenhinol.

Brenhiniaeth

Mae gwleidyddiaeth yn y Deyrnas Unedig yn digwydd o fewn fframwaith brenhiniaeth gyfansoddiadol, ac ynddi mae'r frenhines (Y Frenhines Elizabeth II) yn ben ar y wladwriaeth, a'r prif weinidog yn ben ar lywodraeth y DU.

Y Prif Weinidog a'r Cabinet

Corff ffurfiol o uwch weinidogion y llywodraeth a ddewisir gan y prif weinidog yw'r Cabinet. Mae'r rhan fwyaf o aelodau yn benaethiaid ar adrannau'r llywodraeth gyda'r teitl 'Ysgrifennydd Gwladol'.

Daw holl aelodau ffurfiol y Cabinet o Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi.

Democratiaeth seneddol

Mae'r DU yn ddemocratiaeth seneddol. Mae hyn yn golygu:

  • bod aelodau'r llywodraeth hefyd yn aelodau o ddau Dŷ'r Senedd (Tŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin) - er bod eithriadau i'r rheol hon
  • bod y llywodraeth yn atebol yn uniongyrchol i'r Senedd - nid yn unig o ddydd i ddydd (drwy gwestiynau seneddol a dadleuon ar bolisïau) ond hefyd gan mai'r Senedd sy'n gyfrifol am fodolaeth y llywodraeth: dim ond oherwydd bod ganddo'r mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin y mae'r parti llywodraethol mewn grym. Gellir diswyddo'r llywodraeth ar unrhyw adeg drwy Dŷ'r Cyffredin drwy bleidlais 'dim hyder'.

Sofraniaeth seneddol

Mae Senedd y DU yn 'senedd sofraniaeth' - golyga hyn bod gan y corff deddfwriaethol 'sofraniaeth absoliwt', hynny yw, mae'n uwch na phob sefydliad llywodraethol arall, gan gynnwys unrhyw gyrff gweithredol neu farnwrol.

Mae hyn yn deillio o'r ffaith nad oes cyfansoddiad ysgrifenedig unigol, sy'n cyferbynnu gyda syniadau am adolygiad barnwrol, lle, pe byddai'r ddeddfwriaeth yn pasio deddf a fyddai'n torri unrhyw hawliau sylfaenol sydd gan bobl o dan eu Cyfansoddiad (ysgrifenedig), mae'n bosibl i'r llysoedd ei wyrdroi.

Yn y DU, y Senedd (ac nid y barnwyr) sy'n penderfynu ar y gyfraith o hyd. Barnwyr sy'n dehongli'r gyfraith, ond nid nhw sy'n ei chreu.

Uchelfraint frenhinol

Yn draddodiadol, mae'r Uchelfraint Frenhinol yn gorff o awdurdod cyffredin, braint, a breintryddid, a gydnabyddir mewn awdurdodaethau cyfraith cyffredin sydd â brenhiniaeth sy'n perthyn i'r Goron yn unig.

Heddiw, caiff y pwerau mwyaf uchelfreiniol eu harfer yn uniongyrchol gan weinidogion, yn hytrach na'r Goron. Maent yn berthnasol i feysydd sy'n cynnwys rheoli'r Gwasanaeth Sifil, rhai meysydd polisi tramor ac amddiffyn, a rhoi penodiadau a breintiau.

Mae'r pwerau hyn y tu hwnt i reolaeth Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi. Golyga hyn er enghraifft, pe byddai llywodraeth Prydain am anfon byddin Brydeinig i rywle, ni fyddai'n rhaid cael caniatâd ffurfiol y Senedd - hyd yn oed, yn ymarferol, pe byddai trafodaeth yn y Senedd cyn gweithredu fel hyn.

Llywodraeth unedol a datganoli

Mae gan y DU system lywodraethol unedol, sef system lle caiff pŵer ei gadw'n ganolog, er bod rhai pwerau wedi'u datganoli i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gwasanaeth sifil parhaol a diduedd

Mae gan y DU wasanaeth sifil sy'n gweithredu'n ddiduedd ac nad yw'n newid pan fydd y llywodraeth yn newid.

Nid yw didueddrwydd yr un fath â niwtraliaeth. Mae gweision sifil yn gweithio i weinidogion y llywodraeth ar y pryd. Golyga didueddrwydd bod gweision sifil, wrth weithio i weinidogion cyfredol, yn cadw hyder y gwrthbleidiau i weithio iddynt os byddant yn dod i rym.

Additional links

Enwebu rhywun am anrhydedd

Caiff dros 2,500 o Brydeinwyr eu hanrhydeddu bob blwyddyn gydag urddau fel OBE ac MBE - gall unrhyw un enwebu

Allweddumynediad llywodraeth y DU